Pwyllgor yn lansio adroddiad ar ddyfodol masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau

11 Rhagfyr 2013

Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Lun:o Flickr gan Ed Webster. Dan drwydded Creative Commons.

Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn dal y trên i Henffordd heddiw i lansio ei adroddiad ar ddyfodol masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r gororau.

Mae lleoliad y lansiad yn adlewyrchu’r dystiolaeth sy’n dangos pa mor hanfodol yw llwybrau a gwasanaethau trawsffiniol, nid yn unig i deithwyr, ond hefyd i’r fasnachfraint, gan mai dyma lwybrau mwyaf economaidd hyfyw y fasnachraint ar hyn o bryd.

Dechreuodd yr ymchwiliad ddechrau mis Hydref gyda’r aelodau’n cynnal digwyddiad i randdeiliaid yn y Pierhead ym Mae Caerdydd, lle gwnaethant siarad yn uniongyrchol â grwpiau o ddefnyddwyr rheilffyrdd am y materion sy’n peri pryder iddynt. Aeth yr ymchwiliad ymlaen i gynnal sesiynau i gasglu tystiolaeth lafar gan amrywiaeth o dystion, gan gynnwys Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Adran Drafnidiaeth y DU a Llywodraeth yr Alban.

Mae’r adroddiad yn cynnwys siarter y Pwyllgor ar gyfer y fasnachfraint sy’n nodi’r camau gweithredu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd, ym marn y Pwyllgor, er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau i deithwyr a gwerth gwell am arian i drethdalwyr.  Mae’r siarter yn ymdrin â phum mater allweddol:

  • Er na fydd y fasnachfraint nesaf yn dechrau tan 2018, cred y Pwyllgor y dylai’r paratoadau ddechrau nawr. Mae’r siarter yn argymell y dylai’r pwerau a’r cyllid o ran manylebau a chaffael ar gyfer y fasnachfraint gael eu datganoli, a bod angen rhoi eglurder i rolau Llywodraeth Cymru a’r Adran Drafnidiaeth yn fuan i’w gwneud yn bosibl dechrau ar y gwaith o ddifrif.
  • Mae angen ymgynghoriad eang a chynnar â theithwyr a rhanddeiliaid eraill y ddwy ochr i’r ffin, er mwyn nodi blaenoriaethau o ran manylebau’r fasnachfraint a rheoli perfformiad y gweithredwr.
  • Oherwydd yr amser arwain o ran caffael a’r angen i fynd i’r afael â gofynion cyfreithiol mewn perthynas â cherbydau erbyn 2020, mae angen gweithredu’n ddiymdroi er mwyn sicrhau bod y swm cywir o’r cerbydau gywir ar gael. Cred y Pwyllgor hefyd fod angen i’r Llywodraeth weithredu i sicrhau bod ganddi ddigon o staff sydd â’r arbenigedd i gaffael y fasnachfraint, gan gynnwys stoc rholio.
  • Er bod Llywodraeth Cymru yn ystyried opsiynau ar gyfer masnachfraint ddi-ddifidend, nid oes gan y Pwyllgor farn bendant ar y model rheoli. Pa bynnag ddull gweithredu a fabwysiedir, fodd bynnag, cred y Pwyllgor fod angen iddo alluogi perthynas agosach rhwng y gweithredwr a Network Rail, a rhaid i’r Llywodraeth ddangos sut y bydd yn sicrhau’r canlyniad gorau i deithwyr a threthdalwyr. Mae angen penderfynu ar fodel rheoli yn fuan.
  • Yn olaf, mae’n rhaid i’r fasnachfraint nesaf gael ei fframio yng nghyd-destun polisïau ar gyfer integreiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn well. Yn hynny o beth, mae’r adroddiad a’r siarter felly yn adeiladu ar adroddiad blaenorol y Pwyllgor ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru.

Mae adroddiad, siarter ac argymhellion y Pwyllgor wedi’u trosglwyddo i Lywodraeth Cymru a darperir ymateb dros y misoedd nesaf.