Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD) i gyflwyno adroddiad ar addysg yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

26 March 2014 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD) yn cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru cyn bo hir, yn dilyn ei adolygiad o addysg yng Nghymru. OCDE_10cm_4cMae'r Gwasanaeth Ymchwil ar ddeall y bydd Llywodraeth Cymru'n cael yr adroddiad ar ddechrau mis Ebrill, gyda'r canfyddiadau i'w cyhoeddi yn fuan ar ôl hynny. Mae'r OECD wedi ymgymryd â'r gwaith hwn ar gais Llywodraeth Cymru. Gwnaed y penderfyniad i gomisiynu'r adolygiad gan y cyn-Weinidog, Leighton Andrews, ar 4 Rhagfyr 2012. Mae'r adolygiad yn canolbwyntio ar addysg a hyfforddiant i blant oed 3 i 16, gan gynnwys pontio i'r cyfnod hwn a phontio oddi wrtho. Mae'r adolygiad hefyd wedi ystyried pa mor effeithiol ac addas y bu'r polisïau a roddwyd ar waith yng Nghymru o ran cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru. Roedd datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar y pryd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am yr hyn a ofynnwyd i'r OECD ei wneud. Y prif amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad oedd:
  • Darparu asesiad allanol o ansawdd a thegwch canlyniadau addysgol yng Nghymru.
  • Defnyddio'r gwersi a oedd yn deillio o'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) [sy'n cael ei chynnal gan yr OECD] a gwledydd/rhanbarthau eraill sy'n meincnodi, er mwyn darparu dadansoddiad arbenigol o brif agweddau polisi addysg yng Nghymru.
  • Gwahodd yr OECD, ar sail ei ddadansoddiad, i dynnu sylw at feysydd polisi a chamau gweithredu a allai ychwanegu gwerth i ddiwygiadau addysg Llywodraeth Cymru.
Yn ôl adroddiad ar benderfyniad gan Lywodraeth Cymru, dyddiedig 16 Hydref 2013, bu tîm o'r OECD yn ymweld â Chymru rhwng 14 ac 18 Hydref 2013 er mwyn gwneud ei waith. Gellir cael rhagor o wybodaeth am ganlyniadau PISA diweddaraf Cymru mewn dogfen a gyhoeddwyd gan y Gwasanaeth Ymchwil, sef PISA 2012.