Tai: Deddf 1

Cyhoeddwyd 25/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mawrth 2014 Erthygl gan Jonathan Baxter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae Cymru gam yn nes at gael ei Deddf Tai gyntaf erioed. Cyhoeddodd pwyllgor y Cynulliad sy’n craffu ar y Bil Tai (Cymru) ei adroddiad Cyfnod 1 ddydd Gwener (21 Mawrth). Tra’i fod yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, gwnaeth nifer o argymhellion a allai ddod â newidiadau i ddarn blaenllaw o ddeddfwriaeth tai Llywodraeth Cymru. Mae’r Bil yn canolbwyntio ar ddau brif faes: diwygio’r sector rhentu preifat a newidiadau i ddeddfwriaeth yn ymwneud â digartrefedd [caption id="attachment_1040" align="alignleft" width="300"]Delwedd o Google gan Gary Reggae. Trwyddedwyd o dan Creative Commons Delwedd o Google gan Gary Reggae. Trwyddedwyd o dan Creative Commons[/caption] Mae Rhan 1 y Bil yn cynnig rhagor o reolaeth ar y sector rhentu preifat yng Nghymru. Os bydd y Cynulliad yn derbyn cynigion Llywodraeth Cymru, bydd angen i bob landlord ac asiant gael ei gofrestru, ac os ydynt yn rheoli eiddo eu hunain bydd angen iddynt hefyd fod wedi’u trwyddedu. I fod yn drwyddedig bydd yn rhaid pasio prawf person addas a phriodol a dilyn cwrs hyfforddi sydd wedi’i gymeradwyo (ar-lein o bosibl). Yn ychwanegol at hynny, roedd y Pwyllgor yn argymell y dylai bod gofyn am ddatblygiad proffesiynol parhaus. Mae’r Bil yn cynnig Gorchmynion Atal Rhent fel un ffordd o orfodi’r ddeddfwriaeth; byddai hyn yn golygu na fyddai’n rhaid i’r tenant dalu rhent os nad yw’r landlord neu’r asiant wedi’i drwyddedu. Teimlai llawer o’r tystion a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor y gallai hyn roi tenantiaid mewn perygl o gael eu toi allan yn ymatebol, neu hyd yn oed o gael eu troi allan yn anghyfreithlon. Felly gwnaed argymhelliad y dylid, yn lle hynny, rhoi’r pŵer i denantiaid wneud cais am orchymyn ad-dalu rhent - pŵer sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth didrwydded. Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell bod landlordiaid yn cael eu hatal rhag cyflwyno rhybudd troi allan di-fai i’w tenant os nad ydynt wedi’u cofrestru. Bydd trwyddedau’n cynnwys amod bod yn rhaid i landlordiaid ac asiantau gadw at God Ymarfer a fydd yn cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid (landlordiaid, asiantau a thenantiaid). Cododd y Pwyllgor nifer o bryderon ynglŷn â’r Cod arfaethedig, ac awgrymwyd y dylai gynnwys gofyniad am ymchwiliadau trydanol cyfnodol, a gofyniad i osod synwyryddion carbon monocsid, yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar safonau rheoli. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod rhwng 70,000 a 130,000 o landlordiaid yng Nghymru. Gyda mwy nag un o bob chwe pherson yn rhentu tŷ gan landlord preifat, mae hynny’n golygu y bydd chwarter poblogaeth Cymru yn cael ei effeithio mewn rhyw ffordd gan y cynigion yn Rhan 1 y Bil. Nid yw cofrestru landlordiaid yn gysyniad newydd yn y DU. Mae gan yr Alban gynllun ar waith ers peth amser, ac mae cynllun Cymru wedi’i selio’n bennaf ar y cynllun Achredu Landlordiaid Cymru gwirfoddol presennol sydd â dros 2,000 o aelodau. A fydd y Bil hwn yn atal Rachmaniaeth? Wel, mae Llywodraeth Cymru a mwyafrif y tystion a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor yn sicr yn credu y bydd yn gwneud cyfraniad mawr tuag at hyn. Serch hynny, nid oedd y gefnogaeth yn gyffredinol, gydag un gymdeithas landlordiaid yn awgrymu bod y cynigion yn fiwrocrataidd, yn gostus i denantiaid ac yn aneffeithiol. Bydd rhan 2 y Bil yn cyflwyno diwygiadau i ddeddfwriaeth yn ymwneud â digartrefedd. Mae’r ddeddfwriaeth bresennol yn seiliedig yn bennaf ar ddyletswyddau a gyflwynwyd gan lywodraeth Callaghan ym 1977. Nid yw’r holl ddyletswyddau hynny’n cael eu hepgor, ond mae’r Bil yn rhoi pwyslais newydd ar atal digartrefedd ac, o hyn ymlaen, bydd gan awdurdodau lleol ddyletswydd i sicrhau tai i rai grwpiau o ymgeiswyr yr ystyrir bod angen blaenoriaethol arnynt. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i adrodd yn ôl ar ddichonolrwydd diddymu statws angen blaenoriaethol dros gyfnod o amser. Fodd bynnag, bydd gan yr ymgeiswyr hynny nad oes angen blaenoriaethol arnynt o dan y Bil, fynediad at gymorth mwy sylweddol nag sydd ganddynt ar hyn o bryd diolch i ddyletswydd newydd i "helpu i sicrhau" llety.    Galwodd y Pwyllgor am eglurhad ynglŷn â pha ffactorau y gall awdurdod lleol eu hystyried wrth gyflawni’r ddyletswydd hon. Yn sgîl y Bil, bydd Cymru yn cymryd y camau cyntaf i gefnu ar y cysyniad o “fwriadoldeb” wrth ymdrin â digartrefedd, gan y gall awdurdodau lleol ddiystyru bwriadoldeb mewn rhai achosion. Un o’r agweddau mwyaf dadleuol ar y Bil yw dileu statws angen blaenoriaethol awtomatig carcharorion, cynnig a wrthwynebwyd gan lawer o sefydliadau’r trydydd sector, er ei fod yn cael cefnogaeth eang gan awdurdodau lleol.    Roedd mwyafrif aelodau’r Pwyllgor yn "bryderus" ynglŷn â’r cynnig. Gall awdurdodau lleol gyflawni’u dyletswyddau i ymgeiswyr sydd ag angen blaenoriaethol yn y sector rhentu preifat gyda thenantiaeth o chwe mis, o leiaf. Dim ond gyda chaniatâd yr ymgeisydd y gall hynny ddigwydd ar hyn o bryd. Cefnogwyd y newid hwn gan lawer o awdurdodau lleol a oedd yn ei weld fel ffordd o ymdrin â’r prinder tai cymdeithasol. Fodd bynnag, roedd mwyafrif aelodau’r Pwyllgor yn gweld tenantiaeth o chwe mis yn rhy fyr, a galwyd am iddo fod yn isafswm o 12 mis. Bydd y Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil ar 1 Ebrill 2014. Mae gan y Bil dri chyfnod arall i fynd drwyddynt yn y Cynulliad cyn iddo gael Cydsyniad Brenhinol ac mae’n debygol o gael ei ddiwygio cyn iddo ddod yn ddeddf.