Teithiau gan ddefnyddwyr bysiau ym Mhrydain

Cyhoeddwyd 01/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

1 Ebrill 2014 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cyhoeddi ystadegau chwarterol ar gyfer bysiau sy'n cynnwys amcangyfrifon ynghylch nifer y teithiau a wneir gan ddefnyddwyr bysiau lleol, yn ogystal â phrisiau tocynnau ledled Prydain. Mae'n cynnwys yr ystadegau diweddaraf ar gyfer monitro tueddiadau allweddol yn y sector bysiau lleol. Mae'r ystadegau diweddaraf yn cwmpasu chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2013. Cyhoeddwyd y rhain ar 11 Mawrth 2014. Er bod y datganiad ei hun yn ymwneud yn bennaf â Lloegr, mae'r tablau ystadegol yn cwmpasu Prydain yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys ffigurau ar gyfer Cymru a'r Alban. Mae Tabl 1 isod yn crynhoi'r ffigurau chwarterol diweddaraf a'r ffigurau treigl blynyddol diweddaraf mewn perthynas â defnyddwyr a phrisiau tocynnau bws lleol. Tabl 1: Ffigurau chwarterol a ffigurau treigl blynyddol mewn perthynas â theithiau defnyddwyr bysiau lleol a phrisiau tocynnau bws lleol (chwarter 4 2013) (Ffynhonnell: Yr Adran Drafnidiaeth)Table-cy Mae ystadegau manwl ar gael yng Nghyfres Ystadegau Bws yr Adran Drafnidiaeth (mae nifer y defnyddwyr i'w weld yn BUS01 a'r mynegai prisiau tocynnau bws i'w weld yn BUS04) Gan ddefnyddio ffigurau'r Adran Drafnidiaeth ar gyfer teithiau defnyddwyr ar wasanaethau bysiau lleol fesul ardal fetropolitanaidd a gwlad ar gyfer Prydain Fawr yn ei chyfanrwydd (ffigurau chwarterol, o 2004-05) mae'r Gwasanaeth Ymchwil wedi cynhyrchu siart sy'n dangos teithiau ar wasanaethau bysiau lleol ym Mhrydain, fesul gwlad, fel mynegai, a hynny er mwyn hwyluso cymhariaethau o dueddiadau mewn gwledydd. Caiff y cam hwn ei gyflwyno yn siart 1 isod. Graph-cy Nodiadau ar gyfer tabl 1 a siart 1:
  • Dylid dehongli'r ffigurau ar gyfer chwarteri unigol yn ofalus, gan y gall cyfnodau hir o dywydd gwael neu amseroedd gwyliau cyhoeddus amharu arnynt.
  • Mae'r data ar gyfer teithiau gan ddefnyddwyr bysiau lleol yn amcangyfrifon sy'n seiliedig ar banel chwarterol o'r 18 gweithredwyr mwyaf nad ydynt yn weithredwyr metropolitanaidd, Gweithrediaethau Trafnidiaeth Teithwyr (ar gyfer ardaloedd metropolitanaidd) a Transport for London (TfL).
  •  Mae'r ffigurau chwarterol yn llai manwl na'r ystadegau blynyddol, sy'n ceisio cynnwys manylion am bob taith, gan gynnwys y rhai a wnaed gyda chwmnïau llai.
  • Mae'r mynegai prisiau tocynnau bws chwarterol yn seiliedig ar arolwg sampl a gynhaliwyd gyda thua 100 o gwmnïau bysiau a TfL, sy'n darparu data bob chwarter.
  • Mae'r mynegai yn siart 1 yn seiliedig ar 2004/05 er mwyn sicrhau bod y ffigurau'n gyson yn dilyn newid yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd gan yr Adran Drafnidiaeth yn y flwyddyn honno.
  • Mae nodiadau llawn ar ffynonellau data, cryfderau a gwendidau i'w gweld ar dudalen 4 o'r datganiad ystadegol (gweler y linc uchod).