Trafod dau Fil addysg y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 03/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Rhagfyr 2013 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Caiff dau ddarn o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag addysg eu trafod yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn yma, ond mae’r ddau ohonynt wedi cyrraedd cyfnodau gwahanol o broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Style: "DEP 26:04:09 16"I ddechrau, caiff egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru) eu trafod yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yng Nghyfnod 1 o’r broses ddeddfwriaethol a’r adroddiad dilynol. Yn ddiweddarach, caiff y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ei drafod yng Nghyfnod 3, pan fydd modd i’r Aelodau gynnig gwelliannau. Ar ôl hynny, bydd y Bil yn gallu symud ymlaen i Gyfnod 4 yn syth, a gall y Cynulliad ei basio ar ei ffurf wreiddiol neu wedi’i ddiwygio. Mae i’r Bil Addysg (Cymru) bum diben allweddol:
  • Ehangu’r gwaith o gofrestru a rheoleiddio ymarferwyr addysg i gwmpasu staff cymorth addysgu, a staff addysgu a staff cymorth ym maes Addysg Bellach, yn ogystal ag athrawon, yn y lle cyntaf. Byddai corff cofrestru newydd yn cael ei sefydlu i gymryd lle’r corff presennol, sef Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
  • Diwygio a symleiddio’r broses ar gyfer cymeradwyo derbyn dysgwyr ag anghenion addysgol arbennig (AAA) i ysgolion annibynnol, drwy roi’r penderfyniad terfynol i’r awdurdodau lleol, yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol cael cydsyniad Gweinidogol unigol, fel sy’n digwydd mewn sawl achos ar hyn o bryd.
  • Newid y ffordd yr asesir anghenion addysgol ychwanegol ar gyfer dysgwyr ôl-16 a’r ffordd yr eir ati i sicrhau darpariaeth ar ôl hynny. Byddai dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynnal asesiadau a sicrhau darpariaeth, os bydd angen darpariaeth o natur breswyl neu arbenigol, a byddai’r sector addysg bellach yn gyfrifol am y ddarpariaeth brif ffrwd.
  • Newid sut y caiff dyddiadau’r tymor ysgol eu pennu i’w cysoni ledled Cymru.
  • Newid gweithdrefnol i’r broses o benodi Prif Arolygydd Ei Mawrhydi, ac Arolygwyr, ym maes Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.
Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil mewn perthynas â’r gweithlu addysg, tymhorau ysgol cyson, a phenodiadau i Estyn. Fodd bynnag, cred y byddai’n well cynnwys yr elfennau sy’n ymwneud ag AAA mewn un darn o ddeddfwriaeth, cyhyd ag y gellir gwneud hynny mewn modd amserol, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu’n ehangach ar ddiwygiadau AAA yng nghyfnod y Cynulliad hwn. Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfanswm o 13 o argymhellion. Mae i’r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ddwy brif elfen.
  • Nod y Bil yw rhoi rhagor o annibyniaeth i sefydliadau addysg bellach yng Nghymru, a gwella’u gallu i wneud penderfyniadau, drwy addasu a chael gwared ar y rheolaethau deddfwriaethol sydd arnynt ar hyn o bryd. Diben polisi Llywodraeth Cymru yw gwyrdroi’r broses a roddwyd ar waith gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Hydref 2010 i ailddosbarthu’r sector addysg bellach yn rhan o’r sector llywodraeth gyffredinol.  Drwy gael gwared ar nifer o reolaethau Llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i sefydliadau addysg bellach, y bwriad yw dychwelyd i’r drefn o’u dosbarthu fel ‘Sefydliadau Di-elw sy’n Gwasanaethu Aelwydydd’.
  • Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaeth ar wahân ar gyfer y sector addysg uwch sy’n galluogi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i rannu gwybodaeth sy’n ymwneud ag asesu cymhwysedd i gael grantiau a benthyciadau myfyrwyr â Gweinidogion Cymru drwy gyswllt data.
Cafodd y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) ei ddiwygio gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yng Nghyfnod 2 ar 24 Hydref 2013. Cyflwynwyd 11 o welliannau anllywodraethol; gwrthodwyd saith ohonynt, a thynnwyd pedwar yn ôl. Derbyniodd y Pwyllgor dri o’r pedwar gwelliant a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru. Y prynhawn yma, yn y Cyfarfod Llawn, bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod wyth gwelliant i’r Bil fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2, ac mae’r gwelliannau hynny wedi’u cyflwyno. Mae’r rhain wedi’u rhannu’n bum grŵp fel a ganlyn:
  • Adolygiad o weithrediad y Ddeddf
  • Trefniadau trosiannol
  • Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu
  • Ymgynghoriad gan y corff [llywodraethu]
  • Colli swyddi
Mae rhagor o wybodaeth am y ddau Fil, gan gynnwys y gwaith craffu a wnaed a’r gwelliannau a gyflwynwyd, ar gael ar dudalennau penodedig y Biliau yn yr adran ddeddfwriaeth ar wefan y Cynulliad. Y Bil Addysg (Cymru) Y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)