Dyfodol rheoleiddio ac arolygu gofal a chymorth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Tachwedd 2013 Erthyl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar reoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ddiweddar. Mae’r papur yn amlinellu cynigion ar gyfer deddfwriaeth, ac mae Bil ar y gweill ar gyfer 2015. Yr wythnos diwethaf darparodd swyddogion Llywodraeth Cymru ‘friff technegol’ ar y Papur Gwyn i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad. Nid yw’r Papur Gwyn yn cynnig newid radical i swyddogaethau rheoleiddio Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a fyddai’n parhau i reoleiddio’r gwasanaeth, nac i swyddogaethau Cyngor Gofal Cymru, a fyddai’n parhau i arolygu materion yn ymwneud â gweithlu. Fodd bynnag, byddai Cyngor Gofal Cymru yn ymestyn ei swyddogaeth o ran gwella gwasanaethau, ac yn newid i gael ei alw yn Sefydliad Gofal a Chymorth Cenedlaethol. Yn unol ag amcan polisi Llywodraeth Cymru o ymrymuso defnyddwyr yn well, mae’r Papur Gwyn yn cynnig y dylid gwella tryloywder gwasanaethau. Byddai’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gofal lunio adroddiad blynyddol, byddai gwybodaeth a gedwir gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gael yn haws, a byddai’r cyhoedd yn cymryd rhan fwy amlwg yng ngwaith Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Byddai’r ffocws yn newid, o ganolbwyntio ar sefydliadau gwasanaeth unigol fel y mae ar hyn o bryd, i reoleiddio darparwyr gwasanaethau. Byddai hynny, ynghyd ag atebolrwydd corfforaethol cryfach a dyletswyddau newydd ar awdurdodau lleol i asesu cyflenwad a galw yn eu hardaloedd, yn caniatáu i’r rheoleiddiwr fonitro cyflwr ariannol a sefydlogrwydd corfforaethol darparwyr allweddol. Yn ei dro, byddai hynny’n hwyluso gwell trefniadau cynllunio wrth gefn, a gobeithio, yn helpu i gynnal gwasanaethau pe digwydd i’r darparwr fethu. Byddai’n ofynnol i’r darparwyr eu hunain asesu risgiau i barhad gwasanaethau a nodi’n glir sut y byddent yn ymateb i unrhyw anawsterau. Byddai cynigion o’r fath, ynghyd â chynlluniau ar gyfer rhagor o integreiddio yn y cyrff rheoleiddio ac arolygu drwyddynt draw, ym marn Llywodraeth Cymru, yn darparu’r hyblygrwydd sy’n angenrheidiol i ymateb i fodelau gofal newydd a modelau gofal sy’n datblygu, gan gynnwys y rhai sy’n croesi ffiniau gwasanaethau, fel iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Papur Gwyn yn cynnig cadw y dull cofrestru gweithlu yn ei ffurf bresennol.  Rhoddwyd cynlluniau i ymestyn y rheidrwydd i gofrestru i bob staff gofal o’r neilltu beth amser yn ôl, ac ni fydd cofrestru gwirfoddol yn cael ei roi ar waith. Fodd bynnag, mae’n parhau’n bosibl y bydd grwpiau newydd o staff, fel gofalwyr maeth, eiriolwyr annibynnol ac arolygwyr y gwasanaethau cymdeithasol yn cofrestru. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn barn ynghylch pa mor ddymunol yw “dadgofrestru” pobl nad ydynt yn addas i weithio yn y maes. Yn olaf, mae’r Papur Gwyn yn codi’r cwestiwn, a ddylai swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â gofal cymdeithasol gael eu cadw o fewn Llywodraeth Cymru?  Gall hyn greu dadl ynghylch y ffordd orau o sicrhau bod dulliau rheoleiddio yn annibynnol. Ers i’r ddeddfwriaeth bresennol, Deddf Safonau Gofal 2000, gael ei chyflwyno, mae modelau darparu gwasanaethau a disgwyliadau’r cyhoedd wedi datblygu, a bu mwy o bryderu ynghylch safon gwasanaethau gofal a chynaliadwyedd ariannol rhai darparwyr. Y flwyddyn nesaf, bydd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)  yn dechrau creu fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gobeithia Llywodraeth Cymru, a’r sector gofal, y gall y cynigion hyn ymateb i heriau’r darlun gofal newydd hwn, a helpu i sicrhau y gall defnyddwyr gwasanaethau gofal a’u teuluoedd fod yn hyderus y byddant yn cael gwasanaethau o’r radd flaenaf bob amser. Mae’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn parhau tan 6 Ionawr 2014.