Ai cyfrifiad 2011 oedd yr olaf o’i fath?

Cyhoeddwyd 27/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Tachwedd 2013 Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_682" align="alignnone" width="300"]Peiriant dadansoddi cyfrifiad Hollerith. Llun o Flickr gan Erik Pitti. Dan drwydded Creative Commons. Peiriant dadansoddi cyfrifiad Hollerith. Llun o Flickr gan Erik Pitti. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae’r cyfrifiad wedi bod yn rhan o’n bywydau ers 1801. Costiodd y cyfrifiad diwethaf £482 miliwn i drethdalwyr.  Gyda’n cymdeithas yn newid yn gyflym, datblygiadau ym maes technoleg a ffynonellau data gwell, mae dulliau newydd yn dod i’r amlwg sy’n wahanol i’r dull traddodiadol o anfon arolwg y cyfrifiad i bob cartref. A oes angen cynnal cyfrifiad? Defnyddir data’r Cyfrifiad ar gyfer cynllunio gwasanaethau, llunio polisïau, monitro, dyrannu adnoddau, cynllunio masnachol, a gwaith ymchwil academaidd a chymdeithasol. Mae gwelliannau ym maes technoleg a data’r llywodraeth yn cynnig cyfleoedd naill ai i foderneiddio proses bresennol y cyfrifiad, neu i ddatblygu dull amgen o gynnal cyfrifiad sy’n ailddefnyddio’r data a gedwir eisoes gan y llywodraeth. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, wrthi’n adolygu anghenion defnyddwyr ac yn ystyried ffyrdd posibl o gynnal y cyfrifiad yn y dyfodol fel rhan o brosiect Y Tu Hwnt i 2011. Opsiynau ymgynghori ar gyfer 2021? Yn dilyn gwaith ymchwil, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ddau ddull gweithredu posibl ar gyfer y cyfrifiad yn y dyfodol:
  • Cyfrifiad bob 10 mlynedd, fel yr un a gafwyd yn 2011, ond yn bennaf ar-lein.
  • Cyfrifiad sy’n defnyddio data gweinyddol y llywodraeth ac arolygon gorfodol bob blwyddyn.
Byddai’r ddau ddull yn rhoi ystadegau blynyddol wedi’u hamcangyfrif ynghylch maint y boblogaeth, yn genedlaethol ac ar lefel awdurdod lleol, fel y gwneir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddai cyfrifiad sy’n defnyddio data a gedwir eisoes gan y llywodraeth ac arolygon yn rhoi mwy o ystadegau am nodweddion y boblogaeth bob blwyddyn, tra byddai cyfrifiad ar-lein yn rhoi ystadegau mwy manwl unwaith bob degawd. Er enghraifft, tra bo cyfrifiad llawn yn gallu rhoi data ar hyfedredd yn y Gymraeg fesul ardaloedd daearyddol bach iawn (fel ardaloedd cynnyrch ehangach is o tua 1,500 o bobl) bob 10 mlynedd, byddai’r opsiwn sy’n defnyddio data gweinyddol yn rhoi amcangyfrif yn amlach, ond ni fyddai’n cael ei ddadansoddi’n fanwl ar gyfer ardaloedd mor fach. Mewn rhai achosion, gallai hynny effeithio ar y wybodaeth sydd ar gael ar lefel etholaethol. Felly mae i’r ddau opsiwn ei gryfderau a’i wendidau. Sut y caiff penderfyniadau eu hasesu a faint fydd hyn yn ei gostio? Caiff yr opsiynau eu hystyried o ran: cost; safon ystadegol; budd cymdeithasol ac economaidd; derbynioldeb i’r cyhoedd; a risg. Amcangyfrifir y byddai cyfrifiad ar-lein unwaith bob 10 blynedd yn costio tua £625 miliwn bob degawd (ym mhrisiau 2013). Mae hynny’n cyfateb i tua £1.10 y pen fesul blwyddyn. Amcangyfrifir y byddai cyfrifiad sy’n seiliedig ar ddata gweinyddol ac arolygon gorfodol mawr yn costio tua £460 miliwn bob degawd (ym mhrisiau 2013). Mae hynny’n cyfateb i tua £0.80 y pen fesul blwyddyn. Pa ddeddfwriaeth sydd ei hangen? Mae’r ddeddfwriaeth sylfaenol sy’n bodoli eisoes yn ei gwneud yn bosibl cynnal cyfrifiad, ond nid yw’n ei gwneud yn ofynnol. Yn yr un modd â Chyfrifiad 2011, i gynnal cyfrifiad ar-lein yn 2021, byddai’n rhaid i Senedd y DU gytuno ar is-ddeddfwriaeth benodol yn nodi dyddiad y cyfrifiad a’r cwestiynau a ofynnir, er enghraifft.  Mae’r ddeddfwriaeth bresennol ynghylch y cyfrifiad yn rhoi rôl ffurfiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gymeradwyo proses y cyfrifiad. Er mwyn cynnal cyfrifiad yn seiliedig ar ddata gweinyddol ac arolygon, byddai’n rhaid i’r Senedd gytuno ar ddeddfwriaeth sylfaenol newydd, i’w gwneud yn haws i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gael gafael ar ddata a’i gwneud yn ofyniad cyfreithiol bod cartrefi’n ymateb i unrhyw arolygon blynyddol newydd. Sut mae cymryd rhan? Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar agor tan 13 Rhagfyr 2013 ac fe’i defnyddir i lywio penderfyniad Senedd y DU ar ba opsiwn i’w ddewis. Mae gan Lywodraeth Cymru lawer o ddiddordeb ym marn defnyddwyr yng Nghymru ar y dulliau gweithredu gwahanol, a chaiff unrhyw ymatebion perthnasol i’r ymgynghoriad eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru. Llenwch yr holiadur ar-lein erbyn 13 Rhagfyr 2013. I gael rhagor o fanylion, gweler Y Tu Hwnt i 2011.