Gofal dementia mewn sefyllfaoedd acíwt

Cyhoeddwyd 24/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

24 Hydref 2013

Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

‘Ar unrhyw adeg, mae chwarter y gwelyau acíwt mewn ysbytai yn cael eu defnyddio gan bobl sydd â dementia’. Mae adroddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mawrth 2011, Gofal Gydag Urddas? yn amlygu pryderon ynghylch diffyg gwybodaeth am anghenion pobl sydd â dementia, y lefel o hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael, cyfathrebu, a safonau gofal mewn ysbytai. Mae'r adroddiad diweddaraf (Gorffennaf 2013) ar yr archwiliad cenedlaethol o ofal dementia mewn ysbytai cyffredinol yn nodi bod problemau parhaus yn ansawdd y gofal y mae pobl sydd â dementia yn ei gael mewn ysbytai yng Nhgymru a Lloegr. Mae'r canfyddiadau allweddol (yng Nghymru a Lloegr) yn cynnwys y ffaith nad yw 41% o ysbytai yn cynnwys hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia yn eu rhaglenni cynefino staff. Yn ystod y 12 mis cyn yr archwiliad:
  • nid oedd 21% o ysbytai yn rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i feddygon neu weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd;
  • nid oedd 11% o ysbytai yn rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i nyrsys, ac nid oedd 10 % yn rhoi'r hyfforddiant hwn i gynorthwywyr gofal iechyd;
  • nid oedd 40% o ysbytai yn rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth dementia i staff cynorthwyol yn yr ysbyty.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi nodi bod gwella hyfforddiant i'r rhai sy'n darparu gofal yn flaenoriaeth allweddol wrth ddatblygu a gwella gwasanaethau i'r rhai sy'n dioddef o ddementia yng Nghymru. Nododd Datganiad Cabinet yn 2011 fod cyllid ychwanegol ar gael i wella hyfforddiant ym maes dementia, ac i sicrhau bod pobl sydd â dementia yn cael gofal ag urddas a pharch ym mhob amgylchedd, ac yn enwedig ar wardiau ysbytai. Gan gyfeirio at yr adroddiad archwilio, dywedodd Cymdeithas Alzheimer:
Mae ysbytai o dan bwysau cyhoeddus a gwleidyddol enfawr i wella eu safonau, ond o ystyried bod pobl â dementia yn llenwi chwarter y gwelyau mewn ysbytai, mae'n warthus nad yw gwella gofal ym maes dementia yn brif flaenoriaeth i nifer o reolwyr ysbytai.
Cytunodd y Coleg Nyrsio Brenhinol bod angen gwneud rhagor i wella hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ym maes dementia, ond hefyd nododd bwysigrwydd yr angen am nyrsys dementia arbenigol. Nododd adroddiad a gyhoeddwyd yn 2013 a baratowyd ar gyfer y Coleg gan brifysgol Southampton, pe bai nyrsys arbenigol mewn dementia yn gallu lleihau'r cyfnod y mae pobl hŷn yn aros yn yr ysbyty gan ddiwrnod ar gyfartaledd, byddai modd cael enillion blynyddol ar fuddsoddiad o 37% gydag arbediad net o bron £11 miliwn yn genedlaethol. Mae adroddiad cynnydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Gofal gydag Urddas: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach, yn disgrifio’r newid a’r gwelliannau mewn gwasanaethau dementia fel proses sy’n digwydd yn rhy araf, a bod yn rhaid i staff ysbytai allu deall a rheoli dementia yn well.