Pwerau a gedwir yn ôl ynteu pwerau a roddir?

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

“No one has ever once ever, hand on heart, said to me: ‘Do you know what we need? We need a Scottish-style devolution settlement’”

Felly y dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth gyhoeddi ymateb Llywodraeth y DU i ail ran Comisiwn Silk ar 6 Mawrth 2013. Fodd bynnag, mae’r farn a fynegwyd gan ymatebwyr eraill i ymgynghoriad Comisiwn Silk yn awgrymu’n gryf mai cryfhau a wnaiff y ddadl yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf ynghylch a ddylai Cymru gael model o bwerau tebyg i’r un sydd gan yr Alban.

Roedd ymatebion Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru i Silk 2 i gyd yn dadlau’r achos dros newid y model o bwerau sydd gan y Cynulliad ar hyn o bryd sef y model penodedig neu’r model pwerau a roddir – lle nad oes gan y Cynulliad ond y pwerau a roddir iddo gan Lywodraeth y DU – i system neilltuedig neu system gadw yn ôl fel yr un sydd gan yr Alban. Byddai hyn yn caniatáu i’r Cynulliad ddeddfu ar unrhyw fater ar yr amod na fyddai’r mater dan sylw wedi cael ei gadw’n ôl yn benodol o gymhwysedd y Cynulliad. Cefnogwyd y safbwynt hon hefyd gan lawer o ymatebwyr eraill i’r ymgynghoriad, gan gynnwys yr Arglwydd Morris o Aberafan, Cymdeithas y Cyfreithwyr a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr.

Dadl y rhai sydd o blaid y newid yw bod y setliad presennol wedi bod yn llawn problemau ers iddo ddod i rym ar ddechrau’r Pedwerydd Cynulliad. Yn benodol, mae cyfeirio Deddf Is-ddeddfau Llywodaeth Leol (Cymru) 2012 gan Dwrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU at y Goruchaf Lys a’r bygythiad o gamau tebyg gan Swyddfa Cymru ynghylch cyfreithlondeb Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) (Cymru) 2012, yn arwydd o anawsterau ymarferol o fewn y system a allai danseilio’r holl setliad pe baent yn parhau.

Felly, beth yw’r opsiynau sydd ar gael i sicrhau setliad hirdymor ymarferol? Mae cadw neu ddiwygio’r model presennol, fel y caiff ei amlinellu yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 yn parhau i fod yn ddewis amgen i fabwysiadu fframwaith hollol newydd. Fodd bynnag, yn ogystal â setliad fel sydd gan yr Alban, gallai’r dull a fabwysiadwyd yng Ngogledd Iwerddon, lle y caiff pwerau a gedwir yn ôl eu rhannu’n ddau gategori – sef yr eithriadau i’r setliad a’r rhai a gedwir yn ôl ar hyn o bryd ond y gellir eu datganoli yn y dyfodol – fod yn ddeniadol i lawer yng Nghymru.

Pa bynnag opsiwn a gaiff ei ddatblygu, nid oes amheuaeth y bydd y mater yn rhan amlwg o adroddiad rhan 2 Comisiwn Silk, a ddisgwylir y gwanwyn nesaf.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am bwerau deddfu’r Cynulliad yn yr Hysbysiad Hwylus: Pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae crynodeb o’r materion a godwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad i ail ran Comisiwn Silk ar gael yn y Papur Ymchwil: Crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd ar ran dau o Gomisiwn Silk ar Ddatganoli yng Nghymru.


Erthygl gan Owain Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru