Gadewch i ni siarad am arian datblygu gwledig

Cyhoeddwyd 13/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Tachwedd 2013 Erthyl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd bapur briffio'n dwyn y teitl Let’s talk about rural development money! ym mis Hydref 2013. Mae'r papur yn ystyried y goblygiadau ariannol sydd ynghlwm wrth roi'r rhaglenni datblygu gwledig presennol ar waith (2007-13) yn yr aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau gan hefyd geisio dysgu gwersi erbyn y cylch nesaf o raglenni datblygu gwledig (2013-2020). Mae'r papur yn cynnwys ystadegau defnyddiol am y ganran o’r cyllid a gafodd pob aelod-wladwriaeth, sut y defnyddiwyd y cyllid drwy'r UE a pherfformiad yr aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau o ran rhoi eu cynlluniau datblygu gwledig ar waith. Mae Graff 1 yn y ddogfen yn dangos y gyfran o’r cyllid datblygu gwledig a gafodd pob aelod-wladwriaeth rhwng 2007-13. Gwlad Pwyl gafodd y gyfran fwyaf (14%) a Luxembourg gafodd y gyfran leiaf  (0.1%). Cafodd y DU 5 y cant  sy'n uwch na'r gyfran a gafodd y Ffindir, Sweden ac Iwerddon  ond yn  is na'r gyfran a gafodd Sbaen, Ffrainc, yr Almaen a'r Eidal. 3 Ffynhonnell: Y Comisiwn Ewropeaidd Hawlfraint yr Undeb Ewropeaidd Mae'r papur yn dangos bod yr aelod-wladwriaethau wedi gwario'r gyfran fwyaf o'r cyllid (45%) ar fesurau amgylcheddol a rheoli tir Echel 2,  a bod 33% wedi'i wario ar fesur cystadleurwydd Echel 1 a dim ond 13% ar fesurau arallgyfeirio ac ansawdd bywyd Echel 3. Gwariodd y DU y rhan fwyaf o'i chyllideb datblygu gwledig (75%) ar fesurau'r amgylchedd a thir  sef un o'r cyfrannau uchaf yn y DU a dim ond Iwerddon wariodd mwy ar fesurau Echel 2 (80 %). Mae'r papur hefyd yn mesur datganiadau o wariant yr aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau i'r Comisiwn Ewropeaidd ar ddiwedd 2012 o'u cymharu â'r hyn roeddent wedi bwriadu ei wario. Iwerddon oedd â'r gyfradd uchaf o ran rhoi cynlluniau ar waith (84%) ac yna Luxembourg (80%), a Bwlgaria, Gwlad Groeg (46%) a Romania (44%) oedd â'r cyfraddau isaf. Mae'r cyfraddau yn y DU yn y cyswllt hwn yn amrywio o'r naill weinyddiaeth i'r llall. Yr Alban sydd â'r cyfraddau uchaf, rhwng 70% a 79%, rhwng 60% a 69% yw'r gyfradd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon a Chymru sydd â'r gyfradd isaf, sef rhwng 50% a 59%. 4 Ffynhonnell: Y Comisiwn Ewropeaidd Hawlfraint yr Undeb Ewropeaidd Mae'r papur yn nodi nifer o resymau dros yr amrywiaeth yn y cyfraddau mewn gwahanol aelod-wladwriaethau. Mae'r rhain yn cynnwys:
  • Pryd y cyflwynir y rhaglenni gerbron y Comisiwn a safon y rhaglenni hynny;
  • Y systemau sydd wedi'u sefydlu i'w rhoi ar waith;
  • Y mesurau yn y Rhaglen Datblygu Gwledig a ddewisir a'r modd y cânt eu cynllunio;
  • Profiad yr aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau o'r broses;
  • Sut a pha mor gyflym y gellir cwblhau'r broses ariannol
  • Y cyfyngiadau cyllidebol sy'n ei gwneud yn anodd i'r aelodau gael hyd i arian cyfatebol.