Cymwysterau Cymru

Cyhoeddwyd 29/10/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

29 Hydref 2013 Erthygl gan Sian Hughes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_583" align="alignnone" width="300"]Llun: o Flickr gan Pete. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan Pete. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch sefydlu corff cymwysterau newydd i Gymru.  Daw'r ymgynghoriad i ben ar 20 Rhagfyr 2013. Mae'r cymwysterau sydd ar gael i bobl ifanc yn faes lle y mae'n debygol y bydd gwahaniaethau amlwg yn y dyfodol ledled y DU.  Hyd yn hyn, un dull gweithredu a gafwyd ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ond mae'r 'dull tair gwlad' yma yn debygol o ddod i ben.  Mae system gywymsterau annibynnol wedi bodoli yn yr Alban ers blynyddoedd lawer. Sefydlu'r corff newydd, sef 'Cymwysterau Cymru', oedd un o argymhellion Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru (Tachwedd 2012).  Canfu'r adolygiad nad yw'r trefniadau presennol, lle mae Gweinidogion yn gyfrifol am reoleiddio cymwysterau ac am y polisïau sy'n sail i'r cymwysterau. Cynnig yr ymgynghoriad yw y dylid sefydlu corff annibynnol, statudol, a gaiff ei ariannu'n bennaf gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd, (o fis Medi 2015) yn gyfrifol am swyddogaethau sicrhau ansawdd a fydd yn disodli'r swyddogaethau rheoleiddio y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt ar hyn o bryd. Yn yr hir dymor, hefyd, mae'r Llywodraeth yn awgrymu y dylai Cymwysterau Cymru fod yn gyfrifol am ddyfarnu'r rhan fwyaf o gymwysterau myfyrwyr 14-16 oed Cymru, Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru. Ar hyn o bryd, ceir pump corff dyfarnu sy'n cynnig TGAU a Safon Uwch yng Nghymru a gall ysgolion ddewis cymwysterau gan unrhyw gorff dyfarnu.  Ar hyn o bryd, CBAC sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r cymwysterau cyfferdinol a gaiff eu hastudio gan ddysgwyr yng Nghymru a bron bob un o'r cymwysterau cyffredinol cyfrwng Cymraeg. Roedd yr adolygiad yn cydnabod y byddai goblygiadau ariannol a sefydliadol i CBAC yn sgîl sefydlu'r corff newydd. Mae CBAC wedi croesawu'r ymgynghoriad. Dull gweithredu tair gwlad Mae'r dull gweithredu tair gwlad at gymwysterau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi cael ei harwain yn bennaf gan y rheoleiddiwr arholiadau ym mhob gwlad, gyda'r penderfyniadau ynghylch y rhan fwyaf o gymwysterau yng Nghymru yn cael eu cymryd ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon. Gyda newidiadau i TGAU a Safon Uwch yn Lloegr, sydd heb eu hadlewyrchu yng Nghymru, mae'r gwaith o reoleiddio cymwysterau a rennir wedi mynd yn gynyddol anoddach fel y gwelwyd yng nghanlyniadau TGAU Iaith Saesneg yn 2012. Nododd adroddiad Pwyllgor Addysg Tŷ'r Cyffredin ar ganlyniadau TGAU Lloegr yn 2012 y byddai'n druenus pe bai swyddogaethau cymwysterau a rheoleiddio'r tair gwlad yn dod i ben, gan obeithio y byddai cyd-berchnogaeth yn parhau. Fodd bynnag, mae'r ddogfen ymgynghori yn egluro bod Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw un system gymwysterau ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, o gofio'r newidiadau sy'n digwydd yn Lloegr, bellach yn briodol, nac yn hyfyw, i Gymru. Yn y cyfamser, ym mis Hydref 2012, yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau polisi yn Lloegr, cyhoeddodd John O'Dowd, Gweinidog Addysg Gogledd Iwerddon, y byddai CCEA, sef Cyngor y Cwricwlwm, Arholiadau ac Asesu, yn cynnal adolygiad sylfaenol o gymwysterau TGAU a Safon Uwch.   Dechreuodd ymgynghoriad ar argymhellion yr adolygiad ar 30 Medi 2013, gan gynnwys argymhellaid y dylid cynnal adolygiad o'r system o reoleiddio a sicrhau ansawdd y cymwysterau sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon i gefnogi TGAU a Safon Uwch Gogledd Iwerddon. Mae'r ymgynghoriad ar y corff cymwysterau newydd yn cydredeg ag ymgynghoriad ar wahân ar gwricwlwm ac asesu ar wahân, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Hydref.