Gwerth Ychwanegol Crynswth Rhanbarthol

Cyhoeddwyd 12/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Rhagfyr 2013 Erthygl gan Ben Stokes, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bore ddoe cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yr amcangyfrifon diweddaraf o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) rhanbarthol ac isranbarthol y DU. Mae GYC yn fesur o'r cynnydd yng ngwerth yr economi oherwydd y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir. Caiff yr amcangyfrifon rhanbarthol hyn o GYC eu mesur gan ddefnyddio'r dull incwm. sy'n cynnwys adio i fyny yr incwm a grëir gan unigolion neu fusnesau preswyl wrth gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau. Mae'r ystadegau hyn yn bwysig gan eu bod yn rhoi trosolwg o berfformiad economaidd ar lefel ranbarthol ac isranbarthol, fel y gellir cymharu gwledydd a rhanbarthau'r DU. Hefyd, mae'r amcangyfrifon GYC y pen yn un o'r dangosyddion canlyniadau ar gyfer y bennod ar Dwf a Swyddi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Cynhyrchir y ffigurau ar dair lefel o ddaearyddiaeth gan ddefnyddio dull Enwau Unedau Tiriogaethol at Ddibenion Ystadegaeth (NUTS) safonol yr UE.
  • NUTS1: 12 ardal - Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a naw rhanbarth Lloegr.
  • NUTS2: 37 o ardaloedd neu isranbarthau - grwpiau o siroedd ac awdurdodau unedol yn bennaf.
  • NUTS3: 139 o ardaloedd - siroedd unigol ac awdurdodau unedol (a elwir yn ardaloedd lleol hefyd) yn bennaf.
Am y tro cyntaf, mae amcangyfrifon GYC NUTS1 wedi'u cynhyrchu ar sail y gweithle (yn ôl y fan lle y cynhelir y gweithgarwch economaidd) ac ar sail trigolion (caiff enillion unigolion eu dyrannu i'r rhanbarth lle maent yn byw). Dim ond ar sail y gweithle y mae'r amcangyfrifon diweddaraf ar gyfer data NUTS2 a NUTS3 wedi'u cynhyrchu. Ymhlith y pwyntiau allweddol o'r data mae:
  • Yn 2012, o'r 12 o ranbarthau NUTS1, roedd gan Gymru y trydydd cynnydd mwyaf yn y GYC ar sail y gweithle y pen, sef 1.6%, ar ôl gogledd-orllewin Lloegr (1.7%) a de-ddwyrain Lloegr (2.5%).
  • Roedd y GYC ar sail y gweithle y pen yng Nghymru yn 2012 yn £15,401, neu'n 72.3% o gyfartaledd y DU (cynnydd o 0.4 pwynt canran o gymharu â 2011, o gymharu â chyfartaledd y DU).
  • Roedd y GYC ar sail trigolion y pen yng Nghymru yn £15,799, neu'n 74.0% o gyfartaledd y DU (cynnydd o 0.5 pwynt canran ers 2011, o gymharu â chyfartaledd y DU).
  • O ran y GYC ar sail y gweithle a'r GYC ar sail trigolion, roedd y GYC y pen yng Nghymru yn 2012 yr isaf o'r 12 rhanbarth NUTS1 yn y DU.
  • Ar lefel NUTS2, roedd y GYC y pen yn nwyrain Cymru yn 88.8% o gyfartaledd y DU, sef cynnydd o 0.2 pwynt canran o gymharu â 2011,  ac roedd y GYC y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 2012 yn 62.7% o gyfartaledd y DU, sef cynnydd o 0.5 pwynt canran o gymharu â 2011.
  • O gymharu â chyfartaledd y DU, roedd y GYC y pen yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd yn 2012 yr isaf ond un o'r holl ardaloedd NUTS2 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (nid yw'r data NUTS2 a NUTS3 cyfwerth ar gyfer yr Alban wedi'u cyhoeddi eto).
  • O gymharu â chyfartaledd y DU, Ynys Môn oedd â'r GYC isaf y pen o'r holl ardaloedd NUTS3 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn 2012, gyda ffigur o 48.7%.
Dengys Tabl 1 y newidiadau yn y GYC ar sail y gweithle y pen ar gyfer Cymru, ac ardaloedd NUTS2 a NUTS3 Cymru, o gymharu â chyfartaledd y DU, dros y cyfnod llawn y mae'r ffigurau hyn ar gael. Dangosir newidiadau negyddol mewn coch.GVAWelsh Yr wythnos nesaf (18 Rhagfyr) bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcangyfrifon GYC termau real arbrofol am y tro cyntaf, hyd at lefel NUTS2 ac ar gyfer y cyfnod rhwng 1997 a 2011. Bydd yr amcangyfrifon hyn yn cyfrif am chwyddiant, lle nad yw'r amcangyfrifon presennol yn gwneud hynny. Ni fyddant yn rhoi'r un canlyniadau pennawd â'r prif GYC a gyhoeddwyd ddoe gan y defnyddir dulliau gwahanol i'w cynhyrchu; mae GYC pennawd yn seiliedig ar incwm, tra bod yr amcangyfrif newydd ac arbrofol hwn yn defnyddio'r dull cynhyrchu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.