Cynllun Seilwaith Cenedlaethol y DU ar gyfer 2013

Cyhoeddwyd 09/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

9 Rhagfyr 2013 Erthyl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_739" align="alignright" width="336"]Llun: o Flickr gan mattbuck4950. Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan mattbuck4950. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Lansiodd Trysorlys y DU drydydd argraffiad Cynllun Seilwaith Cenedlaethol y DU ar 4 Rhagfyr.  Mae rhai o'r goblygiadau i Gymru wedi'u rhestru isod:

  • Cadarnhad bod Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb â Horizon Nuclear Power ynghylch gwarant mewn egwyddor i gefnogi'r gyllideb ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa (sef y safle a elwir yn Wylfa Newydd) erbyn diwedd 2016.  Fodd bynnag, mae'r cynllun yn datgan y bydd hyn yn amodol ar ddiwydrwydd dyladwy terfynol a chymeradwyaeth weinidogol.  Mae'r cynllun wedi'i restru ymhlith 40 prif brosiect seilwaith y DU.
  • Yn dilyn penderfyniad yn gynharach eleni i gwtogi'r amser a ganiateir ar gyfer adolygiadau barnwrol o faterion cynllunio, a hynny o dri mis i chwe wythnos, ac yn dilyn ymgynghoriad ar ddiwygio pellach, mae Llywodraeth y DU wedi datgan y bydd yn cyflwyno llys arbennig ar gyfer materion cynllunio yn 2014, gan nodi terfynau amser sefydlog ar gyfer ymdrin ag adolygiadau barnwrol o faterion cynllunio yng Nghymru a Lloegr. Mae'n bosibl y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno camau diwygio eraill hefyd.
  • Caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru (a'r Alban) gael mynediad at fenthyciadau rhatach, gan ddefnyddio cyfradd prosiectau arbennig y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus, a hynny er mwyn cefnogi camau i roi prosiectau seilwaith sydd â blaenoriaeth ar waith.  Mae'r cynllun yn datgan y bydd hyd at £400 miliwn mewn benthyciadau ar gael rhwng 2014-15 a 2015-16, yn amodol ar gytundeb gyda'r gweinyddiaethau datganoledig ar fecanweithiau ac amodau penodol.
  • Lansio adolygiad cynhwysfawr o'r drefn Prosiectau Seilwaith Cenedlaethol eu Harwyddocâd (NSIP), a sefydlwyd yn wreiddiol gan Ddeddf Cynllunio 2008 ac a ddiwygiwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011.  Mae prosiectau NSIP yn cael eu hystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a gwneir penderfyniadau terfynol yn eu cylch gan yr Ysgrifennydd Gwladol perthnasol yn Llywodraeth y DU.  Yng Nghymru, mae'r drefn NSIP ond yn cael ei defnyddio mewn perthynas â phrosiectau ynni mawr a rhai datblygiadau harbwr.  Tyrbin 28 yng nghynllun gwynt ar y tir Gorllewin Coedwig Brechfa oedd y cyntaf yng Nghymru i gael ei gymeradwyo drwy'r drefn NSIP.
  • Mae'r cynllun yn datgan bod gan Lywodraeth y DU ymrwymiad hefyd i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau buddsoddiad yn rhwydweithiau traws-Ewropeaidd Cymru, gan gynnwys yr M4, yr A55 a'r A465. Bydd hefyd yn ystyried y modd gorau o gefnogi anghenion seilwaith porthladdoedd Cymru sy'n cael eu gwasanaethu gan y llwybrau traws-Ewropeaidd hynny.
  • Mae'r cynllun hefyd yn crynhoi cyhoeddiadau a wnaed eisoes, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffordd yn ne Cymru, benthyg ar gyfer cynigion Llywodraeth Cymru ynghylch yr M4, cyllido gwasanaethau band eang mewn ardaloedd o Gymru sy'n anodd eu cyrraedd ac yng Nghaerdydd a Chasnewydd, fel dinasoedd uwch-gysylltiedig, a'r carchar newydd yn Wrecsam.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer buddsoddi yn seilwaith Cymru ym mis Mai 2012, a chyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol cyntaf ar y cynnydd a wnaed ym mis Mehefin 2013. Mae adroddiad sy'n diweddaru'r rhestr o brosiectau wedi'i gyhoeddi'n ddiweddar hefyd.Llun: o Flickr gan mattbuck4950. Dan drwydded Creative Commons.