O Ham Parma i Datws Cynnar Sir Benfro

18 Rhagfyr 2013

Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Llun: o Flickr gan jackhynes. Dan drwydded Creative Commons.

Llun: o Flickr gan jackhynes. Dan drwydded Creative Commons.

Mae Tatws Cynnar Sir Benfro wedi ymuno â chig oen Cymru, cig eidion Cymru a gwin Cymru fel cynhyrchion o Gymru sy’n cael eu hamddiffyn o dan gynllun Enw Bwyd Wedi’i Amddiffyn yr UE. Dyma’r un amddiffyniad a roddir i gynhyrchion eraill fel siampaen a ham Parma ac sy’n golygu mai dim ond tatws sydd wedi’u tyfu yn Sir Benfro all gael eu marchnata felly.

Mae’r cynllun enw bwyd wedi’i amddiffyn yn bodoli er mwyn amlygu bwydydd rhanbarthol a thraddodiadol y gellir olrhain eu dilysrwydd a’u tarddiad. Mae’n rhoi amddiffyniad cyfreithiol iddynt yn erbyn efelychiadau o fewn yr UE a gall hefyd o bosibl godi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch ledled Ewrop, a thrwy hynny gynyddu’r galw.

Er mwyn cael eu hystyried ar gyfer amddiffyniad, rhaid i’r bwyd neu’r ddiod gael eu cynhyrchu gan ddefnyddio dulliau lleol neu draddodiadol. Rhaid iddynt hefyd gael nodweddion sy’n wahanol i’r rheini sydd gan gynhyrchion tebyg oherwydd yr ardal ddaearyddol lle cânt eu cynhyrchu. Er mwyn cofrestru a chael amddiffyniad cyfreithiol, rhaid profi cymhwysedd y cynnyrch drwy broses gwneud cais. Yn ystod y broses hon, bydd y cynnig yn:

  • cael ei ddatblygu ar y cyd ag is-adran fwyd Llywodraeth Cymru;
  • testun gweithdrefn gwrthwynebu ledled y DU;
  • cael ei asesu gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU);
  • testun gwaith craffu gan y Comisiwn Ewropeaidd; a
  • thestun gweithdrefn gwrthwynebu ledled yr UE.

Mae’r cynllun yn caniatáu dyfarnu tri nod gwahanol. Ceir eu manylion isod:

  • Enw Tarddiad Gwarchodedig: Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion a gynhyrchir, a brosesir ac a baratoir o fewn ardal ddaearyddol benodol, ac sydd â rhinweddau a nodweddion y mae’n rhaid iddynt eu cynnwys oherwydd yr ardal ddaearyddol (ee Hufen Tolch Cernyw: wedi’i amddiffyn oherwydd ei “ansawdd a’i enw da penodol a gydnabyddir yn eang fel rhywbeth a briodolir i Sir Cernyw.” Mae hyn yn cynnwys hinsawdd fwyn Cernyw sy’n cyfrannu at y cynnwys llaeth braster menyn uchaf yn Lloegr.)
  • Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig: Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion y mae’n rhaid eu cynhyrchu, eu prosesu neu eu paratoi o fewn yr ardal ddaearyddol ac sy’n meddu ar enw da, nodweddion neu rinweddau penodol sy’n briodol i’r ardal honno (ee Tatws Cynnar Sir Benfro gyda nodweddion sy’n cynnwys “croen meddal a blas ac arogl cneuog daearol cryf nodweddiadol” a ddaw o’r hinsawdd fwyn a’r pridd yn Sir Benfro)
  • Gwarant Arbenigedd Traddodiadol: Mae hyn yn gymwys i gynhyrchion sy’n draddodiadol neu sydd ag enwau cyffredin a rhinweddau sy’n eu gwneud yn wahanol i gynhyrchion tebyg eraill. Nid yw’r rhinweddau hyn yn ymwneud â’r ardal ddaearyddol lle cynhyrchir y cynnyrch. (ee Porc ‘Old Spots’ Swydd Gaerloyw a Ffermir yn Draddodiadol sydd â rhinweddau unigryw – ee nodweddion ffisegol a chemegol – o frîd y mochyn i’r technegau ffermio traddodiadol a ddefnyddir)

Mae tatws cynnar Sir Benfro wedi cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig ar ôl i Puffin Produce, sef cwmni a ddatblygodd o Pembrokeshire Potato Marketing Group, ac y mae’r tyfwyr a gynrychiolir ganddo yn berchen ar y mwyafrif o’r cwmni, wneud cais am y statws. Mae gan gig oen Cymru a chig eidion Cymru statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, gyda Hybu Cig Cymru yn gweithredu fel y corff sy’n cynnal gonestrwydd y labeli, yn ogystal â hyrwyddo’r dynodiad. Mae gan lawer o winoedd Cymru naill ai statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig neu Enw Tarddiad Gwarchodedig gyda Chymdeithas Gwinllannoedd y DU yn noddi’r cynlluniau.

Ymhlith y cynhyrchion Cymreig eraill sydd yn yr arfaeth i gael statws wedi’i amddiffyn mae:

  • Halen Môn – sydd wrthi’n mynd drwy gam gwrthwynebu ledled yr UE
  • Eog wedi’i ddal o gwrwgl gorllewin Cymru a sewin wedi’i ddal o gwrwgl gorllewin Cymru – sy’n cael eu hasesu gan y Comisiwn Ewropeaidd
  • Seidr Cymreig, Perai Cymreig, Cregyn Gleision Conwy, Ham Caerfyrddin a Bara Lawr Cymreig – ar y cam gwrthwynebiad cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i gynorthwyo a datblygu’r rhain a’r holl weithgarwch Enw Bwyd Wedi’i Amddiffyn yng Nghymru.