Trafnidiaeth

Cynigion yr UE ar gyfer porthladdoedd

18 Medi 2013

Llun: Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau. Dan drwydded Creative Commons

Lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd gynigion ar gyfer porthladdoedd yr UE ar 23 Mai. Cyhoeddodd ddogfen gyfathrebu, Ports: an engine for growth, sy’n nodi camau i’w cymryd er mwyn gwella effeithlonrwydd porthladdoedd, a chynigiodd Reoliad i leihau’r cyfyngiadau ar wasanaethau porthladdoedd a datblygu tryloywder ariannol. Mae’n amcangyfrif y gallai’r cynigion arbed €10 biliwn i economi’r UE erbyn 2030 a lleihau costau ei borthladdoedd o 7%.

Mae’r cynigion yn gymwys i’r 319 o borthladdoedd môr allweddol yn Ewrop, gan gynnwys chwech o borthladdoedd yng Nghymru y cyfeiriwyd atynt yn y Rheoliad ar y Rhwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) sydd ar ei hynt drwy broses ddeddfwriaethol yr UE ar hyn o bryd.

Yr angen i weithredu

Mae nodyn y Comisiwn sy’n cyhoeddi’r polisi yn nodi heriau sy’n wynebu porthladdoedd Ewrop:

  •    Y rhagolygon y bydd cargo’r porthladdoedd yn cynyddu o 50% erbyn 2030;
  •     Amrywiaeth o ran effeithlonrwydd porthladdoedd Ewrop a phorthladdoedd llai effeithlon yn effeithio ar lwyddiant porthladdoedd sy’n perfformio’n well; a
  •     Yr angen i borthladdoedd addasu i newidiadau yn y diwydiant, gan gynnwys twf ym maint a chymhlethdod y fflyd cargo.

At hynny, mae’r Rheoliad yn nodi’r angen i fynd i’r afael â chyfyngiadau ar fynediad i’r farchnad a phwysau cystadleuol gwan, prosesau gweinyddol anghymesur, trefniadau ariannol aneglur a diffyg annibyniaeth i rai porthladdoedd o ran penderfynu lefel y taliadau y maent am eu codi.

Y Rheoliad arfaethedig

Mae’r Rheoliad yn cynnwys darpariaethau mewn tri maes:

Mynediad i’r farchnad: sicrhau rhyddid i ddarparu gwasanaethau porthladdoedd ac i gael mynediad i gyfleusterau porthladd hanfodol yn achos darparwyr a sefydlwyd yn yr Undeb Ewropeaidd.

Tryloywder ariannol ac annibynniaeth: rhaid i gyllid cyhoeddus gael ei adlewyrchu’n dryloyw yng nghyfrifon y porthladdoedd a rhaid i’r sail ar gyfer y ffioedd y mae’r porthladdoedd yn eu codi fod yn dryloyw, a rhaid i’r porthladdoedd bennu’r ffioedd hynny.

Darpariaethau cyffredinol a therfynol: bydd yn ofynnol cael Pwyllgor Cynghori i Ddefnyddwyr Porthladdoedd ym mhob porthladd a rhaid ymgynghori â’r pwyllgor hwnnw ar ffioedd seilwaith porthladdoedd. Rhaid i borthladdoedd hefyd ymgynghori â rhanddeiliaid ar faterion fel cydgysylltu gwasanaethau a rhaid i aelod-wladwriaethau sefydlu corff goruchwylio cenedlaethol.

Y ddogfen gyfathrebu  

Yn ogystal â’r Rheoliad, cynigir camau nad ydynt yn rhai deddfwriaethol i:

Sicrhau bod ffrydiau ariannu’r UE yn gydnaws â’r angen i fuddsoddi mewn porthladdoedd;

Sicrhau bod contractau’r porthladdoedd yn destun proses gaffael deg a thryloyw;

  •    Symleiddio prosesau gweinyddu’r porthladdoedd ac gwneud y broses o gymhwyso rheolau cymorth gwladwriaethol i borthladdoedd yn fwy eglur;
  •   Sefydlu pwyllgor deialog cymdeithasol i borthladdoedd er mwyn caniatáu i gyflogwyr a   chyflogeion drafod materion sy’n ymwneud â gwaith;
  •   Annog arloesi, monitro perfformiad ac edrych ar anghenion adnoddau dynol; a
  •   Chefnogi codi ffioedd seilwaith amgylcheddol.

Effaith bosibl ar Gymru

Bydd hyn yn effeithio ar chwech o borthladdoedd Cymru – Caerdydd, Casnewydd, Port Talbot, Abergwaun, Caergybi ac Aberdaugleddau. Er nad yw’r cyfrifoldeb dros bolisi mewn perthynas â phorthladdoedd mwy wedi ei ddatganoli, mae porthladdoedd Cymru yn chwarae rôl bwysig o ran ysgogi economi Cymru.

Mae ymateb cychwynnol Llywodraeth y DU i’r cynigion yn dadlau bod sector porthladdoedd y DU yn destun llai o gyfyngiadau na gweddill yr UE ac mai sector y DU yw’r un sy’n lleiaf dibynnol ar drethdalwyr yn yr UE. Felly, mae’n dadlau nad yw’r materion a godwyd gan y Comisiwn yn berthnasol i’r DU. Yn lle hynny, mae’r cynigion mewn perygl o niweidio’r diwydiant yn anfwriadol ac mae Llywodraeth y DU hefyd yn credu na fydd y cynigion yn effeithiol o ran mynd i’r afael â chystadleuaeth annheg.

Mae sefydliadau sy’n cynrychioli porthladdoedd y DU wedi bod yn feirniadol hefyd. Cyhoeddodd Grŵp Porthladdoedd Mawr y DU (UKMPG), sy’n cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Cyf. (perchnogion porthladdoedd Caerdydd, Casnewydd a Phort Talbot), ddatganiad i’r wasg a oedd yn disgrifio’r rheoliad arfaethedig fel camamserol a diangen ac a allai fod yn niweidiol ac yn annheg i borthladdoedd y DU.[1]

Mae’r holl borthladdoedd yng Nghymru yr effeithir arnynt yn aelodau o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain (BPA) ac mae’r gymdeithas yn cydnabod y gallai’r cynigion fod yn fwy perthnasol i borthladdoedd ar y cyfandir ond mae’n pryderu na fydd y cynigion yn ychwanegu gwerth at sector porthladdoedd y DU, gan gynnwys porthladdoedd Cymru.    Wrth drafod y cynnig i leihau’r cyfyngiadau ar wasanaethau porthladdoedd a dileu arferion annheg neu gyfyngol, dywedodd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain:

We are not aware of any particular pressure from new market entrants but as distinct from most continental ports services in UK ports are very often carried out by the port itself.  UK ports wish to continue with this arrangement, and there are options to do so [under the proposals], but there is considerable bureaucracy involved.

At hynny, er bod y Gymdeithas yn croesawu tryloywder ariannol wrth ddatgelu cyllid cyhoeddus, mae’n pryderu am reoleiddio’r ffioedd a gaiff eu codi gan borthladdoedd, creu grwpiau defnyddwyr porthladdoedd a chorff goruchwylio cenedlaethol a allai ymyrryd â threfniadau presennol yn ddiangen.

Mae Llywodraeth y DU a chyrff porthladdoedd y DU yn y broses o benderfynu ar eu safbwynt ar y cynigion er mwyn ymgysylltu â’r Comisiwn Ewropeaidd.

Erthygl gan Andrew Minnis