Nwy Siâl - y camau nesaf gan Lywodraeth y DU

Cyhoeddwyd 15/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 17 Rhagfyr 2013 cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynllun rheoleiddio ar gyfer datblygwyr olew a nwy siâl ynghyd ag adroddiad ar Asesiad Amgylcheddol Strategol i ymgynghori arno.  Mae'n disgrifio'r dogfennau newydd hyn fel y "camau nesaf ar gyfer cynhyrchu nwy siâl".

Mae'r Cynllun Rheoleiddio yn cynnwys dogfen ar wahân ar gyfer Cymru o'r enw Archwilio olew a nwy ar y tir yn y DU: rheoleiddio ac arfer gorau a ddisgrifir fel y pwynt cyfeirio cyntaf ar gyfer unrhyw un sy'n ceisio deall y broses caniatáu a chaniatâd ar gyfer gwaith archwilio nwy siâl ar y tir a methan gwely glo yng Nghymru.  Mae wedi'i ddatblygu gan y Swyddfa Nwy ac Olew Anghonfensiynol (OUGO) sydd newydd ei sefydlu ar y cyd ag adrannau eraill Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Mae'n nodi trosolwg o'r broses, gan amlygu darnau allweddol o ddeddfwriaeth a rheoliadau, ac yn nodi'r camau gweithredu a'r arferion gorau gofynnol.  Dim ond y cyfnodau archwilio a gwerthuso ac nid y cyfnod datblygu/cynhyrchu y mae'r cynllun yn ei gwmpasu.

Mae'r Asesiad Amgylcheddol Strategol yn ystyried effeithiau amgylcheddol rownd arall o drwyddedu olew a nwy ar y tir ac mae'n cynnwys ffynonellau confensiynol ac anghonfensiynol o nwy.  Mae wedi'i gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad i fodloni gofynion un o Gyfarwyddebau'r UE.  Yn ogystal ag asesu effeithiau trwyddedu ychwanegol ledled Prydain Fawr, mae'r adroddiad hefyd yn ystyried yr effeithiau ar ardaloedd penodol, gan gynnwys de Cymru a rhan fach o ogledd-ddwyrain Cymru.

Mae'r astudiaeth yn cynnwys y map hwn sy'n dangos yr ardaloedd presennol lle mae trwyddedau ar gyfer archwilio eisoes wedi'u cyflwyno, yn ogystal ag ardaloedd ychwanegol sy'n cael eu hystyried.  Dyma'r unig rannau o Gymru lle mae chwilio am nwy anghonfensiynol yn cael ei ystyried ar hyn o bryd.

[caption id="attachment_838" align="aligncenter" width="192"]Shale Map Cliciwch i chywyddo[/caption]

15 Ionawr 2014

Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cendelaethol Cymru

Daw'r asesiad i'r casgliad nad oes unrhyw effeithiau arwyddocaol o ran chwilio am olew a nwy confensiynol neu fethan gwely glo a'u cynhyrchu.  Fodd bynnag, mae rhai effeithiau arwyddocaol tebygol ar gyfer olew a nwy siâl.

Ymhlith yr effeithiau ledled Prydain Fawr mae:

  • Y cynhyrchiant posibl o nwy siâl sydd gyfwerth â dwywaith cyfanswm defnydd y DU o nwy y flwyddyn;
  • Y potensial i greu 16,000-32,000 o swyddi ledled y DU yn ystod anterth y cyfnod datblygu;
  • Allyriadau nwyon tŷ gwydr o hyd at 0.96 miliwn o dunelli (cyfwerth â charbon deuocsid) y flwyddyn yn ystod y gwaith archwilio, a rhwng 0.71 ac 1.42 miliwn o dunelli y flwyddyn yn ystod y gwaith cynhyrchu;
  • Hyd at 108 miliwn o fetrau ciwbig o wastraff dŵr o 'ffracio' sydd angen ei drin, a allai roi baich sylweddol ar y seilwaith presennol ar gyfer trin dŵr gwastraff;
  • Cyfraniadau budd cymunedol gan ddatblygwyr sydd gyfwerth â hyd at gyfanswm o £0.6 biliwn;
  • Mwy o gerbydau'n teithio yn ystod y cyfnodau archwilio a pharatoi a allai gael effaith andwyol ar dagfeydd traffig, sŵn neu ansawdd yr aer mewn rhai ardaloedd;
  • Angen cyfeintiau mawr o ddŵr gydag ansicrwydd ynghylch yr effaith ar argaeledd y dŵr, cynefinoedd dyfrol ac ansawdd y dŵr.

Mae rhai o'r effeithiau penodol sy'n gysylltiedig â nwy anghonfensiynol a nodwyd ar gyfer Cymru yn cynnwys:

  • Bioamrywiaeth- mae nifer y safleoedd a ddiogelir, yn enwedig y cynefinoedd sy'n gysylltiedig ag aberoedd afonydd Dyfrdwy, Dyfi a Hafren, a gwarchodfeydd natur lleol yn golygu y gallai fod angen clustogi ardaloedd gwarchodedig;
  • Poblogaeth- cyfleoedd hyfforddiant byrdymor sy'n gysylltiedig â gweithgarwch drilio, ond effeithiau negyddol ar ansawdd bywyd o adeiladu a symudiadau cerbydau HGV cysylltiedig;
  • Iechyd- cynnydd posibl mewn problemau iechyd, yn enwedig materion o ran anadlu os caiff cyfran uchel o safleoedd drilio eu lleoli'n agos at ardaloedd trefol neu o'u mewn;
  • Dŵr- rhywfaint o botensial ar gyfer prinder mewn rhannau o dde Cymru, ond dim ond os bydd lefel uchel o weithgarwch 'ffracio', ond nid oes unrhyw ostyngiad mawr yn ansawdd y dŵr;
  • Trin dŵr gwastraff- cyfaint y dŵr y mae angen ei drin yn debygol o roi baich sylweddol ar weithfeydd trin ac yn cynyddu'r sgil-gynhyrchion peryglus;
  • Aer- potensial ar gyfer lefelau uchel o allyriadau ac effeithiau cronnol mewn rhai ardaloedd lle mae ansawdd yr aer eisoes yn wael;
  • Treftadaeth Ddiwylliannol- gallai effaith weledol ffyrdd a phiblinellau newydd gael effaith ar adeiladau rhestredig neu dirweddau hanesyddol mewn rhai ardaloedd - efallai y bydd angen parthau clustogi;
  • Tirwedd- rhywfaint o effaith weledol o weithgarwch drilio, yn bennaf yn yr ardaloedd uwch ac anghysbell o ogledd Cymru.

Mae'r ymgynghoriad ar yr Asesiad Amgylcheddol Strategol yn dod i ben ar 28 Mawrth 2014.  Yna, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi "Datganiad Ôl-Fabwysiadu" a fydd yn crynhoi sut y mae'n bwriadu symud ymlaen mewn perthynas â thrwyddedu rhagor o archwilio ar dir.

I gael rhagor o wybodaeth am nwy siâl neu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol, gweler papur y Gwasanaeth Ymchwil ar Nwy Siâl a Methan Gwely Glo (Nwy Anghonfensiynol) a'r hysbysiad hwylus ar Asesiad Amgylcheddol Strategol.