Cynllun Datblygu Gwledig Cymru

Cyhoeddwyd 12/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

12 Chwyfor 2014 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 

Mae'r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) yn ffurfio Colofn II o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC). O dan y rheoliadau sy'n rheoli'r CDG ar gyfer 2014-2020, mae'n ofynnol i'r aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau (gan gynnwys Cymru) ddatblygu cynllun drwy ddewis gwahanol opsiynau o restr benodol o weithgareddau a ddylai gefnogi amaethyddiaeth, rheolaeth tir cynaliadwy, busnesau gwledig a chymunedau gwledig.

Mae'r rheoliadau sy'n rheoli datblygiad y Cynlluniau Datblygu Gwledig yn ei gwneud yn ofynnol i'r aelod-wladwriaethau a’r rhanbarthau sicrhau bod yr ystod o weithgareddau y maent yn eu dewis yn cyfrannu at:

  • gystadleurwydd yr economi wledig (amaethyddiaeth, coedwigaeth a busnesau bach a chanolig gwledig).
  • rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol a gweithredu ar yr hinsawdd
  • datblygiad tiriogaethol cytbwys o ardaloedd gwledig.

Mae 2014 yn flwyddyn bontio ar gyfer y Cynllun Datblygu Gwledig gyda'r cynlluniau datblygu cyfredol (2007-2013) yn dod i ben a'r aelod-wladwriaethau a’r rhanbarthau’n datblygu eu cynigion ar gyfer cynlluniau datblygu gwledig newydd ar gyfer y cyfnod nesaf. Bydd y cynlluniau datblygu gwledig newydd yn dod yn gwbl weithredol ym mis Ionawr 2015. Yn y cyfamser, mae'n rhaid i'r aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau gyflwyno eu cynlluniau datblygu gwledig i'r Comisiwn Ewropeaidd i'w cymeradwyo. Mae Alun Davies, y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd (y Gweinidog), wedi nodi y bydd yn ofynnol iddo gyflwyno drafft cyntaf o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru i'r Comisiwn Ewropeaidd erbyn mis Mai 2014.

Er mwyn bodloni'r terfyn amser hwn, mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi y bydd yn lansio ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Gwledig newydd i Gymru ar 13 Chwefror.

Cyn hynny, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Cynllun Datblygu Gwledig o dan gadeiryddiaeth Peter Davies, y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, i roi cyngor i'r Gweinidog ar gynnwys y Cynllun Datblygu Gwledig a chyhoeddodd ymgynghoriad ar yr amcanion a'r blaenoriaethau trosfwaol a fyddai'n rheoli'r Cynllun Datblygu Gwledig newydd. Teitl yr ymgynghoriad oed Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020: Y Camau Nesaf, a daeth i ben ym mis Ebrill 2013. Dadansoddwyd yr adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr adroddiad llawn yn crynhoi'r ymatebion i'r ymgynghoriad ym mis Awst 2013.

Er na chynhaliwyd ymgynghoriad manwl ar y Cynllun Datblygu Gwledig newydd eto, mae'r Gweinidog eisoes wedi gwneud nifer o gyhoeddiadau a fydd yn effeithio ar ei gynnwys. Wrth gyhoeddi ei benderfyniadau ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu Colofn 1 y PAC (taliadau uniongyrchol i ffermwyr), nododd y Gweinidog y byddai'n trosglwyddo 15% o'r gyllideb Colofn 1 i Golofn 2. Dyma'r uchafswm y caiff yr aelod-wladwriaethau a'r rhanbarthau ei drosglwyddo o Golofn 1 i Golofn 2. Wrth gyhoeddi'r penderfyniad hwn, dywedodd y Gweinidog:

Fy uchelgais ar gyfer y rhaglen yw gwneud y diwydiant yn fwy gwydn ac yn fwy cystadleuol, a rhoi sgiliau a gwybodaeth i bobl; gwneud buddsoddiadau wedi’u targedu mewn ffermydd a busnesau sy’n gysylltiedig â ffermydd, a gwarchod yr amgylchedd naturiol a harneisio cyfleoedd ar gyfer ynni gwyrdd ar yr un pryd; a threchu tlodi, sydd weithiau’n anweledig yng nghefn gwlad Cymru.

Mae'r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r cynllun Glastir o dan y Cynllun Datblygu Gwledig newydd. Glastir yw cynllun hinsawdd amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Mae'n ofynnol i bob aelod-wladwriaeth a rhanbarth gynnwys cynllun hinsawdd amaeth-amgylcheddol o fewn eu Cynlluniau Datblygu Gwledig, ond rhoddir disgresiwn o ran sut y mae'r cynllun yn cael ei ffurfio a'i redeg.

Cyhoeddwyd hefyd fanylion ynghylch y cymorth a fydd ar gael ar gyfer ffermio organig o dan y Cynllun Datblygu Gwledig newydd er mwyn rhoi sicrwydd i'r sector.

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 6 Chwefror 2014 ynghylch cymorth i ffermio organig o dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf ar gyfer 2014-20, dywedodd y Gweinidog:

bod Llywodraeth Cymru’n parhau i gydnabod buddiannau ffermio organig ac yn ei ddigolledu trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG)... Mae dros 60% o ffermwyr organig naill ai wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun Glastir neu eisoes yn rhan ohono. Rwy’n credu y dylai’r ffermwyr hyn gael ymuno â chynllun Organig newydd Glastir tra’n parhau i fod yn gymwys i ddarparu hefyd y nwyddau a’r gwasanaethau amgylcheddol eraill y gofynnir amdanyn nhw yn elfennau eraill Glastir.  Dyma fydd y sylfaen ar gyfer datblygu’r cynllun newydd.

Rhagor o wybodaeth:

Diwygio'r PAC 2014-20: Cytundeb yr UE a'i weithredu yn y DU ac yn Iwerddon