Diwygio PAC: dod i gytundeb i glirio’r ffordd ar gyfer gweithredu

2 Hydref 2013

Er y mabwysiadwyd cytundeb gwleidyddol hanesyddol ym mis Mehefin rhwng Senedd Ewrop a Chyngor y Gweinidogion ar nifer fawr o’r cynigion ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) presennol, roedd methiant i gytuno ar nifer fach o elfennau hanfodol yn golygu bod y cytundeb yn y fantol.

Llun o Flickr gan Roger Davies. Dan drwydded Creative Commons

Roedd y Cyngor yn gyndyn o gydweithio â’r Senedd i aildrafod rhai agweddau ar y rheoliadauPAC newydd a drafodwyd ac y cytunwyd arnynt gan Benaethiaid y Gwladwriaethau a’r  Llywodraethau yn ystod y trafodaethau llafurus ar gyllideb yr UE.  Fodd bynnag, yn dilyn Cytuniad Lisbon, mae gan Senedd Ewrop lais cyfartal ar ganlyniadau’r diwygiadau PAC am y tro cyntaf (drwy’r weithdrefn gydbenderfynu) ac roedd yn gyndyn o adael i’r Cyngor dynnu unrhyw agweddau ar y pecyn i ddiwygio’r PAC allan o’r trafodaethau. Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Senedd wedi mynd mor bell â bygwth pleidleisio yn erbyn yr holl gynigion y cytunwyd arnynt eisoes yng nghyfarfod y Cyngor Amaethyddiaeth os na chytunir ar gonsesiynau pellach.

Er rhyddhad i lawer o randdeiliaid, daeth y ddau sefydliad i gytundeb yn ystod y sesiynau trafod terfynol yn hwyr ar 24 Medi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer y cynigion diwygio newydd sydd i’w rhoi ar waith gan yr aelod-wladwriaethau a’r rhanbarthau o 2015 ymlaen.

Beth fydd goblygiadau’r cytundeb terfynol i Gymru?

Bydd y newidiadau y cytunwyd arnynt yn cael effaith sylweddol ar y ffordd y darperir cymorth i ffermydd ac ardaloedd gwledig yng Nghymru. Yr elfen allweddol o hyn yw y rhoddwyd llawer o hyblygrwydd i aelod-wladwriaethau a’r rhanbarthau a fydd yn eu caniatáu i addasu gofynion y polisi i’w tiriogaethau.  Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud nifer o benderfyniadau dros y 12 mis nesaf ynghylch sut y mae am weld y polisi’n cael ei roi ar waith yng Nghymru. Mae’r penderfyniadau hyn yn cynnwys:

  • Pa drefn y bydd yn ei dewis ar gyfer y symudiad gorfodol o fodel hanesyddol o ddosbarthu taliadau uniongyrchol i fodel sy’n seiliedig ar arwynebedd.
  • Sut y bydd y gofynion taliadau gorfodol ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr yn cael eu gweithredu yng Nghymru a pha effaith y bydd hyn yn ei chael ar y broses o roi Glastir, ei chynllun amaeth-amgylcheddol presennol, ar waith.
  • A yw am ddefnyddio’r opsiynau a gynigiwyd iddi i weithredu cynllun ffermwyr bach, taliad atodol ar gyfer hectarau cyntaf fferm, cymorth cysylltiedig a chapio ychwanegol ar daliadau y tu hwnt i ofynion gorfodol ac a yw am ehangu’r diffiniad o ffermwr actif.
  • A yw am drosglwyddo rhai cronfeydd o golofn un (taliadau uniongyrchol i ffermwyr) i golofn dau (datblygu gwledig) a beth yw ei blaenoriaethau ar gyfer y cynllun datblygu gwledig newydd.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi ymgynghoriad sy’n mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn a bydd yn rhaid iddi wneud penderfyniadau mewn da bryd i ganiatáu i systemau taliadau newydd gael eu cyflwyno erbyn 1 Ionawr 2015.

Faint o arian y bydd Cymru’n ei gael?

Ni chytunwyd ar y swm o arian y bydd Cymru’n ei gael yn y cylch nesaf o gyllid CAP eto. Er bod ffigyrau dangosol ar gyfer y DU wedi cael eu cyhoeddi (€17.8 biliwn ar gyfer taliadau uniongyrchol colofn 1 ac €1.84 biliwn ar gyfer colofn 2), nid yw Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig wedi cytuno ar sut y caiff yr arian hwn ei rannu rhyngddynt eto. Mae’n debygol y bydd y cyd-destun gwleidyddol ehangach yn y DU yn effeithio ar y penderfyniad hwn, yn enwedig y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban.

Y camau nesaf

O ganlyniad i’r ffaith y cafwyd cytundeb gwleidyddol ar ddiwygiadau i PAC, bydd trafodaethau ar lawer o’r materion sy’n ymwneud â gweithredu technegol a rheoliadau yn dechrau o ddifrif. Mae’n debygol na fyddwn yn cael darlun clir o sut y bydd y gofynion newydd yn gweithredu yn ymarferol hyd nes Gwanwyn 2014.

At hynny, oherwydd hyd y broses drafod mor belled, bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn drawsnewidiol ac nid blwyddyn gyntaf y system newydd fel y gobeithiwyd yn wreiddiol. Mae hyn yn golygu bod angen i sefydliadau’r UE gytuno ar becyn o fesurau trawsnewidiol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae trafodaethau ar y mesurau hyn wedi cychwyn a byddant yn parhau tan ddiwedd y flwyddyn.

Erthygl gan Nia Seaton