Rhywogaethau goresgynnol estron

Cyhoeddwyd 02/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Ebrill 2014 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1070" align="aligncenter" width="500"]Llun o Flickr gan USFWS-Pacific Region. Dan drwydd Creative Commons. Llun o Flickr gan USFWS-Pacific Region. Dan drwydd Creative Commons.[/caption] Yng nghanol 2013, cynhaliodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad ymchwiliad i effeithiau rhywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru. Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 2 Ebrill. Beth yw rhywogaethau goresgynnol estron? Rhywogaethau anfrodorol neu 'estron' yw rhywogaethau sydd wedi cael eu symud y tu allan i'w hystod naturiol gan weithgarwch dynol, naill ai'n ddamweiniol neu'n fwriadol. Os yw'r rhywogaeth a gyflwynwyd wedyn yn goroesi ac yn atgynhyrchu, ystyrir ei bod wedi ennill ei phlwyf. Dosberthir rhywogaethau estron fel rhai goresgynnol pan fo'u presenoldeb yn arwain at ganlyniadau negyddol yn yr ardal lle cawsant eu cyflwyno, fel achosi dirywiad mewn bioamrywiaeth frodorol, achosi difrod economaidd neu effeithio ar iechyd dynol. Mae'r gyfradd o rywogaethau goresgynnol estron sydd wedi'u sefydlu ym Mhrydain wedi cynyddu ers 1800. Nododd astudiaeth a gomisiynwyd gan Defra y cafwyd 280 o rywogaethau goresgynnol estron ym Mhrydain Fawr yn 2012, gan gynnwys ffyngau, micro-organebau, planhigion ac anifeiliaid. Rhwng 2000 a 2010, sefydlwyd cyfartaledd o 1.4 rhywogaeth oresgynnol estron ychwanegol ym Mhrydain bob blwyddyn. Rhagwelir y bydd y gyfradd o rywogaethau goresgynnol estron newydd yn parhau i gynyddu, gyda thwf mewn masnach a theithio a newid hinsawdd. Pa rywogaethau goresgynnol estron sydd o bryder penodol yng Nghymru? Mae enghreifftiau o rywogaethau goresgynnol estron sydd o bryder penodol yng Nghymru yn cynnwys:
  • Rhododendron; mae'n trechu fflora brodorol
  • Clymog Japan; mae'n achosi difrod strwythurol i seilwaith
  • Jac y neidiwr; mae'n hyrwyddo erydu glannau afon
  • Ewin mochyn; mae'n trechu pysgod cregyn masnachol bwysig
  • Cimwch yr afon signal; yn rhagflaenu wyau pysgod brodorol
  • Chwistrelliad môr carped; mae'n maeddu offer dyframaeth a gwelyau cregyn gleision.
Beth yw cost rhywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru? Mae'r costau sy'n gysylltiedig â rhywogaethau goresgynnol estron yn cynnwys eu heffeithiau andwyol a'r gost o'u hatal, eu rheoli neu gael gwared arnynt. Fe wnaeth adroddiad gan CABI (y ganolfan ar gyfer biowyddorau amaethyddol rhyngwladol) , ac a gomisiynwyd gan Defra, amcangyfrif mai'r costau marchnad sy'n gysylltiedig â rhywogaethau goresgynnol estron oedd £125 miliwn y flwyddyn yng Nghymru. Gall rhywogaethau goresgynnol estron hefyd arwain at gostau sylweddol nad ydynt yn gostau marchnad drwy leihau bioamrywiaeth frodorol ac amharu ar ddarpariaeth gwasanaeth yr ecosystem. Canfu adolygiad gan CABI o 16 o asesiadau cyhoeddedig fod amcangyfrifon o gostau nad ydynt yn gostau marchnad sy'n gysylltiedig â rhywogaethau goresgynnol estron, ar gyfartaledd, 57 gwaith yn uwch na'r amcangyfrif o gostau marchnad. Mae hyn yn awgrymu y gallai cyfanswm cost rhywogaethau goresgynnol estron fod mor uchel â thua £7 biliwn y flwyddyn yng Nghymru. Pa gamau y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn o bryd? Sefydlwyd bwrdd rhaglen rhywogaethau anfrodorol Prydain Fawr yn 2005 mewn ymateb i adolygiad Defra o bolisïau ar rywogaethau goresgynnol estron a oedd wedi canfod diffyg ymdrechion cydlynol ar gyfer rheoli rhywogaethau goresgynnol estron ym Mhrydain Fawr. Mae bwrdd y rhaglen yn cynnwys cynrychiolwyr o Defra, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a'r asiantaethau perthnasol a chaiff ei genogi gan yr ysgrifenyddiaeth rhywogaethau anfrodorol sy'n cydlynu gweithredu gan lywodraeth a rhanddeiliaid anllywodraethol. Cyhoeddodd bwrdd y rhaglen ei strategaeth fframwaith ar rywogaethau anfrodorol goresgynnol ar gyfer Prydain Fawr yn 2008. Nid oes grym cyfreithiol iddi ond mae'n nodi argymhellion allweddol ar gyfer rheoli rhywogaethau goresgynnol estron. Gweithgor Cymru ar rywogaethau goresgynnol anfrodorolsy'n gyfrifol am weithredu'r strategaeth hon yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd yn 2008 a chaiff ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru. Beth yw deddfwriaeth berthnasol y DU? Y ddeddfwriaeth fwyaf nodedig sy'n cynnwys darpariaethau sy'n berthnasol i rywogaethau goresgynnol estron yw adran 14 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy'n rheoli rhyddhau a diangfeydd rhywogaethau anfrodorol ym Mhrydain Fawr, a Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, sy'n ei gwneud yn ofynnol i holl weithredoedd a gyflawnir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr roi ystyriaeth i fioamrywiaeth. A oes deddfwriaeth Ewropeaidd ar reoli rhywogaethau goresgynnol estron? Ar hyn o bryd, nid oes un darn o ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu rhywogaethau goresgynnol estron ar draws yr UE. Fodd bynnag, mae sefydliadau'r UE wrthi'n negodi rheoliad newydd sy'n ceisio gwneud hyn. Ar 9 Medi 2013, cynigiodd y Comisiwn Ewropeaidd ddeddfwriaeth COM (2013)620 a oedd yn canolbwyntio ar reoli 50 rhywogaeth oresgynnol estron o bryder mwyaf yn yr UE, gan ganolbwyntio ar atal eu cyflwyno, rhybudd cynnar, ymateb cyflym a rheoli'r rhywogaethau goresgynnol estron hynny sydd eisoes wedi ennill eu plwyf. Mae'r Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop wedi dod i gytundeb dros dro ar y ddeddfwriaeth newydd. Mae Llywyddiaeth Gwlad Groeg o'r cyngor wedi cytuno i argymhelliad y Senedd y dylai'r rhestr o rywogaethau goresgynnol estron fod yn benagored ac na ddylid gosod terfyn uchaf o 50. Bydd yn rhaid i'r cytundeb gael ei gymeradwyo'n ffurfiol gan y Senedd a Chyngor y Gweinidogion. Cynhelir pleidlais o gyfarfod llawn y Senedd ar 15 Ebrill 2014 a bwriada'r cyngor ddod i benderfyniad ar ôl pleidlais y Senedd. Rhagor o wybodaeth: Y Comisiwn Ewropeaidd Rhywogaethau goresgynnol estron Ysgrifenyddiaeth Rhywogaethau Estron Prydain Fawr Diweddariad polisi yr EU gan y Gwasanaeth Ymchwil Atal a rheoli'r broses o gyflwyno a lledaenu rhywogaethau goresgynnol estron