Gweithredu Silk 1

Cyhoeddwyd 04/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

5 Tachwedd 2013 Erthygl gan Owain Roberts, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ddydd Gwener, cyhoeddodd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog ymateb hir-ddisgwyliedig Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ar bwerau ariannol. Mae Llywodraeth y DU yn honni mai ei becyn diwygio fydd y cam datganoli mwyaf mewn degawdau, ond beth yw'r newidiadau sy'n cael eu cynnig, a phryd a sut y byddant yn cael eu gweithredu? Roedd datganiadau Clegg a Cameron yn y Senedd, ynghyd â datganiad ysgrifenedig dilynol Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn mynd i'r afael â materion blaenllaw y gwnaed argymhellion yn eu cylch yn adroddiad cyntaf Silk – yn bennaf datganoli'r dreth tirlenwi a threth dir y dreth stamp; rhoi pwerau benthyca newydd i Weinidogion Cymru; a datganoli pwerau treth incwm cyfyngedig, yn amodol ar ganlyniad refferendwm. O ran gweithredu, mae Prif Weinidog Cymru wedi dynodi y byddai'r pwerau hyn yn cael eu datganoli drwy Fil Cymru newydd, a gaiff ei gyflwyno yn ystod sesiwn olaf y Senedd bresennol. Bydd y sesiwn hwnnw'n dod i ben ar 31 Mawrth 2015, cyn y cynhelir etholiad cyffredinol y DU yn ystod y mis Mai canlynol. Mae'n bosibl y bydd Bil Cymru drafft yn cael ei gyhoeddi cyn cyflwyno'r Bil, a bydd y Bil drafft hefyd yn cynnwys darpariaethau a fydd yn berthnasol i newidiadau i drefniadau etholiadol y Cynulliad. Fodd bynnag, mae'r manylion ynghylch beth yn union a gaiff ei gynnwys yn y Bil braidd yn niwlog. Rydym yn parhau i aros am wybodaeth am natur y pwerau benthyca a fydd yn cael eu rhoi i Weinidogion Cymru, yn ogystal â'r prosesau a fydd ynghlwm wrth gynnal refferendwm ar bwerau treth incwm. Yn ogystal, yn sgil y datganiadau a wnaed ddydd Gwener, nid yw'n glir beth yw barn Llywodraeth y DU ar rai o argymhellion blaenllaw eraill Silk. Yn benodol, nid yw'r Llywodraeth yn dweud dim ynghylch a ddylai'r Cynulliad gael pwerau i gyflwyno trethi newydd yn y dyfodol, ac nid yw'n rhoi unrhyw fanylion ynghylch a ddylai'r Cynulliad gael rheolaeth ddeddfwriaethol ar ei weithdrefnau cyllidebol ei hun. Gallai'r mater olaf hwnnw fod yn arbennig o arwyddocaol, oherwydd gallai roi cyfle i'r Cynulliad ail-lunio ei ddull o graffu ar faterion ariannol yn rhinwedd ei bwerau newydd.  Mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd yn ymateb i'r argymhellion sy'n weddi o'r 33 a wnaed gan Gomisiwn Silk erbyn diwedd y flwyddyn. O ran yr amserlen, byddai cyflwyno'r Bil yn ystod y Senedd bresennol yn awgrymu y bydd y pwerau newydd yn cael eu datganoli i'r Cynulliad mewn pryd ar gyfer cychwyn y Pumed Cynulliad ym mis Mai 2016. Felly, yn ymarferol, mae'n debygol mai'r gyllideb ar gyfer 2017-2018 fydd y gyllideb gyntaf i fanteisio ar y pwerau newydd mewn perthynas â benthyca, y dreth tirlenwi a threth dir y dreth stamp, a fyddai'n cael eu hystyried yn fanwl gan y Cynulliad chwe mis cyn hynny, sef ym mis Hydref 2016. Mewn perthynas â threth incwm, pe bai Bil yn cael ei basio yn ystod y Senedd bresennol, byddai hynny'n rhoi'r cyfle i'r Cynulliad gynnal refferendwm mor fuan â 2017, sef amserlen sy'n cydymffurfio â'r dyddiad a gafodd ei argymell ar gyfer y refferendwm gan Gomisiwn Silk. Fodd bynnag, mae'n anhebygol y bydd refferendwm yn cael ei gynnal yn ystod y cyfnod hwnnw, yn enwedig o gofio ymateb cyntaf Prif Weinidog Cymru i gyhoeddiad Llywodraeth y DU, ac o gofio'r ffaith ei bod yn bosibl y bydd refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn. Beth bynnag fydd cynnwys y Bil, bydd y broses o graffu ar y Bil ar ei ffurf ddrafft a'r fersiwn a gaiff ei chyflwyno dros y misoedd sydd i ddod yn rhoi cyfleoedd gwirioneddol i randdeiliaid Cymru a'r Cynulliad graffu'n gadarn ar y darpariaethau sydd wedi'u cynnwys, a hynny er mwyn dylanwadu ar gam nesaf Cymru ar ei thaith ddatganoli.