Adolygiad y Comisiwn Ewropeaidd o'r Amgylchedd Morol

Cyhoeddwyd 10/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

10 Ebrill 2014 Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1085" align="alignnone" width="300"]Llun:o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons. Llun:o Flickr gan Ben Salter. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd (y Comisiwn) wedi rhybuddio bod angen 'ymdrechion brys' i wella'r amgylchedd morol i'r lefel ofynnol o dan gyfraith yr UE erbyn 2020.

Ar 20 Chwefror 2014, cyhoeddodd y Comisiwn ei adolygiad o'r adroddiadau gan aelod-wladwriaethau ar gyflwr presennol eu dyfroedd morol. Mae'n ofynnol i aelod-wladwriaethau lunio'r adroddiadau hyn er mwyn cydymffurfio â gofynion Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol (y Gyfarwyddeb). Mae'r Gyfarwyddeb yn nodi y dylai holl ddyfroedd morol yr UE gyrraedd 'statws amgylcheddol da' erbyn 2020.

Y Gyfarwyddeb, a roddwyd ar waith yn 2008, yw'r darn hollgynhwysol cyntaf o ddeddfwriaeth yr UE i ddiogelu'r amgylchedd morol. O dan y Gyfarwyddeb, mae'n rhaid i aelod-wladwriaethau: bennu disgrifyddion o beth fydd cyflawni statws amgylcheddol da yn ei olygu ar gyfer eu moroedd; datblygu strategaethau monitro; a chreu cynlluniau gweithredu sy'n nodi sut y maent yn bwriadu cyflawni targedau'r Gyfarwyddeb. Daeth adolygiad y Comisiwn i'r casgliad bod lefel wael o weithredu'r Gyfarwyddeb, dealltwriaeth wael o beth yw statws amgylcheddol da, a bod targedau'n aml yn anuchelgeisiol ac yn rhai na ellir eu mesur. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddiffygion mewn cydgysylltiad rhwng gwledydd ar draws moroedd rhanbarthol ac wrth integreiddio â deddfwriaethau amgylcheddol eraill.

Mae'r adolygiad yn dangos bod lefelau rhai sylweddau peryglus a llygredd maetholion yn parhau'n uwch na'r terfynau derbyniol. Mae dihysbyddu ocsigen yn arbennig o ddifrifol yn y Baltig a'r Moroedd Duon. Mae sbwriel morol, yn enwedig plastig, yn bryder cynyddol gyda 712 o eitemau o sbwriel fesul darn 100m o'r traeth ar hyd Arfordir yr Iwerydd.

Mae adroddiad cysylltiedig gan Asiantaeth yr Amgylchedd Ewrop yn dangos bod llai nag 20% o gynefinoedd a rhywogaethau morol mewn amodau sy'n cynrychioli statws amgylcheddol da.

Dywedodd Comisiynydd yr Amgylchedd Janez Potočnik:

The message is clear: Europe's seas and oceans are not in good shape. But we depend on these seas, and we need to find a balance. That means finding ways to reap their economic potential without increasing the pressure on an already fragile environment, creating growth and jobs that are secure in the long term.

Mae adroddiad y DU wedi'i grwpio gyda naw aelod-wladwriaeth arall yn yr adolygiad o Ogledd-ddwyrain yr Iwerydd. Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at gyflawniadau a diffygion asesiad morol y DU. Mae rhai ohonynt yn cynnwys y canlynol:

  • roedd y Deyrnas Unedig yn un o dair aelod-wladwriaeth i roi dyfarniad clir a therfynol ar statws presennol y cynefinoedd;
  • roedd y Deyrnas Unedig yn un o bedair aelod-wladwriaeth i roi adroddiad ar y mathau o gynefinoedd colofn ddŵr;
  • roedd y DU yn un o ddwy aelod-wladwriaeth i roi dyfarniad ansoddol o statws presennol y rhan fwyaf o'r grwpiau rhywogaethau/swyddogaethol yr adroddwyd arnynt;
  • ni wnaeth y DU adrodd ar ecosystemau;
  • roedd cydlyniad yn isel rhwng y DU a gwledydd eraill yn rhanbarth y Môr Celtaidd o ran eu targedau; ac
  • eithriodd y DU ddangosyddion fel cymarebau maetholion a thryloywder dŵr o asesiadau statws amgylcheddol da.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at adroddiad y DU ac mae'n gyfrifol am sicrhau bod dyfroedd morol Cymru yn cyflawni statws amgylcheddol da erbyn 2020. Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd yng Nghymru tuag at dargedau'r Gyfarwyddeb gan nifer o sefydliadau yn ystod Ymchwiliad Morol y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Fodd bynnag, teimlai rhanddeiliaid hefyd y gallai gofynion y Gyfarwyddeb weithredu fel adnodd pwerus ar gyfer darparu amgylchedd morol gwell yng Nghymru.

Y camau nesaf

O ganlyniad i'r adolygiad, bydd y Comisiwn yn rhoi argymhellion i'r aelod-wladwriaethau ar sut i oresgyn yr heriau a nodwyd. Bydd y Comisiwn yn trefnu cyfres o gyfarfodydd rhanbarthol er mwyn cytuno ar y camau dilynol.

Mae'r Comisiwn wedi annog aelod-wladwriaethau i wella cydweithrediad rhanbarthol drwy Gonfensiynau Môr Rhanbarthol (mae'r rhain yn bedwar strwythur cydweithredu sy'n ceisio diogelu'r amgylchedd morol a dwyn ynghyd aelod-wladwriaethau a gwledydd cyfagos sy'n rhannu dyfroedd morol yn Ewrop) cyn ei adroddiad nesaf yn 2018.

Mae'r Comisiwn hefyd am ddiwygio'r gyfraith sy'n diffinio statws amgylcheddol da erbyn 2015 er mwyn ei gwneud yn fwy eglur a gwella cymaroldeb a chydlyniad.