Memorandwm ynghylch y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol

17 February 2014

Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Ddydd Mawrth 18 Chwefror trafodir y canlynol yn y Cyfarfod Llawn:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Memorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 7 Ionawr 2014.

Gellir gweld y Memorandwm yma: Y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol: Memorandwm gan Lywodraeth Cymru (“y Memorandwm”). Dyma ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i roi pwerau i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU (“yr Adroddiad”) a oedd yn argymell:

y dylai Llywodraeth Cymru ofyn i’r Cynulliad ystyried penderfyniad ar ffurf datganiad sy’n nodi dealltwriaeth y Cynulliad o gonfensiwn Sewel a sut y mae’n berthnasol iddo.

Er bod gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu mewn unrhyw un o’r meysydd a nodir yn yr 20 Pwnc a geir yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Llywodraeth y DU yn cadw’r awdurdod i ddeddfu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â Chymru pa un ag ydyw wedi’i ddatganoli ai peidio. Fodd bynnag, o dan amgylchiadau pan fydd Senedd y DU am gyflwyno deddfau sy’n ymwneud â maes datganoledig, yr arfer yw gofyn am gydsyniad (neu ganiatâd) y Cynulliad cyn gwneud hynny. “Confensiwn Sewel” yw enw’r arfer hwn mewn perthynas â’r Alban.

Mae’r confensiwn hwn yn rhan o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a Chytundebau Atodol (“y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth”) sy’n amlinellu’r egwyddorion ar gyfer cydweithio sydd wrth wraidd y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig. O ran busnes seneddol, mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi:

… the UK Government will proceed in accordance with the convention that the UK Parliament will not normally legislate with regard to devolved matters except with the agreement of the devolved legislature. The devolved administrations will be responsible for seeking such agreement as may be required for this purpose on an approach from the UK Government.

Mae’r drefn yng Nghymru wedi’i nodi yng Nghanllaw Datganoli 9, sy’n rhoi arweiniad i swyddogion Whitehall ar Ddeddfwriaeth Sylfaenol y Senedd a’r Cynulliad sy’n effeithio ar Gymru. Caiff y Cynulliad roi neu wrthod caniatâd drwy drafod Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn a phleidleisio arnynt.

Nododd yr Adroddiad fod y Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth y dylai’r Cynulliad gymeradwyo’r confensiwn yn ffurfiol :

Mae’r egwyddor a nodwyd gan yr Arglwydd Sewel, sef na fyddai San Steffan fel arfer yn deddfu mewn perthynas â materion datganoledig heb ganiatâd y ddeddfwrfa ddatganoledig, yn un y byddai’r Cynulliad yn ei gymeradwyo, heb os, ond ni thrafodwyd y mater yn fanwl gan y Cynulliad Cenedlaethol. Am y rheswm hwnnw, credwn y byddai’n ddefnyddiol i’r Cynulliad ystyried cynnig sy’n nodi’n glir beth yw ei ddealltwriaeth o’r confensiwn a sut y dylai Llywodraeth Cymru gydymffurfio ag ef.

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn pennu’r egwyddor o ymgysylltu’n gynnar â’r gweinyddiaethau datganoledig mewn perthynas â materion sydd o ddiddordeb i bawb, gan gynnwys deddfwriaeth. Gallai hyn gynnwys trafodaeth neu ymgynghoriad rhwng swyddogion Cymru a Whitehall fel bod Gweinidogion Cymru yn cefnogi’r cynigion pan drafodir y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Cynulliad.

Yn fuan ar ôl araith y Frenhines, mae’r Gweinidog o Lywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am Fusnes y Llywodraeth yn ysgrifennu at y Llywydd gan nodi’r Biliau hynny y gallai fod angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol arnynt.  Fodd bynnag, yn aml, dim ond pan eir ati i archwilio darpariaethau Bil yn fanwl y gellir penderfynu a oes angen cydsyniad y Cynulliad (ac os caiff Bil ei ddiwygio ar ei daith drwy’r Senedd bydd angen ailystyried y penderfyniadau hyn a chyflwyno cynigion cydsyniad ychwanegol gerbron y Cynulliad).

Os bydd y Cynulliad yn gwrthod rhoi cydsyniad, bydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU naill ai ddiwygio’r Bil i’w gwneud yn debygol y bydd y Cynulliad yn rhoi cydsyniad, neu hepgor y darpariaethau sy’n ymwneud â materion datganoledig fel nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mwyach.

Hyd yma, mae’r Cynulliad wedi gwrthod rhoi cydsyniad i ddarpariaethau yn neddfwriaeth y DU sy’n effeithio ar faterion datganoledig bedair gwaith:

  • Yn achos Bil Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, gwnaeth Llywodraeth y DU hepgor yr effaith ar faterion datganoledig o’r Bil drwy beidio â gwneud Paneli arfaethedig yr Heddlu a Throseddu yn rhan o strwythurau llywodraeth leol.  Ni heriwyd yr angen am gydsyniad deddfwriaethol gan nad yw’r heddlu a chyfiawnder troseddol wedi’u datganoli.
  • Roedd darpariaethau yn y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio yn dileu’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol . Ym marn Llywodraeth DU, nid oedd hyn o fewn cymhwysedd y Cynulliad ac nid oedd angen cydsyniad deddfwriaethol. Felly, gwrthododd ddiwygio’r Bil. Ym marn Llywodraeth Cymru, roedd hyn o fewn cymhwysedd y Cynulliad, felly cyflwynodd Bil y Sector Amaethyddiaeth (Cymru) maes o law. Cafodd y Bil ei basio gan y Cynulliad ond fe’i cyfeiriwyd i’r Goruchaf Lys gan y Twrnai Cyffredinol. Bydd y gwrandawiad yn dechrau ar 17 Chwefror 2014.
  • Yn achos y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol, cytunodd Llywodraeth y DU i ddiwygio’r Bil, ar ôl i’r Cynulliad wrthod rhoi cydsyniad, drwy osod gwelliant i ddileu Byrddau Draenio Mewnol trawsffiniol o gyfundrefn archwilio Lloegr.
  • Yn yr achos mwyaf diweddar, gwrthododd y Cynulliad gymeradwyo gwelliant gan Lywodraeth y DU i’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona, a oedd yn gosod eithriad newydd yn lle’r eithriad o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar ôl i’r Cynulliad wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU ddileu’r ddarpariaeth berthnasol o’r Bil. Heriodd Llywodraeth y DU yr angen am Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, a gwrthododd ddileu’r ddarpariaeth o’r Bil. Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ddatganiad am hyn ar 11 Chwefror 2014 mewn ymateb i ddatganiad gan y Swyddfa Gartref. Dywedodd:

Rwy’n ystyried y dylid cynnal trafodaeth lawn ar unrhyw welliant i gynnwys Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a chytuno ar hynny â Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad, oherwydd ei arwyddocâd i’n setliad datganoli.