20 fed Pen-blwydd Freedom Food

Cyhoeddwyd 26/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

25 Mawrth 2014 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru 800_480_FF_new_website_logo

Mae Freedom Food yn gynllun gwarant a labelu bwyd o’r DU sydd wedi ymrwymo i wella lles anifeiliaid fferm. Daeth y cwmni, a sefydlwyd gan yr RSPCA 20 mlynedd yn ôl, yn elusen yn 1996 a dyma’r unig un o’i fath yn y DU.

Mae’r logo Freedom Food, sydd i’w weld ar becynnau cig, pysgod ac wyau, yn dynodi bod yr anifeiliaid wedi cael eu harchwilio i afonau lles anifeiliaid fferm yr RSPCA.Mae’r safonau hyn yn cynnwys:

  • y ddarpariaeth o fwyd a diod i’r anifeiliaid,
  • eu hamgylchedd,
  • y dull o’u rheoli,
  • eu gofal iechyd,
  • eu cludiant a’u
  • lladd heb boen.

‘Mae’r safonau’n sicrhau bod yr anifeiliaid yn cael deiet maethlon ac amgylchedd cyfforddus a symbylol sy’n bodloni eu hanghenion corfforol ac ymddygiadol’ Freedom Food.

Caiff ffermwyr, deorfeydd, cludwyr, rhai sy’n trin anifeiliaid, lladd-dai a phroseswyr eu harchwilio ac mae swyddogion da byw fferm yr RSPCA yn cynnal ymweliadau monitro .

Ers ei gychwyn ym 1994 mae’r cynllun Freedom Food wedi cynnwys 600 miliwn o wartheg, cywion ieir, hwyaid, ieir, moch, defaid a thwrcïod. Heddiw mae oddeutu 50% o’r ieir sy’n dodwy yn y DU naill ai mewn ysguboriau, yn ieir buarth neu’n organig, (y mwyafrif yn cael eu magu o dan y cynllun Freedom Food) a chaiff tua 28% o’r moch a fegir yn y DU eu magu o dan y cynllun Freedom Food.

Ar hyn o bryd mae gan y cynllun fwy na 3,000 o aelodau ar draws y diwydiant ffermio a chynhyrchu bwyd ac mae tua 900 o wahanol linellau o gynnyrch wedi’u labelu o dan Freedom Food mewn archfarchnadoedd.

Cynhelir gweithgareddau drwy gydol 2014 i ddathlu’i lwyddiant o ran cymryd ‘camau sylweddol i ddatblygu lles anifeiliaid fferm’ fel cydnabyddiaeth o’i 20fed Pen-blwydd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i’w wefan, Facebook a Twitter.