Wythnos Gwrth-Fwlio

Cyhoeddwyd 18/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

18 Tachwedd 2013 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Heddiw yw diwrnod cyntaf Wythnos Gwrth-fwlio, sy’n ddigwyddiad blynyddol i godi ymwybyddiaeth o fwlio ledled y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyhoeddi nifer o gyhoeddiadau ynghylch bwlio. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn cynnwys Parchu eraill: Canllawiau gwrth-fwlio a gyhoeddwyd yn 2003 a Parchu eraill: Trosolwg gwrth-fwlio - Canllawiau a gyhoeddwyd yn 2011. Ni chyhoeddir data ar achosion o fwlio yn arferol. Casglodd Arolwg Cymru Gyfan o Fwlio mewn Ysgolion a gyhoeddwyd yn 2009, wybodaeth gan dros 7,000 o blant a phobl ifanc. Yna cyhoeddwyd  Arolwg i Nifer a Mynychder Achosion o Fwlio mewn Ysgolion yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yn 2010. I gyd-fynd â dechrau’r wythnos gwrth-fwlio, mae Barnardo’s Cymru wedi lansio canfyddiadau ei arolwg yntau o 600 o blant a phobl ifanc, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2013. Mae’r arolwg yn awgrymu fod dros hanner plant Cymru wedi bod yn dyst i fwlio ar sail anabledd, rhywioldeb neu gefndir diwylliannol.