A oes angen Cronfa Gyffuriau ar Gymru?

Cyhoeddwyd 16/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Rhagfyr 2013 Erthygl gan Philippa Watkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Ym mis Mai 2013, comisiynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol adolygiad o'r gwerthusiad o feddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn yng Nghymru. Defnyddir y meddyginiaethau hyn i drin cyflyrau iechyd prin a hynod brin. [caption id="attachment_779" align="alignright" width="256"]Llun o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons. Llun o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Ddechrau 2013, lansiodd Llywodraeth yr Alban gronfa gwerth £21 miliwn i dalu am feddyginiaethau i gleifion unigol â chyflyrau prin. Nid oedd y meddyginiaethau hyn ar gael ar bresgripsiwn fel mater o drefn. Ym mis Hydref 2013, fel rhan o'r adolygiad parhaus o'r mynediad at feddyginiaethau newydd, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y byddai'r Gronfa Gyffuriau Meddyginiaethau Prin yn parhau tan 2016. Mae Cronfa Gyffuriau Canser Lloegr, a sefydlwyd yn 2011, yn rhoi arian yn rheolaidd i dalu am nifer o feddyginiaethau canser nad ydynt ar gael ar y GIG. Hefyd, mae'r Gronfa yn cael ceisiadau am feddyginiaethau i drin unigolion sydd â mathau prin o ganser. Cynllun dros dro oedd y Gronfa Cyffuriau Canser, hyd nes byddai system newydd o brisio meddyginiaethau yn dod i rym ddechrau 2014. Ond nid yw'r system brisio newydd, sy'n seiliedig ar werth, wedi datblygu fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ac ym mis Medi 2013, cyhoeddwyd y byddai Cronfa Cyffuriau Canser Lloegr yn parhau am ddwy flynedd arall, tan 2016. Mae Llywodraeth Cymru, dro ar ôl tro, wedi gwrthod y galwadau am gronfa debyg yng Nghymru, gan ddadlau bod mwy yn cael ei wario y pen ar driniaethau canser yng Nghymru nag yn Lloegr. Yn ddiweddar, dywedodd y Prif Weinidog:
... rydym yn gwybod nawr nad yw’r gronfa cyffuriau canser yn ddim mwy na thwyll. Byddaf yn egluro pam rwy’n dweud hynny. O’r rhai sy’n gwneud cais am gyllid i’r gronfa cyffuriau canser, mae mwy na 70% yn cael eu gwrthod. O ran y gronfa gyfatebol yng Nghymru, y ceisiadau am gyllid i gleifion unigol, sy’n agored i bobl â phob cyflwr, nid yn unig y rhai sy’n dioddef o ganser, derbynnir mwy na hanner y ceisiadau.
Cyhoeddwyd adroddiad yr adolygiad ar feddyginiaethau amddifad yng Nghymru ar 11 Tachwedd 2013, fel y gallai pobl fynegi barn arno. Yr oedd yn argymell peidio â sefydlu cronfa ar wahân ar gyfer meddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn yng Nghymru, ac y dylai'r gwaith o werthuso'r meddyginiaethau hyn barhau'n rhan o fframwaith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan. Nododd yr Adolygiad bod angen symleiddio'r llwybrau mynediad at feddyginiaethau amddifad ac amddifad iawn.  Gwnaeth hefyd nifer o argymhellion mewn perthynas â'r broses arfarnu, y meini prawf a ddefnyddir i asesu, a sicrhau mynediad cyfartal. Nodwyd yn yr Adolygiad:
There cannot be a guarantee that all medicines approved for use in England will be approved for use in Wales. Different methods across UK may result in difference in recommendations. Of greater importance is that there is fairness and equity across Wales.
Yn gynharach eleni, sefydlwyd Cronfa Technolegau Iechyd Llywodraeth Cymru er mwyn cefnogi buddsoddiad mewn technoleg feddygol arloesol. Er y gallai'r Gronfa helpu cleifion i gael rhai triniaethau (heblaw triniaethau â chyffuriau) nad ydynt ar gael yng Nghymru fel arall (er enghraifft llawdriniaeth robot ar gyfer canser y prostad), roedd y dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dechnolegau meddygol yn pwysleisio nad yw bodolaeth Cronfa o'r fath ar unrhyw gyfrif yn disodli'r angen am system gadarn o arfarnu a chaffael technolegau yn gyffredinol.  Awgrymir bod angen dull o weithredu tebyg i'r un yng Nghymru i wella mynediad at dechnolegau meddygol newydd. Bydd y Pwyllgor yn dechrau clywed tystiolaeth lafar ar gyfer ei ymchwiliad i dechnolegau meddygol yn y flwyddyn newydd.