Prif ffigurau’r Setliad Dros Dro i Lywodraeth Leol ar gyfer 2014-15

Cyhoeddwyd 21/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Hydref 2013 Erthygl gan Richard Bettley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ar 16 Hydref, cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth gynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn ystod 2014-15. Mae’r nodyn hwn yn rhoi crynodeb o’r prif bwyntiau, ac mae tabl 1 yn dangos yr arian a ddyrennir fesul awdurdod. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manylion pellach hefyd. 1.        Setliad Refeniw Y setliad cyffredinol 2014-15: £4.26 biliwn, sef gostyngiad o 3.5%, neu £153 miliwn. Mae’r gostyngiadau’n amrywio o doriad o 1.2% yng Nghasnewydd i doriad o 4.6% yn Sir Ddinbych, Ceredigion a Phowys. Mae’r dyraniadau dangosol ar gyfer 2015-16 yn dangos gostyngiadau pellach o 1.55%. Arian sy’n ychwanegol i’r setliad:
  • Mae’n cynnwys amddiffyniad o 1% ar gyfer ysgolion, sef £16 miliwn.
  • Mae’n cynnwys £244 miliwn ar gyfer cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor.  Mae’r Gweinidog wedi comisiynu adolygiad i edrych ar gynllun teg a chynaliadwy ar gyfer y tymor hwy, i’w roi ar waith yn 2015-16, gan ddefnyddio’r arian sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn honno.
Arian a drosglwyddwyd i mewn i’r setliad
  • Trosglwyddwyd £39.3 miliwn o arian grant penodol
  • Dadneilltuwyd dros £30 miliwn a oedd wedi’i nodi cyn hynny ar gyfer Mentrau Cyllid Preifat a’r Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. (Mae swm o £145 miliwn wedi’i drosglwyddo i mewn i’r Grant Cynnal Refeniw yn ystod tymor y Cynulliad hwn).
  • Trosglwyddwyd £3.2 miliwn yn ychwanegol mewn perthynas â’r Pecyn Gwella Camau Cyntaf a £5.2 miliwn i weinyddu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor.
Cyhoeddwyd bod y Gweinidog yn comisiynu adolygiad, ar y cyd â Llywodraeth Leol, o’r grantiau penodol sy’n weddill.
  • Mae’r setliad yn cynnwys £4 miliwn yn ychwanegol i gefnogi’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol ar gyfer Gwella Priffyrdd.
Lleddfu Pennwyd trothwy lleddfu sy’n golygu na fydd yr hyn a ddyrennir i unrhyw awdurdod yn gostwng mwy na 4.75%, ar ôl addasu’r swm ar gyfer trosglwyddiadau.   Gan nad yw hyn yn cynnwys cynlluniau Awdurdodau Lleol i Gymell Twf Busnesau nac arian ar gyfer Mentrau Cyllid Preifat, ni fydd yr hyn a ddyrennir i unrhyw awdurdod yn gostwng mwy na 4.6%. Capio’r dreth gyngor Mae’r Gweinidog wedi datgan yn glir ei bod yn fodlon defnyddio pwerau capio os caiff y dreth gyngor ei chynyddu’n ormodol. 2.        Arian cyfalaf Y Setliad Cyfalaf Dros Dro i Lywodraeth Leol ar gyfer 2014-15 yw £383 miliwn,  sef gostyngiad o £64 miliwn neu 14.4%. Tabl 1 - Setliad Dros Dro 2014-15: cymharu cyfanswm yr arian ar gyfer 2013-14 a 2014-15 LG Prov Cym