Caffael masnachfreintiau rheilffyrdd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

17 Chwyfor 2014 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r Fasnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau bresennol yn dod i ben yn 2018. Ar 19 Chwefror, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad diweddar y Pwyllgor Menter a Busnes ynghylch

Dyfodol Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, sy'n cynnwys siarter y Pwyllgor ar gyfer y fasnachfraint nesaf. Mae blog blaenorol yn amlinellu'r argymhellion allweddol sydd yn y siarter.

Bellach, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ei ymateb i'r adroddiad. Er bod y Llywodraeth wedi derbyn, neu wedi derbyn mewn egwyddor, yr holl argymhellion, mae ei hymateb i lawer o'r argymhellion yn cyfeirio at y ffaith nad yw'r pwerau caffael masnachfreintiau wedi eu datganoli ar hyn o bryd. Mae'r blog hwn yn amlinellu'r pwerau a chyfrifoldebau presennol o ran caffael y fasnachfraint ac mae'n trafod y posibilrwydd o ddatganoli'r pwerau hynny.

Y cyfrifoldebau statudol presennol yn y broses o gaffael y masnachfreintiau rheilffyrdd

Yn bennaf, dilynir Deddf Rheilffyrdd 1993 (Deddf 1993) i ymdrin â masnachfreintiau. Mae Deddf 1993 yn ei gwneud yn ofynnol i Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Drafnidiaeth bennu'r masnachfreintiau o ran gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr yng Nghymru a Lloegr ac mae’n ofynnol iddo baratoi a chyflwyno Gwahoddiad i Dendro. Rhaid i'r broses gaffael hefyd gydymffurfio â chyfreithiau caffael perthnasol yr UE.

Fodd bynnag, rhoddodd Deddf Rheilffyrdd 2005 fwy o rôl i Lywodraeth Cymru o ran caffael masnachfreintiau.

Ar hyn o bryd, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru ynghylch unrhyw fasnachfraint sy'n cynnwys gwasanaeth sy'n cychwyn neu orffen ei daith yng Nghymru, neu sy'n galw yng Nghymru fel rhan o'i amserlen ar hyd y daith ("Gwasanaethau Cymru"). Mae hyn yn cynnwys masnachfreintiau Arfordir y Gorllewin a rhai First Great Western.

Pan fydd masnachfraint yn cynnwys o leiaf un gwasanaeth sydd yn gyfan gwbl yng Nghymru, ac nad yw'n galw tu allan i Gymru fel rhan o'i amserlen ar hyd y daith ("gwasanaethau Cymru yn unig"), rhaid i Weinidogion Cymru fod yn rhan o gytundeb y fasnachfraint neu ei gyd-lofnodi. Masnachfraint Cymru a'r Gororau yw'r unig fasnachfraint o'r fath sy'n weithredol ar hyn o bryd.

Mae'n werth nodi bod pwerau i bennu a chaffael masnachfreintiau wedi eu datganoli i'r Alban. Mae'r rhain yn bwerau gweithredol yn unig, ac mae'n parhau'n ofynnol i Lywodraeth yr Alban gydymffurfio â gofynion Deddf 1993 fel na all, er enghraifft, wladoli gweithrediadau rheilffyrdd ar ei phen ei hun.

Caffael Masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau

Os na chaiff rhagor o bwerau eu datganoli i Lywodraeth Cymru bydd y cytundeb masnachfraint nesaf yn un a gaiff ei lunio ar y cyd. Fodd bynnag, nid yw’n glir eto beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol o ran pennu'r fasnachfraint. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn parhau yn awdurdod y fasnachfraint (yn gyfrifol am gaffael) ac yn awdurdod pennu'r fasnachfraint (yn gyfrifol am benderfynu ar y llwybrau / gwasanaethau sy'n cael eu cynnwys).

Mae nodyn wybodaeth flaenorol am fasnachfreintiau rheilffyrdd yr Adran Drafnidiaeth a gyhoeddwyd fis Mawrth 2013, sy'n nodi’r amserlen ar gyfer yr holl ymarferion caffael y mae'n gyfrifol amdanynt, yn cynnwys Masnachfraint Cymru a'r Gororau.

Comisiwn Silk a thrafodaethau ynghylch datganoli pellach

Yn eu tystiolaeth i Gomisiwn Silk, nododd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fod angen datganoli'r pwerau o ran masnachfreintiau rheilffyrdd ymhellach.

Nid yw Llywodraeth y DU o’r farn bod y drefn bresennol o ran rhannu risg yn y gwaith o reoli'r fasnachfraint yn un dda. Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am reoli'r fasnachfraint, ac felly am y "risg o fewn y fasnachfraint", ond Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am risg ariannol masnachfreintiau newydd, neu am "fethiant catastroffig". Mae’r Llwodraeth yn disgrifio hynny fel rhywbeth nad yw am ei weld. Mae hefyd yn nodi diddordeb Llywodraeth Cymru mewn datganoli pellach.

Yn yr un modd, mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau ei bod yn gweld lle i newid y setliad datganoli, a nododd ei bod yn ymchwilio i'r opsiynau yma gyda'r Adran Drafnidiaeth fel rhan o'r gwaith paratoi ar gyfer Masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau.

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, croesawodd Llywodraeth Cymru'r argymhelliad y dylai swyddogaethau'r fasnachfraint rheilffyrdd, ynghyd â setliad ariannol cyfatebol, gael eu datganoli.

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth wrth y Pwyllgor y dylai fod cynnydd o ran y trafodaethau ynghylch datganoli erbyn dechrau 2014 ac felly y dylai'r sefyllfa fod yn glir erbyn diwedd 2014 ar gyfer y gwaith angenrheidiol. Fodd bynnag, o ystyried yr angen i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol y DU, nid yw’n glir pryd fydd unrhyw gytundeb yn dod i rym yn gyfreithiol na phryd fydd Llywodraeth Cymru'n gallu dechrau'r broses o ddatblygu'r fasnachfraint o ddifrif.