Pwyllgor yn lansio Adroddiad ar ei Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc

Cyhoeddwyd 14/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

14 Tachwedd 2013 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Pwyllgor Menter a Busnes wedi cyhoeddi ei adroddiad a'i argymhellion yn dilyn ei ymchwiliad i entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc yng Nghymru. Roedd Aelodau'r Pwyllgor yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru yng Nghaerffili ddydd Mercher i lansio'r adroddiad. YE Report picYn ystod ei ymchwiliad, cafodd y Pwyllgor Menter a Busnes dystiolaeth gan ystod o bobl, gan gynnwys entrepreneuriaid ifanc, sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl ifanc, y sector busnes a phobl ynghlwm wrth ddarparu addysg. Mae'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor wedi bod yn sail i'w adroddiad ysgrifenedig a'r deg argymhelliad y mae'n ei wneud i Lywodraeth Cymru. Un o'r prif broblemau y daeth y Pwyllgor o hyd iddi oedd diffyg cysylltiad rhwng lefel y diddordeb a’r awydd am entrepreneuriaeth ymysg yr ifanc a nifer gwirioneddol y busnesau a gaiff eu dechrau gan bobl ifanc o ganlyniad.  Mae bwlch rhwng yr awydd cryf hwnnw a'r sefyllfa mewn gwirionedd.  Roedd y Pwyllgor yn cydnabod llwyddiant prifysgolion yng Nghymru, sydd wedi'i adlewyrchu yn nifer uchel y graddedigion sy'n dechrau busnesau newydd yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU, ond roedd hefyd o'r farn bod angen gwneud mwy o waith i edrych ar beth sy'n digwydd i uchelgais entrepreneuraidd pobl ifanc. Roedd y Pwyllgor yn cydnabod y gwaith da sylweddol sy'n cael ei wneud yng Nghymru, ond mae'n argymell camau gweithredu ar gyfer nifer o feysydd.  Mae'r rheiny'n cynnwys dull mwy cyson o fesur y ffyrdd y mae pobl ifanc yn ymgysylltu ag entrepreneuriaeth ac yn cychwyn eu busnesau eu hunain, ac ymgorffori entrepreneuriaeth ymhellach yn y system addysg gan ddefnyddio'r Fagloriaeth Cymru ddiwygiedig, a gaiff ei chyflwyno ym mis Medi 2015. Bu'r gynulleidfa yng Nghanolfan Arloesi Menter Cymru yn holi Aelodau Cynulliad y Pwyllgor am eu canfyddiadau a'r rhesymau tu ôl i'w hargymhellion. Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn argymell rhoi cynllun i bobl ifanc sydd â diddordeb dechrau busnes ynghyd â phwynt cyswllt canolog sy'n darparu cyngor a chymorth iddynt.  Mae hefyd yn annog mwy o rôl i bartneriaid fel Menter yr Ifanc ac Ymddiriedolaeth y Tywysog o ran gweithredu Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru. Caiff adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w hystyried.  Disgwylir ymateb gan y Llywodraeth yn y misoedd nesaf.