O’r golwg yng ngolwg pawb: masnachu mewn pobl yng Nghymru

Cyhoeddwyd 28/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae masnachu mewn pobl yn drosedd ddifrifol ac yn ymyriad enbyd ar hawliau dynol. Fe’i cysylltir yn aml â throsedd gyfundrefnol ac fe’i  ystyrir yn un o’r gweithgareddau troseddol mwyaf proffidiol yn fyd-eang. Mae ymwybyddiaeth o’r mater wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn dilyn achosion proffil uchel fel y tair menyw yn Llundain a gafodd eu hachub o gaethwasiaeth ar ôl 30 mlynedd yr wythnos ddiwethaf. [caption id="attachment_691" align="alignleft" width="183"]Llun: o Wicipedia Flickr gan Damian Kennedy. Dan drwydded Creative Commons Llun: o Wicipedia Flickr gan Damian Kennedy. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Yn syml iawn, ystyr masnachu mewn pobl yw symud person o un lle i’r llall i amodau o gamfanteisio. Ymhlith yr enghreifftiau mae camfanteisio rhywiol, llafur dan orfodaeth, caethwasiaeth a chynaeafu organau. Mae rhai anawsterau o ran ei ddiffinio, gan fod amryw o wahanol dermau’n cael eu defnyddio’n anghyson. Felly mae hefyd yn anodd cael syniad clir o nifer y bobl sydd ynghlwm â masnachu mewn pobl oherwydd ei natur anghyfreithlon a chudd. Cynhaliodd Pwyllgor Materion Cartref Senedd y DU ymchwiliad i fasnachu mewn pobl yn 2009. Roedd hwn yn tynnu sylw at y diffyg gwybodaeth ystadegol gywir, ond roedd yn amcangyfrif bod o leiaf 5,000 o ddioddefwyr masnachu mewn pobl  yn y DU. Yn 2012, cyfeiriwyd 1,186 o ddioddefwyr posibl masnachu mewn pobl at Ddull Cyfeirio Cenedlaethol (NRM) y DU, sy’n gynnydd o 25% ar nifer y cyfeiriadau yn 2011. O’r rhain, roedd 786 yn fenywod a 400 yn ddynion; roedd 815 yn oedolion a 371 yn blant. Roedd 34 o’r dioddefwyr hyn yng Nghymru. Fodd bynnag, fe’i cyndabyddir yn eang mai ‘crib y rhewfryn’ yw’r ffigurau swyddogol. Camau i fynd i’r afael â masnachu mewn pobl Yng Nghymru a Lloegr, bydd Bil Caethwasiaeth Fodern arfaethedig Llywodraeth y DU yn ceisio cydgrynhoi troseddau presennol ar fasnachu mewn pobl. Bydd hyn yn gwneud y dewisiadau sydd ar gael i orfodi’r gyfraith yn haws i’w gweinyddu ac yn fwy eglur i’w gweithredu, wrth ymchwilio i gyhuddiadau mewn perthynas â masnachu mewn pobl ac wrth fynd ar eu trywydd. Bydd y Bil hefyd yn ceisio cyflwyno Gorchmynion Atal Masnachu, i roi cyfyngiadau ar y rheini sydd wedi’u dyfarnu’n euog o droseddau masnachu, i’w hatal rhag parhau â gweithgaredd droseddol o’r fath ar ôl iddynt gael eu rhyddhau, a chyflwyno Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth y DU. Ymhlith camau gweithredu eraill Llywodraeth y DU mae:
  • sefydlu’r Dull Cyfeirio Cenedlaethol (NRM), a sefydlwyd yn 2009 i nodi hawliau dioddefwyr masnachu mewn pobl, i’w cefnogi, eu hamddiffyn a’u hyrwyddo. Mae’n fframwaith y mae’r Llywodraeth yn bodloni’i rwymedigaethau cyfreithiol oddi mewn iddo, o dan Gonfensiwn Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Pobl. Mae gan unrhyw un y mae gan yr awdurdodau perthnasol "sail resymol" i gredu ei fod wedi cael ei fasnachu, hawl i 45 diwrnod o gyfnod adlewyrchu ac adfer. Yn ystod y cyfnod hwn gallant gael mynediad at wasanaethau fel y rheini a ddarperir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth; a’r
  •  Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, a ddaeth yn weithredol ym mis Hydref 2013. Mae ganddi rôl allweddol o ran defnyddio’i galluoedd gwybodaeth uwch a’i swyddogaethau cydgysylltu i dargedu’r grwpiau troseddu cyfundrefnol sydd ynghlwm â masnachu mewn pobl, ble bynnag y maent. Mae Canolfan Masnachu mewn Pobl y DU wedi symud i’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol fel rhan o’r Gorchymyn Troseddu Cyfundrefnol.
Cafodd yr ymateb i fynd i’r afael â masnachu mewn pobl yng Nghymru ei ategu drwy benodi Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl  (AHTC). Y bwriad yw y bydd y rôl yn gwneud Cymru’n lle di-groeso ar gyfer masnachu mewn pobl ac yn trefnu’r cymorth gorau bosibl i ddioddefwyr. Llywodraeth Cymru yw’r unig lywodraeth yn y DU i gyflogi Cydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl. Crëwyd y swydd o ganlyniad i argymhelliad gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Fasnachu mewn Pobl, o dan gadeiryddiaeth Joyce Watson AC. Bu’r swydd mewn bodolaeth ers mis Ebrill 2011 a chaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Yn ychwanegol at y swydd hon, mae:
  • Grŵp Arwain yn Erbyn Masnachu mewn Pobl Cymru, sy’n rhoi arweinyddiaeth strategol ar gyfer mynd i’r afael â masnachu mewn pobl yng Nghymru. Mae’r Grŵp Arwain yn trefnu cydweithio rhwng partneriaid datganoledig, partneriaid annatganoledig a sefydliadau’r trydydd sector i gynllunio ac i gefnogi darpariaeth yng Nghymru. Caiff Cynllun Cyflenwi’r Grŵp Arwain ei ategu gan gynllun gweithredu sy’n rhoi amcanion strategol ar gyfer cyflawni nod Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â masnachu mewn pobl;
  • Corff Anllywodraethol Fforwm Rheng Flaen Atal Masnachu mewn Pobl Cymru, sy’n cynnwys Barnardos Cymru, BAWSO, New Pathways, Cymru Ddiogelach a Chyngor Ffoaduriaid Cymru - asiantaethau rheng flaen sy’n cydweithio i godi ymwybyddiaeth ac i wella gwasanaethau a chymorth i bobl a gafodd eu masnachu yng Nghymru.
Rhagor o wybodaeth: Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am fasnachu mewn pobl yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol yma: Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar hyn o bryd yn edrych ar y mater o fasnachu mewn pobl. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gydgysylltydd Atal Masnachu mewn Pobl Cymru a chynrychiolwyr o’r  Fforwm Cyrff Anllywodraethol ar  20 Tachwedd, a gan Gymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Awdurdod Trwyddedu Gangmasters a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 28 Tachwedd.