Cynllun Hawliau Plant

Cyhoeddwyd 13/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

13 Mawrth 2014 Erthygl gan Sarah Hatherley, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1000" align="alignright" width="300"]Delwedd o Flickr gan LindsaH. Trwyddedwyd o dan Creative Commons. Delwedd o Flickr gan LindsaH. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.[/caption] Yn 2011, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unfrydol o blaid Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, ac wrth wneud hyn, y Cynulliad oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y Deyrnas Unedig i basio deddfwriaeth yn ymwneud â hawliau plant yn benodol. Roedd y Mesur yn cryfhau ac yn adeiladu ar y dull sy’n seiliedig ar hawliau a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru o ran pennu polisi ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Rhoddodd ddyletstwydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i hawliau a rhwymedigaethau o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i brotocolau dewisol. Daeth y Mesur i rym yn rhannol o fis Mai 2012 ymlaen. Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i roi “sylw dyledus” i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth gynllunio a datblygu polisi neu ddeddfwriaeth newydd, neu adolygu neu newid deddfwriaeth neu bolisi presennol. O 1 Mai 2014 ymlaen, bydd y ddyletswydd hon yn ymestyn i holl swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Mae adran 2 o’r Mesur yn gofyn bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi Cynllun Hawliau Plant sy’n nodi’r trefniadau y bydd Gweinidogion yn rhoi yn eu lle i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru eu Cynllun Hawliau Plant cyntaf ym mis Mai 2012, ac maent wedi penderfynu adolygu’r Cynllun hwn yn sgîl ymestyn y ddyletswydd i roi sylw dyledus. Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Hawliau Plant drafft 2014 i ben ddydd Llun 3 Mawrth 2014. Unwaith iddo gael ei adolygu, caiff y Cynllun drafft ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol i’w gymeradwyo. O ddiddordeb penodol fydd ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru ymgorffori hawliau plant yn y GIG yng Nghymru. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys rhestr o hawliau i bob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys yr hawl i gael: safon dda o ofal iechyd; y cyfle i roi barn ar benderfyniadau ynghylch eu hiechyd, gofal iechyd a thriniaeth, a sicrwydd bod oedolion wedi gwrando ar y farn honno; mynediad at wybodaeth briodol a phreifatrwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ar strategaethau cenedlaethol cynhwysol o ran oedran mewn nifer o feysydd o ran polisi a deddfwriaeth iechyd a gofal cymdeithasol; er enghraifft, ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (Hydref 2012). Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dadlau y gallai colli strategaethau cenedlaethol penodol ar wahân, gyda strategaethau sy’n cwmpasu pob oedran yn eu lle, leihau’r sylw a roddir i fwriad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. O ddiddordeb mawr fydd ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu symud ymlaen â’i dull sy’n seiliedig ar hawliau o ran gwasanaethau iechyd i blant a phobl ifanc, drwy strategaethau sy’n cwmpasu pob oedran, a sut y mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig.