Awr Ddaear WWF

Cyhoeddwyd 28/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

28 Mawrth 2014 Erthygl gan Chloe Corbyn, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru EH-2014-Stamp-with-background Bydd 20.30 nos Sadwrn 29 Mawrth 2014 yn nodi'r 8fed Awr Ddaear flynyddol, digwyddiad a drefnir gan Gronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) sy'n annog unigolion, busnesau a llywodraethau i ddiffodd goleuadau nad ydynt yn hanfodol am awr, fel symbol o ymrwymiad i'r blaned. O'i ddechreuad yn Sydney yn 2007, mae'r Awr Ddaear wedi tyfu bob blwyddyn, ac mae bellach yn digwydd mewn 150 o wledydd a 7000 o drefi a dinasoedd ledled y byd. Nod yr Awr Ddaear yw ymgysylltu ag ystod eang o bobl a sefydliadau ar amrywiaeth eang o faterion amgylcheddol a dangos eu hymrwymiad i gymryd cyfrifoldeb am eu hôl troed ecolegol. Nid yw'n honni bod yn ymarfer lleihau ynni neu garbon – cam gweithredu symbolaidd ydyw. Yng Nghymru, cefnogwyd Awr Ddaear 2013 gan 200 o ysgolion, hanner yr awdurdodau lleol a 18 o Aelodau'r Cynulliad. Roedd y Senedd a Chanolfan Mileniwm Cymru ymhlith yr adeiladau nodedig a aeth yn dywyll. Eleni, mae deg adeilad yng Nghymru yn 'mynd yn dywyll' gan gynnwys y Senedd, Gwesty Dewi Sant, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chastell Coch. Mae Awr Ddaear 2014 yng Nghymru yn cael ei chysylltu â'r sgwrs genedlaethol ar #thewaleswewant a lansiwyd ym mis Chwefror. Mae Dymuniadau ar gyfer Cymru gynaliadwy (#welshwish) yn gofyn i bobl sut y maent am i'r Bil Cenedlaethau'r Dyfodol sydd ar y gweill arwain Cymru tuag at yr amcan Cymru Un Blaned o ddefnyddio dim ond ein cyfran deg o adnoddau'r ddaear. Hyd yma mae 429 o 'ddymuniadau' wedi'u gwneud ar y safle.