Newid trefniadau etholiadol y Cynulliad

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Yn unol â’r setliad datganoli presennol, nid oes gan y Cynulliad bwerau dros ei drefniadau etholiadol ei hun, gan gynnwys materion fel y math o systemau etholiadol a ddefnyddir ar gyfer etholiadau’r Cynulliad, nifer yr Aelodau Cynulliad a hyd tymhorau’r Cynulliad.  Yn hytrach, dim ond Senedd y DU sy’n gallu newid y trefniadau etholiadol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.

Mewn datganiad ar 12 Mawrth 2013, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ei fwriad i gyflwyno deddfwriaeth o’r fath cyn gynted ag y bo modd.   Yn benodol, dywedodd y byddai’r ddeddfwriaeth honno:

  • yn newid tymor y Cynulliad o fod yn bedair blynedd i fod yn gyfnod penodol o bum mlynedd;
  • yn dileu’r gwaharddiad ar ymgeiswyr yn etholiadau’r Cynulliad rhag sefyll mewn etholaeth a rhanbarth ar yr un pryd (sef ‘ymgeisyddiaeth ddeuol’); ac
  • yn gwahardd Aelodau’r Cynulliad rhag hefyd fod yn Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin ar yr un adeg (er na fydd y gwaharddiad hwn yn berthnasol i Aelodau Tŷ’r Arglwyddi).

Ni chynigiwyd unrhyw newidiadau i ffiniau etholaethau a rhanbarthau’r Cynulliad a nododd yr Ysgrifennydd Gwladol yn glir na fyddai newid i nifer yr Aelodau Cynulliad na’r ffordd y cânt eu hethol.

Dileu’r gwaharddiad ar ymgeisyddiaeth ddeuol a gafodd y sylw mwyaf. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol bod ‘y newidiadau a wnaed yn 2006 yn bleidiol ac wedi’u gwneud i ffafrio’r blaid Lafur’, safbwynt y mae llefarwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cytuno ag ef. Fodd bynnag, roedd y Gwir Anrhydeddus Peter Hain AS, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o’r blaid Lafur, yn feirniadol o’r newidiadau arfaethedig. Dywedodd: ‘Os yw’r pleidleiswyr yn eich gwrthod, ni ddylech herio eu dymuniadau a dod yn Aelod Cynulliad. Pa fath o ddemocratiaeth yw hynny?’

Mae’r cynigion yn dilyn rhaglen diwygio gwleidyddol diweddar Llywodraeth y DU, nad yw’r cyfan ohoni wedi’i rhoi ar waith. Mae datganiad diweddar yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd yn dilyn ymgynghoriad Papur Gwyrdd a gynhaliwyd gan Swyddfa Cymru rhwng mis Mai a mis Awst 2012 y gwnaeth nifer o Aelodau Cynulliad, pleidiau gwleidyddol ac Aelodau Seneddol ymateb iddo.

Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn y gorffennol nad oes gan Lywodraeth y DU fandad i gyflwyno newidiadau i drefniadau etholiadol y cynulliad. Dywedodd, ‘Mae’r Cynulliad yn fater i bobl Cymru a neb arall’.

Mae rhagor o fanylion am gynigion yr Ysgrifennydd Gwladol, gan gynnwys gwybodaeth gefndirol ac ymatebion wedi’u cynnwys ym mhapur y Gwasanaeth Ymchwil ‘Newidiadau arfaethedig i drefniadau etholiadol y Cynulliad‘.


Erthygl gan Owain Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru