Ar 27 Chwefror 2014, cyhoeddodd Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd amcangyfrifon ynghylch defnydd o orsafoedd trenau ledled Cymru, yr Alban a Lloegr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2012 a mis Mawrth 2013.
Mae modd gweld yr amcangyfrifon, sydd wedi eu seilio ar ddata gwerthiant tocynnau a gofnodwyd yn systemau’r diwydiant rheilffyrdd, yma. Mae cyfarwyddiadau ynghylch sut mae hidlo’r data’n gynwysedig.
Mae’r deg gorsaf brysuraf yng Nghymru oll yn ne Cymru. Dyma rai o’r ffigurau allweddol:
- Gorsaf Caerdydd Canolog yw’r orsaf brysuraf yng Nghymru gyda dros 11.6 miliwn o deithwyr yn mynd a dod – cynnydd o 130,146 (neu 1.1%) o’i gymharu â 2011-12;
- Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yw’r brysuraf ond un. Cafwyd ychydig o gynnydd yn nifer y defnyddwyr o 6,318 (cynnydd o 0.3% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol);
- Cafwyd cynnydd o 75,744 yn nifer y teithwyr sy’n mynd a dod o Orsaf Bae Caerdydd – cynnydd o 9.5%;
- Cafwyd gostyngiad o 77,380 yn y nifer sy’n defnyddio gorsaf Trefforest, gostyngiad o 8.5%;
- Yng ngogledd Cymru, y gorsafoedd prysuraf yw Bangor, lle cafwyd cynnydd o 0.5% i 680,102 yn mynd a dod, a Wrecsam, lle cafwyd gostyngiad o 1.2% i 615,306.
Tabl: Y deg gorsaf prysuraf yng Nghymru, ar sail amcangyfrifon mynd a dod 2012/13
(Ffynhonnell: Swyddfa Rheoleiddio'r Rheilffyrdd)