Cymru a’r refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban

18 Medi 2013

Ymhen union flwyddyn, ar ddydd Iau, 18 Medi 2014, bydd gan yr Alban gyfle i benderfynu a yw am barhau’n rhan o’r DU neu a yw am fod yn wladwriaeth annibynnol. Mae’r refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban yn dynodi’r penderfyniad gwleidyddol pwysicaf y bydd pobl yr Alban yn ei wneud ers i Seneddau’r Alban a Lloegr basio’r Deddfau Uno yn 1707.

Os bydd yr Alban yn pleidleisio o blaid, byddai’n naturiol yn codi cwestiynau sylfaenol am natur yr undeb o wledydd sy’n weddill. Yn ôl Prif Weinidog Cymru, byddai annibyniaeth yn yr Alban yn creu anghydbwysedd gwleidyddol sylweddol, yn fwy na dim am y byddai Lloegr yn cyfrif am bron i 92% o boblogaeth y wladwriaeth newydd. Felly, mae sail gref i’r pryderon ynghylch ymyleiddio buddiannau Cymru mewn ‘DU weddilliol’.Fodd bynnag, mae pleidlais ‘Na’ yn annhebygol o ddod â thrafodaethau cyfansoddiadol presennol y DU i ben. Yn fwy na dim, mae canfyddiad cynyddol fod y setliad datganoliadol ar gyfer yr Alban, yn ogystal â Chymru a Gogledd Iwerddon, yn anghyflawn, yn ad hoc ac yn y bôn yn anfoddhaol. Efallai y bydd y canfyddiad hwn yn cynyddu ymhellach yn sgîl gwaith cyfredol Comisiwn Silk, sy’n gobeithio cyhoeddi ei ail adroddiad yng ngwanwyn 2014, ac o ganlyniad i ymateb Llywodraeth y DU i Gomisiwn McKay, a oedd yn ystyried Cwestiwn Lloegr, a gyhoeddir yn yr hydref.

Oherwydd hyn, mae ffigyrau o nifer o bleidiau, gan gynnwys Prif Weinidog Cymru, Prif Weinidog y DU ac arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, wedi awgrymu y dylid sefydlu Confensiwn cyfansoddiadol ar gyfer Dyfodol y Deyrnas Unedig yn fuan wedi’r refferendwm i ddarparu sylfaen ar gyfer DU newydd. Yn ddiweddar, daeth un o Bwyllgorau Tŷ’r Cyffredin i’r casgliad bod dadl dros gael confensiwn, er ei fod yn cydnabod y dylid mynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â llywodraethu Lloegr yn gyntaf.

Mae arolygon barn cyfredol yn dangos y bydd y rhai hynny sydd o blaid yn cael trafferth ennill y refferendwm, gan gael cyfartaledd o 33% mewn arolygon diweddar. Fodd bynnag, yn ôl yr Athro John Curtice o Brifysgol Strathclyde, ni ddylai’r ymgyrch ‘Na’ laesu dwylo. Mae wedi nodinad yw’r ddwy ran o dair o’r Albanwyr sy’n weddill i gyd yn erbyn annibyniaeth gan fod grŵp eithaf sylweddol o bobl sydd ‘Ddim yn Gwybod’ yn yr holl arolygon a gynhaliwyd. Dengys hyn y bydd yr ymgyrch yn dwysáu dros y flwyddyn nesaf. Waeth beth fo’r canlyniad, heb amheuaeth, caiff canlyniad y refferendwm ei deimlo ym mhob rhan o’r DU, ac nid yn yr Alban yn unig, am flynyddoedd a chenedlaethau i ddod.

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi papur ar Gymru a Refferendwm Annibyniaeth yn yr Alban, a fydd yn cynnwys manylion cefndirol am y refferendwm, gwybodaeth am themâu a materion allweddol y refferendwm, a manylion am y goblygiadau ar gyfer Cymru.

Erthygl  gan Owain Roberts.