A oes angen diwygio cyfraith trosedd ynghylch esgeuluso plant?

Cyhoeddwyd 22/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

22 Ionawr 2014 Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae galw cynyddol wedi bod am ddiwygio'r gyfraith ynghylch esgeuluso plant yng Nghymru a Lloegr. Mae'r trosedd presennol o esgeuluso plant wedi ei amlinellu yn Neddf Plant a Phobl Ifanc 1933. [caption id="attachment_881" align="alignright" width="225"]Llun: o Pixabay.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae disgwyl i’r Bil Camarfer Plant 2013-14 (Child Maltreatment Bill 2013-14) gael ei ailddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ar 24 Chwefror 2014.  Bil Aelod Preifat yw hwn, a noddwyd gan Mark Williams, yr Aelod Seneddol dros Geredigion. Bwriad y Bil yw cyflwyno trosedd newydd amgen, wedi ei seilio ar gynigion a ddatblygwyd gan banel o gynghorwyr a roddwyd at ei gilydd gan yr elusen Gweithredu dros Blant. Mae rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y Bil ar gael ar wefan Senedd y DU. Mae Gweithredu dros Blant yn dadlau nad yw'r gyfraith bresennol ynghylch esgeuluso plant yn perthyn i'r oes sydd ohoni. Mae'r elusen yn dadlau bod dealltwriaeth o'r niwed y mae esgeulustod yn ystod plentyndod yn ei achosi wedi datblygu'n sylweddol yn ystod yr 80 mlynedd diwethaf, yn enwedig o ran esgeulustod emosiynol a chanlyniadau esgeulustod nad ydynt yn rhai corfforol. Mae'r elusen hefyd yn dweud mai esgeulustod yw'r ffurf mwyaf cyffredin o gam-drin plant yn y DU, a bod astudiaethau'n awgrymu bod cymaint ag 1 o bob 10 o blant yn cael eu hesgeuluso. Mae rhagor o wybodaeth am y ddadl o blaid newid y gyfraith i'w chael ar wefan Gweithredu dros Blant. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth y DU wedi dadlau nad yw newid y gyfraith yn ofynnol, gan ddweud bod cyngor a roddwyd iddi'n nodi bod y llysoedd ac adrannau gwasanaethau plant awdurdodau lleol eisoes yn dehongli'r gyfraith mewn modd cyfoes. Yn fwy diweddar, ym mis Hydref 2013, gofynnodd Damien Green AS (y Gweinidog dros yr heddlu, cyfiawnder troseddol a dioddefwyr) i'w swyddogion gynnal ymgynghoriad penodol yn ystyried a yw’r trosedd presennol o greulondeb i blant yn ddigonol. Mae'r ffigurau mwyaf diweddar a gyhoeddwyd yn dangos cynnydd cyson yn y nifer a gafwyd yn euog o esgeuluso plant, gan gynyddu o 390 o euogfarnau yn 1997 i 710 o euogfarnau yn 2010. Mae nodyn a luniwyd gan lyfrgell Tŷ'r Cyffredin, sef, Standard Note: calls for reform of the criminal law on child neglect yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch y Bil Aelod Preifat; ymgyrch Gweithredu dros Blant; a safbwynt Llywodraeth y DU o ran y galw am ddiwygio'r gyfraith.