Y Gymraeg a deddfwriaeth – y sefyllfa ddiweddaraf

Cyhoeddwyd 21/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Hydref 2013 Erthygl gan Rhys Iorwerth, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae dyfodol y Gymraeg yn fater sydd wedi bod yn destun mwy na thipyn o drin a thrafod ers cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011. Ond beth yw’r diweddaraf o ran y ddeddfwriaeth sy’n sail i hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg yng Nghymru? Dyma amlinelliad byr o’r sefyllfa fel y mae. Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 O dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, mae’n rhaid i nifer o gyrff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg, a’r cynllun hwnnw’n amlinellu sut y bydd y corff dan sylw yn trin yr iaith Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes yng Nghymru. I sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â’r dyletswyddau hyn, sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn ogystal â chymeradwyo a sicrhau cydymffurfiaeth â chynlluniau iaith Gymraeg, roedd gan y Bwrdd gyfrifoldeb ehangach i hyrwyddo a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yn fwy cyffredinol. Er nad oes gan gwmnïau preifat na chyrff yn y trydydd sector ddyletswydd uniongyrchol i ddarparu gwasanaethau dwyieithog o dan Ddeddf 1993, gall fod disgwyl iddynt wneud hynny os ydynt yn darparu rhyw fath o wasanaeth i’r cyhoedd yng Nghymru ar ran corff cyhoeddus sydd wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg o dan y Ddeddf. Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 Dros y blynyddoedd nesaf, mae disgwyl i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gyflwyno newidiadau sylweddol i’r fframwaith uchod. Mae’r Mesur eisoes wedi arwain at ddiddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac at rannu swyddogaethau blaenorol y Bwrdd rhwng Llywodraeth Cymru a swyddfa newydd Comisiynydd y Gymraeg (a sefydlwyd ym mis Ebrill 2012). Yn ogystal â rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, mae Mesur 2011 yn nodi y caiff Comisiynydd y Gymraeg wneud unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn briodol er mwyn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Ar yr un pryd, dros gyfnod o amser, bydd y cynlluniau iaith Gymraeg y cyfeirir atynt uchod yn cael eu disodli gan yr hyn a elwir yn safonau. Bydd y safonau yn gosod dyletswydd ar sefydliadau penodol o ran y Gymraeg ac yn nodi sut y dylent drin a defnyddio’r iaith. Bydd modd i’r safonau gwmpasu pum maes penodol yn hyn o beth: y modd y mae’r sefydliadau’n cyflenwi gwasanaethau; yn llunio polisi; yn gweithredu; yn hybu’r Gymraeg; ac yn cadw cofnodion. Mae’r Mesur yn pennu’n glir pa sefydliadau a chyrff fydd yn gorfod cydymffurfio â’r safonau maes o law. Yn eu plith mae sefydliadau cyhoeddus, yn ogystal â rhai sefydliadau trydydd sector a chwmnïau preifat penodol (gweler Atodlenni 5-8 i’r Mesur am fwy o fanylion). Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol am gyflwyno’r safonau hyn trwy is-ddeddfwriaeth yn y Cynulliad. Ym mis Chwefror 2013, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â derbyn set o safonau arfaethedig a argymhellwyd gan y Comisiynydd. Yn hytrach, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’n mynd ati i ddatblygu ei safonau ei hun. Ym mis Mai 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hamserlen arfaethedig ar gyfer cyflwyno’r set gyntaf o safonau (ar gyfer awdurdodau lleol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol a Gweinidogion Cymru). Cyhoeddwyd amserlen wedi’i diweddaru ar 21 Hydref 2013, gan nodi bod disgwyl i’r set gyntaf o safonau ddod i rym ym mis Tachwedd 2014. Yn y cyfamser, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn parhau i fod yn gyfrifol am unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â chynlluniau iaith Gymraeg o dan fframwaith 1993. Dylid nodi bod elfennau eraill o waith y Comisiynydd yn cynnwys:
  • ymchwilio i achosion lle bydd ymyrraeth honedig wedi bod â rhyddid person i ddefnyddio’r Gymraeg;
  • ymchwilio i gwynion am ddefnydd (neu ddiffyg defnydd) o’r Gymraeg gan sefydliadau;
  • cynnal ymholiadau statudol i unrhyw fater sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiynydd.
Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Ym mis Ebrill 2012, dechreuodd Meri Huws ar ei swydd fel Comisiynydd cyntaf y Gymraeg. Ym mis Awst 2013, cyhoeddodd ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2012-13. Bydd yr adroddiad hwn yn destun dadl yng Nghyfarfod Llawn y Cynulliad ddydd Mawrth, 22 Hydref 2013. At hynny, bydd Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Cynulliad yn cynnal sesiwn graffu gyda’r Comisiynydd ar 14 Tachwedd 2013, ac yna’n cynnal sesiwn debyg gyda’r Prif Weinidog ar 4 Rhagfyr 2013. Ers mis Gorffennaf 2013, gan y Prif Weinidog y mae’r cyfrifoldeb dros oruchwylio a chydlynu polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg.