Papur Ymchwil ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar Ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin 2014-2020

Cyhoeddwyd 26/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

21 Tachwedd 2013 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bu’r Gwasanaeth Ymchwil yn gweithio gyda chydweithwyr yn y cyrff seneddol drwy’r DU ac Iwerddon i lunio papur sy’n darparu dadansoddiad cymharol o’r ymatebion sy’n dod i’r amlwg i raglen ddiwygio’r PAC ar gyfer 2014-2020 yn y DU ac Iwerddon, a’r penderfyniadau ynghylch rhoi'r rhaglen ar waith. Gallai’r math hwn o ddadansoddiad cymharol ddod yn bwysig fel y byddwn yn mynd drwy gyfnod nesaf y PAC (2014-2020), oherwydd y lefel ddigyffelyb o hyblygrwydd a ddarperir i aelod-wladwriaethau a’u gweinyddiaethau datganoledig yn y cylch hwn o ddiwygiadau. O ganlyniad, mae posibilrwydd y gall y penderfyniadau ynghylch rhoi’r PAC ar waith yn y DU ac yn Iwerddon wahaniaethu’n sylweddol. Mae’n amlwg, o’r cynigion a’r datganiadau cychwynnol sydd eisoes yn dod i’r amlwg gan y llywodraethau gwahanol, y gallai dulliau gweithredu gwahanol iawn ddod i’r amlwg mewn meysydd allweddol. Mae’r meysydd hyn yn cynnwys cymorth cysylltiedig; datblygu cynlluniau cyfwerthedd o dan y rheolau gwyrdd, a throsglwyddo arian rhwng Colofn 1 a Cholofn 2. Papur Ymchwil ar y cyd rhwng y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ar Ddiwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin 2014-2020 Blog-cy