Gwastraff bwyd

Cyhoeddwyd 08/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

8 Tachwedd 2013 Erthyl gan Matthew McLeod a Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_605" align="alignright" width="300"]Llun: o Flickr gan JBloom. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan JBloom. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Mae'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Tesco yn ddiweddar yn dangos ei fod wedi gwastraffu bron i  30,000 tunnell o fwyd yn ei siopau yn y DU yn hanner cyntaf y flwyddyn hon. Fodd bynnag, nid yw hyn ond cyfran fechan iawn o'r 15 miliwn tunnell o fwyd sy'n cael ei wastraffu bob blwyddyn yn y DU, ac mae tua hanner hwnnw'n dod o'n cartrefi. Mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar yn dangos fod tua 400,000 tunnell o fwyd a diod, sy'n ddiogel i'w defnyddio, yn cael eu gwastraffu gan gartrefi Cymru bob blwyddyn.  Mae hynny'n golygu bod gwerth tua £50 y mis o fwyd yn cael ei wastraffu am bob teulu yng Nghymru. Nid yn unig y mae hyn yn wastraff arian, ond mae'n achosi effeithiau amgylcheddol hefyd, gan gynnwys creu nwyon tŷ gwydr di-angen sy'n cyfrannu at gynhesu byd-eang a newid hinsawdd. Nod ymgyrchoedd fel ‘Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff’, a lansiwyd yn 2007, yw lleihau gwastraff bwyd, ac mae gwastraff bwyd yn uchel ar yr agenda ar lefel yr UE, y DU a Chymru.

Mae'r bwyd y mae archfarchnadoedd yn ei wastraffu yn bwnc llosg, ac mae ymgyrchwyr materion gwyrdd yn honni bod archfarchnadoedd mawr y DU - sy'n cynhyrchu amcangyfrif o 300,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn - yn methu â darparu ffigurau manwl am faint eu gwastraff. Gydag adroddiadau newyddion yn rhoi sylw i'r modd y mae mwy a mwy o bobl yn dibynnu ar fanciau bwyd (mae rhai yn amcangyfrif bod tua hanner miliwn o bobl bellach yn eu defnyddio yn y DU), mae'n ymddangos bod y bwlch rhwng gwastraff bwyd a'r angen am fwyd yn cynyddu.

Mae Deddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 yn enghraifft o'r deddfau a'r rheoliadau sy'n rheoli'r diwydiant bwyd. Yn ôl yr Asiantaeth Safonau Bwyd caiff archfarchnadoedd roi unrhyw fwyd dros ben i ffwrdd am ddim, ac mae'r un ddeddfwriaeth ac atebolrwydd yn gymwys boed y bwyd yn cael ei roi am ddim neu'n cael ei werthu gan y siop. Mae'n nodi dau gwestiwn allweddol i'w hystyried. A yw'r bwyd yn addas i bobl ei fwyta? A yw'r bwyd heb ei halogi? Ar hyn o bryd nid yw'n edrych yn debyg bod unrhyw ganllawiau ar gael i archfarchnadoedd sydd am roi bwyd am ddim, ond mae sefydliadau'r Llywodraeth, fel y Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau (WRAP) yn chwarae rhan flaengar mewn ceisio annog ymddygiad mwy cynaliadwy, fel rhoi bwyd dros ben i ffwrdd am ddim yn hytrach na'i wastraffu.

Mae Cymru eisoes yn arwain y DU mewn rhai meysydd o bolisi gwastraff.  Er enghraifft, yn 2011, hi oedd gwlad gyntaf y DU i godi tâl am fagiau untro, ac mae'r Papur Gwyn ar gyfer Bil yr Amgylchedd yn awgrymu y gellid ymestyn y taliadau gofynnol hynny i gynnwys bagiau am oes. Mae'r nodyn ymchwil hwn yn disgrifio maint y gwastraff bwyd yn y DU, o ble y daw, yn ogystal â rhai o'r mesurau polisi a gyflwynwyd yng Nghymru, y gweinyddiaethau datganoledig eraill a'r DU, ar gyfer lleihau ac ailddefnyddio gwastraff bwyd.

Darllenwch gyhoeddiad newydd y Gwasanaeth Ymchwil ar wastraff bwyd fan hyn.