Mynd at Wraidd y Mater: Bygythiad yr Oedi i Weithredu'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Cyhoeddwyd 07/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

7 Ebrill 2014 Erthygl gan Nia Seaton, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

OLYMPUS DIGITAL CAMERA

Ym mis Rhagfyr 2013, ar ôl proses negodi hir a oedd weithiau'n anodd, cafodd y pedwar prif reoliad sy'n llywodraethu'r polisi amaethyddol cyffredin eu mabwysiadu'n ffurfiol ar gyfer y saith mlynedd nesaf. Y bwriad gwreiddiol oedd rhoi'r polisi amaethyddol cyffredin newydd ar waith yn 2014 ond fe'i gohiriwyd am flwyddyn oherwydd yr amser a gymerwyd i ddod i gytundeb ac oherwydd bod angen i lywodraethau gael digon o amser i roi systemau talu ar waith.

Er bod llawer o aelod-wladwriaethau a llywodraethau rhanbarthol eisoes wedi dechrau ymgynghori ar y cynigion amlinellol ar gyfer gweithredu'r polisi amaethyddol cyffredin nesaf, roedd cafeat ar yr ymgynghoriadau hynny. Roedd testun y prif reoliadau y cytunwyd arnynt yn rhoi darlun da o'r gofynion y byddai angen eu gweithredu o dan y polisi amaethyddol cyffredin nesaf, ond gadawyd llawer o fanylion rhai o'r elfennau mwyaf cymhleth i'w cynnwys yn yr hyn a elwir yn ddeddfau dirprwyedig.

Mewn modd tebyg i'r system is-ddeddfwriaeth sy'n gweithredu yn y Cynulliad, lle mae rhai o'r manylion gweithredu yn cael eu hepgor o destunau deddfwriaeth sylfaenol, cafodd nifer o fanylion mwyaf technegol y polisi amaethyddol cyffredin eu gadael mewn gwirionedd i system is-ddeddfwriaeth yr UE. Rhan o'r system honno yw'r weithdrefn deddfau dirprwyedig.

Mae Comisiwn yr UE, mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr o'r aelod-wladwriaethau, yn llunio deddfau manwl sy'n cynnwys manylion technegol a fydd yn pennu sut y bydd pethau'n gweithio'n ymarferol. Er enghraifft, mewn perthynas â diwygio'r polisi amaethyddol cyffredin presennol, byddant yn cynnwys manylion ynghylch sut y bydd y taliadau gwyrdd a'r gofynion ffermwyr actif yn gweithio.

Pan fydd y Comisiwn wedi cyhoeddi'r deddfau dirprwyedig hyn byddant yn dod i rym oni bai bod aelod-wladwriaethau neu Senedd Ewrop yn eu gwrthwynebu. I bob pwrpas, mae gan y ddau sefydliad er feto dros y deddfau hyn.

Cyhoeddwyd deddfau dirprwyedig ar gyfer y polisi amaethyddol cyffredin gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 11 Mawrth 2014. Gobeithiwyd y byddai'r deddfau hyn wedi eu cyhoeddi ynghynt ond buont yn destun trafodaethau dwys yng ngwahanol Gyfarwyddiaethau’r Comisiwn gyda Chyfarwyddiaeth yr Amgylchedd a'r Gyfarwyddiaeth Hinsawdd ill dwy yn awyddus i weld safonau amgylcheddol uwch yn cael eu cyflwyno.

Mae'r aelod-wladwriaethau a'r llywodraethau rhanbarthol sy'n gyfrifol am weithredu'r polisi amaethyddol cyffredin wedi datgan ei bod yn hanfodol bod y deddfau dirprwyedig hyn yn cael eu mabwysiadu cyn gynted â phosibl i'w galluogi i roi'r systemau talu ar waith. Yn ogystal, efallai y bydd yr etholiadau i Senedd Ewrop ym mis Mai yn golygu y gallai methu â mabwysiadu'r deddfau hyn cyn diwedd y sesiwn Seneddol hon achosi oedi pellach.

Fodd bynnag, mae Aelodau o'r Pwyllgor Amaethyddiaeth yn Senedd Ewrop wedi nodi eu bod yn amharod i gefnogi'r deddfau fel y'u drafftiwyd oherwydd gwrthwynebiadau ynghylch manylion ardaloedd â ffocws ecolegol.Mae'n debyg bod 10 cynnig yn gwrthod y deddfau wedi'u gosod gan aelodau'r Pwyllgor. Dywedodd AGRAFACTS ar 3 Ebrill 2014 bod y Comisiwn Ewropeaidd yn paratoi i gynnig consesiynau trwy ddeddf ddirprwyedig arall, ond gwrthwynebwyd hyn yn chwyrn gan sefydliadau amgylcheddol. Mae Ariel Brunner, Pennaeth Polisi'r UE ar gyfer Birdlife International, wedi datgan bod elfennau gwyrdd y polisi amaethyddol cyffredin yn troi'n 'ffars' ac mae wedi awgrymu bod rhai Aelodau Senedd Ewrop yn gwneud newidiadau cyn yr etholiad er mwyn cael cefnogaeth gan sefydliadau ffermio.

Mae un peth yn sicr, os bydd Senedd Ewrop yn gwrthod testunau'r deddfau dirprwyedig, y bydd hynny cyn bwysiced â phan oedd dod i gytundeb ar y prif reoliadau yn y fantol. Bydd Pwyllgor Amaethyddiaeth Senedd Ewrop yn cyfarfod heddiw i ystyried y camau nesaf.