Adroddiad Silk Rhan 1: y datblygiadau diweddaraf

Cyhoeddwyd 12/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Rhagfyr 2013 Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru GoWAMewn blog blaenorol, soniwyd am gyhoeddiad y Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn y Senedd ynghylch ymateb Llywodraeth y DU i adroddiad cyntaf Comisiwn Silk ar bwerau ariannol. Ar 18 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Grymuso a chyfrifoldeb: datganoli pŵer ariannol i Gymru, sy'n rhoi mwy o gnawd ar y cyhoeddiad blaenorol. Y prif bwyntiau yw:
  • Treth incwm: yn amodol ar ganlyniad refferendwm yng Nghymru, byddai gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru y pŵer i amrywio cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth incwm (yr un faint â’i gilydd). Byddai hyn yn golygu na fyddai 10 pwynt canran o bob un o gyfraddau treth y DU yn ddyledus i lywodraeth y DU, ond yn hytrach i Lywodraeth Cymru.
  • Treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi i gael eu datganoli i'r Cynulliad, gyda swm cyfatebol yn cael ei dynnu o'r grant bloc.
  • Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatganoli'r ardrethi (busnes) annomestig yn llawn. Er bod Gweinidogion Cymru eisoes yn pennu'r cyfraddau hyn yng Nghymru, o dan y trefniadau presennol nid yw'r refeniw a gynhyrchir yn effeithio'n uniongyrchol ar lefel y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.
  • Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn mewn egwyddor y gallai Llywodraeth Cymru gael pwerau benthyca cyfalaf er mwyn buddsoddi mewn seilwaith, ar yr amod bod ffrwd annibynnol a phriodol o refeniw ar gael i dalu'r costau benthyca.
  • Felly, bydd Llywodraeth y DU yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gael rhywfaint o bwerau benthyca cyfalaf ymlaen llaw, cyn i'r pwerau trethu llawn ddod i rym, er mwyn gwneud gwelliannau i'r M4.
  • Pŵer i'r Cynulliad ddeddfu, gyda chytundeb Llywodraeth y DU, i gyflwyno trethi newydd a chredydau treth cysylltiedig.
Disgwylir Bil Cymru drafft erbyn mis Mawrth 2014, a rhagwelir y bydd Bil Cymru yn cael ei gyhoeddi yn Araith y Frenhines ym mis Mai 2014. Disgwylir y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2015.  Mae'n debygol y bydd Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn craffu ar y Bil drafft cyn y broses ddeddfu. Nid oes angen deddfwriaeth i weithredu pob un o gynigion Silk. Mae'n bosibl y gallai’r hawl i gael pwerau benthyca yn gynnar, a datganoli'r ardrethi annomestig yn llwyr, fod yn eu lle erbyn cyllideb 2015-16. Ar 4 Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur sefyllfa ynghylch ymateb Llywodraeth y DU. Ar y cyfan, mae'n croesawu ymateb Llywodraeth y DU, er ei fod yn nodi bod angen trafodaeth bellach gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhai materion. Fodd bynnag, mynegodd siom ynghylch dau fater;
  • Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhelliad Comisiwn Silk ynghylch treth incwm, sef datganoli pwerau annibynnol i amrywio’r cyfraddau treth incwm. Mae'n credu na fyddai'r pwerau mwy cyfyngedig i amrywio'r dreth incwm, a gynigir gan Lywodraeth y DU (un gyfradd dreth incwm Gymreig), yn rhoi'r un lefel o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
  • Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod Llywodraeth y DU wedi colli'r cyfle i helpu i wella economi Cymru drwy wrthod datganoli'r Doll Teithwyr Awyr.
Mae Comisiwn Silk yn bwriadu cyflwyno adroddiad ar Ran 2 o'i waith ar bwerau'r Cynulliad yn ystod gwanwyn 2014.