'Ni fu gwrando ar blant a phobl ifanc erioed cyn bwysiced'

Cyhoeddwyd 18/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Tachwedd 2013 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru CC LogoDyna neges allweddol Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru, yn Adroddiad Blynyddol 2012-13 a gyhoeddwyd ganddo yn ddiweddar. Caiff yr adroddiad ei drafod yng Nghyfarfod Llawn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 19 Tachwedd 2013. Bu'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn gwrando ar dystiolaeth y Comisiynydd ynghylch gwaith ei swyddfa a chanfyddiadau ei adroddiad, mewn sesiwn graffu ar 6 Tachwedd 2013.  Gellir gwylio’r sesiwn ar Senedd TV. Sefydlwyd swyddfa'r Comisiynydd Plant yn 2000, mewn ymateb i ganfyddiadau ymchwiliad tribiwnlys Waterhouse i'r honiadau o gam-drin plant mewn gofal yng ngogledd Cymru yn y 1970au a'r 1980au. Roedd adroddiad tribiwnlys Waterhouse, Ar Goll mewn Gofal, yn gwneud amrywiaeth eang o argymhellion ar gyfer newid y modd y mae plant mewn gofal yn cael eu diogelu gan awdurdodau lleol, gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu. Roedd y rheini'n cynnwys sefydlu Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru. Rhan o gylch gwaith y Comisiynydd fyddai monitro'r trefniadau ar gyfer derbyn cwynion gan blant ac eiriol ar eu rhan. Cam-drin plant yng ngogledd Cymru yn y gorffennol O'r 535 o achosion unigol y bu swyddfa'r Comisiynydd yn ymwneud â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd 99 ohonynt yn achosion o gam-drin plant yn y gorffennol. Cyfeiria'r Comisiynydd at honiadau yn y cyfryngau ym mis Tachwedd 2012, a oedd yn awgrymu bod ymchwiliad Waterhouse wedi methu â darganfod gwir hyd a lled y gamdriniaeth yng nghartrefi gofal gogledd Cymru yn y gorffennol. Dechreuwyd ymchwiliad newydd gan yr heddlu, Ymgyrch Pallial, i adolygu'r modd yr ymdriniwyd â'r honiadau gwreiddiol o gam-drin plant mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru yn y gorffennol.  Mae'r ymchwiliad hwnnw'n parhau. Mae ymchwiliad arall ar y gweill hefyd, sef Adolygiad Macur, i ystyried y modd y cynhaliwyd Ymchwiliad Waterhouse a’i gylch gwaith. Darparu eiriolaeth Roedd tribiwnlys gwreiddiol Waterhouse wedi argymell sefydlu swyddog cwynion plant ym mhob awdurdod lleol, a hefyd sefydlu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol. Mae'r Comisiynydd wedi siarad am ei rwystredigaeth ynghylch arafwch y cynnydd o ran ymateb i'w argymhellion am ddarparu eiriolaeth anibynnol yn ei adroddiad Lleisiau Coll 2012, a'r adroddiad a ddilynodd yn 2013, Lleisiau Coll, Cynnydd Coll. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn Prif nod y Comisiynydd yw diogelu a hybu hawliau a lles plant, a thalu sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth y mae ef a'i dîm yn ei wneud. Mae gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn 54 erthygl, a cheir crynodeb ohonynt yma. Mae'r erthyglau yn pennu amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Mae'r Comisiynydd yn datgan ei farn am y rhain yn ei Adroddiad Blynyddol. Hefyd, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn pennu sut y dylai llywodraethau ac oedolion gydweithio i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn medru arfer eu hawliau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am gyflwyno Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, sy'n ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y gyfraith ddomestig yng Nghymru. Gan gyfeirio at y Mesur yn ei Adroddiad Blynyddol, mae'r Comisiynydd yn dweud 'ochr yn ochr â braint torri tir newydd daw cyfrifoldeb i wneud pethau’n iawn'. Y flwyddyn nesaf, bydd y Cenhedloedd Unedig yn derbyn tystiolaeth ac yn archwilio beth ragor y gall y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ei wneud i weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn llawn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ei Hadroddiad Drafft i'r Cenhedloedd Unedig. Hefyd, derbynnir tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, pedwar Comisiynydd Plant y DU, y Sefydliadau Anllywodraethol, a chan y plant a'r bobl ifanc eu hunain.