Newidiadau i gynllunio ac ariannu trafnidiaeth yng Nghymru

Cyhoeddwyd 27/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

27 Ionawr 2014

Erthyl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

transport consortia Welsh

Ar 17 Ionawr 2014, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ddatganiad yn amlinellu newidiadau i drefniadau cynllunio a thrafnidiaeth Cymru.  Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn am bolisi trafnidiaeth ar 28 Ionawr 2014.

Mae'r blogiad hwn yn rhoi gwybodaeth gefndirol am gynllunio trafnidiaeth ac am y modd y mae strwythur presennol y Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol yn datblygu yng Nghymru.

Cynllunio Trafnidiaeth yng Nghymru

Mae tair elfen allweddol i'r fframwaith cynllunio trafnidiaeth presennol:

Strategaeth Drafnidiaeth Cymru: Mae Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru baratoi Strategaeth Drafnidiaeth i Gymru a'i hadolygu'n barhaus.  Cafodd Strategaeth Drafnidiaeth bresennol Cymru ei chyhoeddi yn 2008.  Mae'n llywio'r Cynlluniau Trafnidiaeth Cenedlaethol a Rhanbarthol.

Y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol: Cyhoeddwyd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ym mis Mawrth 2010 ac fe'i hadolygwyd yn 2011. Bydd yn dod i ben ym mis Mawrth 2015. Mae'n nodi ymyriadau Llywodraeth Cymru i gyflawni'r rhannau hynny o bolisi trafnidiaeth y mae'n gyfrifol amdanynt.

Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol: Mae Deddf Trafnidiaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol er mwyn rhoi Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar waith.  Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006Llywodraeth Cymru yn caniatáu i awdurdodau lleol Cymru gynllunio yn rhanbarthol.

Rôl ddatblygol y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol yng Nghymru

Cafodd y grwpiau cludiant rhanbarthol a oedd eisoes yn bodoli eu ffurfio yn bedwar Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol (SWWITCH; Sewta; TraCC; a Taith) gan awdurdodau lleol, a hynny i ddatblygu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a'u rhoi ar waith.  Mae'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol presennol, fel y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, yn dod i ben yn 2015. Mae'r cyllid i gyflawni'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi dod yn bennaf o Grant Llywodraeth Cymru ar gyfer y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol, sy'n cynnwys cyllid i weinyddu'r Consortia.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu rôl y Consortia yn y blynyddoedd diwethaf.  Er enghraifft, arferai cyllid diogelwch ffyrdd gael ei roi yn uniongyrchol i awdurdodau lleol, ond ers 2011-12, mae'n rhan o Grant y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac mae Rhaglen y Canolfannau Teithio Cynaliadwy hefyd wedi cael ei phrif ffrydio yn y grant i Gonsortia Trafnidaeth Rhanbarthol.

Ar 17 Ionawr 2013, cyhoeddodd y Gweinidog blaenorol dros drafnidiaeth, sef y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, y byddai grant newydd i'r Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol o Ebrill 2013 yn cymryd lle'r ddwy ffrwd flaenorol ar gyfer ariannu bysiau.  Byddai Grant y Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yn cael ei weinyddu gan y Consortia gan fod gofyn iddynt hefyd ddatblygu Strategaethau Bysiau Rhanbarthol.

Ym mis Chwefror 2013, amlinellodd Papur Cabinet Llywodraeth Cymru y broses baratoi ar gyfer y Cynllun Trafnidaeth Cenedlaethol nesaf a’r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol, ac fe ddisgrifiodd y newid i Gynlluniau Cenedlaethol a Rhanbarthol yn "step-change in transport planning in Wales, shifting the emphasis from separate local and modal plans to a more integrated approach".

Mae'r rhaglen lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ystyried sefydlu cyd-awdurdodau trafnidiaeth, neu gyrff gweithredol, i gyflawni swyddogaethau trafnidiaeth awdurdodau lleol yn rhanbarthol, gan ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006.

Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog blaenorol dros drafnidiaeth wrth y Pwyllgor Menter a Busnes ei fod yn bwrw ymlaen â dull cydweithredol o dan Gompact Simpson, yn hytrach nag ystyried Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth.  Yn ei bapur i'r pwyllgor yn Ionawr 2013, dywedodd:

Rwyf wedi bod yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i ddatblygu'r agenda gydweithio ym maes trafnidiaeth. Mae cynnydd da'n cael ei wneud ar ddatblygu'r ymrwymiad yn y Compact ac ar gryfhau’r gwaith cynllunio rhanbarthol, blaenoriaethu a chyflawni o ran buddsoddi mewn trafnidiaeth.

Cynigion presennol ar gyfer cynllunio trafnidiaeth Mae datganiad Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn nodi angen i adolygu cynllunio trafnidiaeth, a hynny ar sail pryderon a godwyd mewn trafodaethau â rhanddeiliaid yn ogystal ag argymhellion sawl corff adolygu/ymgynghori.  Mae'r prif ddatblygiadau yn cynnwys:
  • Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol newydd erbyn Mawrth 2015 a fydd yn cynnwys blaenoriaethau rhanbarthol a fframwaith sy'n integreiddio cynllunio yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol;
  • Mewnbwn gan fyrddau Dinas-ranbarthau yn tynnu sylw at flaenoriaethau yn eu hardaloedd a rhoi cyngor wrth i'r cynllun newydd ddatblygu (nid yw'n glir o'r datganiad sut y bydd blaenoriaethau ar gyfer ardaloedd heb fwrdd dinas-ranbarth yn cael eu nodi);
  • Canllawiau i awdurdodau lleol ar fodloni dyletswyddau trafnidiaeth statudol;
  • Newid y ffrydiau presennol o ariannu consortia am dri grant a ddyrennir yn uniongyrchol i awdurdodau lleol a all gydweithredu;
  • Adolygiad pellach o gynllunio a darparu trafnidiaeth.

Ymhelaethodd y Gweinidog ar y newidiadau mewn gohebiaeth â chadeiryddion y consortia ar 17 Ionawr.  Dywedodd na fydd gofyn ar y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol i arolygu prosiectau a ariennir na chydlynu gweithgareddau sy'n deillio o'r cyllid a roddir, ac y bydd cyllid ar gyfer gwasanaethau gweinyddol consortia yn dod i ben.  Mae'r Gweinidog yn nodi effaith y newidiadau ar rôl y consortia, ond mae'n nodi eu bod yn cael eu cyflwyno er mwyn ceisio gwell gwerth am arian a sicrhau rhagor o fuddsoddi mewn trafnidiaeth yn y dyfodol yng Nghymru.