Yr Adolygiad Cwricwlwm ac Asesu

Cyhoeddwyd 10/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Chwefror 2014 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Fis diwethaf, daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gam 1 o'r hyn a ddisgrifiwyd gan Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, yn y Cyfarfod Llawn yn ddiweddar fel y 'diwygiad mwyaf sylweddol i’r cwricwlwm a welwyd erioed yng Nghymru' i ben. Cafodd yr adolygiad cwricwlwm ac asesu ei gyhoeddi'n wreiddiol gan y cyn-Weinidog, Leighton Andrews, ar 1 Hydref, 2012, ac fe'i cynhelir mewn dau gam. [caption id="attachment_915" align="alignright" width="300"]Llun: o Flickr gan LizMarie_AK.  Dan drwydded Creative Commons. Llun: o Flickr gan LizMarie_AK. Dan drwydded Creative Commons.[/caption] Mae cysylltiad agos rhwng cyd-destun yr adolygiad â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd newydd, a gyflwynwyd ym mis Medi 2013 fel offeryn cynllunio cwricwlwm statudol ar gyfer y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 9 (oed 5-14).  Mae codi safonau llythrennedd a chodi safonau rhifedd yn ddwy o blith tair blaenoriaeth Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg (y llall yw lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol). (I gael rhagor o wybodaeth, gweler 'Llythrennedd a Rhifedd yng Nghymru', a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil ym mis Mehefin 2013.) Mae cam 1 o'r adolygiad yn cwmpasu sut y dylid diweddaru'r trefniadau ar gyfer y cwricwlwm a'r drefn asesu i gyd-fynd â'r Fframwaith.  Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 22 Hydref, 2013, a 17 Ionawr, 2014, yn dilyn datganiad gan y Gweinidog ar 22 Hydref 2013.  (Ceir manylion pellach isod) Bydd cam 2 yn canolbwyntio'n fwy ar gynllun y cwricwlwm, gan ystyried y cwricwlwm o ran pynciau unigol ac o safbwynt datblygu cwricwlwm sy'n unigryw i Gymru.  Bydd y broses hon yn cynnwys ystyried materion fel meintiau Cyfnodau Allweddol 2 a 3; y cysyniad o 'raddio' rhwng Cyfnod Allweddol 3 a Chyfnod Allweddol 4; lle ieithoedd yn y cwricwlwm, gan gynnwys Cymraeg fel ail iaith; a chanfyddiadau nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen. Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am gam 2 yr adolygiad maes o law. Cam 1: Cwricwlwm Cafodd y cwricwlwm presennol ar gyfer ysgolion yng Nghymru ei gyflwyno ym mis Medi 2008.  Mae'n cynnwys Rhaglenni Astudio yng Nghyfnodau Allweddol 2 i 4 a Meysydd Dysgu yn y Cyfnod Sylfaen, sy'n nodi'r hyn y dylai ysgolion ei ddarparu.  Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddiweddaru'r rhain i adlewyrchu gofynion y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, ac felly i ail-alinio'r cwricwlwm.  Yn benodol, mae'n bwriadu:
  • Adolygu'r meysydd dysgu ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu, a Datblygiad Mathemategol, yn y Cyfnod Sylfaen.
  • Adolygu'r Rhaglenni Astudio ar gyfer y Gymraeg, Saesneg a Mathemateg yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad, y bydd yn cyflwyno'r newidiadau hyn ar sail anstatudol o fis Medi 2014. Yna, bydd y newidiadau'n cael statws statudol ym mlwyddyn academaidd 2015/16.
  • Cyflwyno fframwaith 'sgiliau ehangach' statudol yn y Cyfnod Sylfaen hyd at Gyfnod Allweddol 4.  Bydd y sgiliau hynny yr ystyrir eu bod yn hanfodol ar gyfer dysgu, gwaith a bywyd yn cynnwys:
  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
  • Cynllunio a threfnu
  • Creadigrwydd ac arloesi
  • Effeithiolrwydd personol
  • Llythrennedd digidol
Disgwylir y byddai'r fframwaith 'sgiliau ehangach' yn disodli'r fframwaith sgiliau presennol, sy'n anstatudol ac, yn ôl  Estyn, sy'n fframwaith na roddir digon o flaenoriaeth iddo gan ysgolion ac awdurdodau lleol.  Y sail resymegol dros gymryd y cam hwn yw datblygu sgiliau ehangach ym mhob un o'r 4 cyfnod allweddol, gan ddarparu llwybr clir ar gyfer datblygu sgiliau. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar y fframwaith sgiliau ehangach statudol mewn egwyddor yn unig yn ystod cam 1, a bydd yn cynnwys rhagor o fanylion  yn ystod cam 2. Cam 1: Asesiad Bydd gofyn i ysgolion asesu disgyblion yn ffurfiol yn flynyddol yn erbyn y disgwyliadau ar gyfer cynnydd disgyblion mewn perthynas â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd o fis Medi 2014.  Byddant yn olrhain cynnydd dysgwyr o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2, yn seiliedig ar ddisgwyliadau'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a byddant yn cyflwyno adroddiad i rieni/gofalwyr yn flynyddol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ategu'r cam hwn gyda gofyniad i ysgolion ymgymryd ag asesiadau sydd yn fwy crynodol eu natur ar ddiwedd pob cyfnod allweddol.  Bydd adroddiadau ar ganlyniadau'r asesiadau hyn yn cael eu cyflwyno i rieni/gofalwyr ac i Lywodraeth Cymru. Y prif newidiadau a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru yw:
  • Bod ysgolion yn cyflwyno adroddiad ar asesiad crynodol o'r cynnydd a wneir yn y meysydd dysgu ar gyfer Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu a Datblygiad Mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen (fel y'i diwygiwyd i gyd-fynd â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd), ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen.
  • Ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 2 a 3, bod ysgolion yn cyflwyno adroddiad ar asesiad crynodol o'r cynnydd a wneir yn erbyn y Rhaglenni Astudio ar gyfer y Gymraeg, Saesneg a Mathemateg (fel y'i diwygiwyd i gyd-fynd â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd).
Yn benodol yng Nghyfnod Allweddol 2, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau'r asesiad a gynhelir ar ddiwedd y cyfnod drwy gyflwyno 'tasgau dysgu cyfoethog'.  Disgrifir tasgau dysgu cyfoethog fel archwiliadau penagored o bynciau traws-gwricwlaidd sy'n ymwneud â'r byd go iawn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno ar sail anstatudol ym mis Medi 2014 ac yn cael statws statudol ym mlwyddyn academaidd 2015/16.