Ystadegau prentisiaethau

Cyhoeddwyd 11/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

11 Ebrill 2014

Erthygl gan Michael Dauncey a Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar bobl sy'n dechrau prentisiaethau yn dangos bod nifer y bobl sy'n dechrau prentisiaethau yng Nghymru wedi cynyddu o 17,910 yn 2011/12 i 28,030 yn 2012/13 (cyhoeddir ystadegau ar brentisiaethau yn ôl blwyddyn academaidd). Roedd hyn yn dilyn gostyngiad cyffredinol yng Nghymru yn ystod y dirywiad economaidd, er bod nifer y bobl sy'n ddechrau prentisiaethau yn awr yn uwch na lefel 2007/08. Tabl 1: Niferoedd sy'n dechrau prentisiaethau yng Nghymru Welsh Apprenticeships table Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, ystadegau addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu cymunedol

Nodiadau

a) Cyflwynwyd prentisiaethau uwch yn 2011/12 i ddisodli'r Diploma Sgiliau Modern.

b) rhwng 2007/08 a 2010/11, roedd prentisiaethau yn cael eu galw'n brentisiaethau modern ac roedd prentisiaethau sylfaenol yn cael eu galw'n brentisiaethau modern sylfaenol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi newid pwyslais ei rhaglen prentisiaethau dros y blynyddoedd diwethaf, gan geisio mynd i'r afael â diweithdra ymysg pobl ifanc ochr yn ochr â pholisïau eraill megis Twf Swyddi Cymru.  Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar brentisiaethau yn 2012, dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau ar y pryd, sef Jeff Cuthbert AC, er bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fabwysiadu rhaglen brentisiaeth i bob oedran, ei bod wedi ymrwymo i gynyddu cyfleoedd prentisiaeth i bobl ifanc yn ei Rhaglen Lywodraethu, gan gydnabod effaith anghymesur y dirwasgiad ar ddiweithdra ymysg pobl ifanc. Ar y llaw arall, mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn nodi bod pobl dros 25 oed yn cynrychioli tri chwarter o'r cynnydd yn nifer y prentisiaethau a ddechreuodd yn Lloegr rhwng 2009/10 a 2011/12. Yn 2011/12, roedd 44% o bobl a ddechreuodd brentisiaethau yn Lloegr yn 25 oed neu hŷn, o gymharu â 18% yn 2009/10. Fel rhan o gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ystod hydref 2012, cytunwyd ar £20 miliwn ychwanegol i ddarparu 5,650 o brentisiaethau ychwanegol yn 2013-14 a 2014-15, a bydd 2,650 ohonynt yn uwch brentisiaethau. Mae ffigurau cynnar a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2013/14 ar 3 Ebrill 2014 yn dangos y bu cynnydd yn nifer y bobl a ddechreuodd brentisiaethau rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2013 o 2,950 o gymharu â'r ffigurau rhwng mis Awst a mis Rhagfyr 2012, ac roedd 1,365 ohonynt o ganlyniad i gynnydd mewn prentisiaethau uwch.  Yn dilyn y cytundeb ar y gyllideb yn hydref 2013 rhwng Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, mae'r dyraniad cyllid ychwanegol wedi'i ymestyn i 2015-16. Weithiau, caiff prentisiaethau yng Nghymru a Lloegr eu cymharu, gan gynnwys yn Siambr y Cynulliad o bryd i'w gilydd. Gall cymariaethau o'r fath fod yn anodd: yn gyntaf, o ganlyniad i gyngor Llywodraeth Cymru y dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau uniongyrchol oherwydd gwahaniaethau mewn methodoleg a chasglu data, ac yn ail oherwydd bod cryn dipyn o wahaniaethau rhwng polisïau Cymru a Lloegr.

Hefyd, nododd y Dirprwy Weinidog yn ei dystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor ym mis Mai 2012 fod polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi'i nodweddu gan bwyslais clir ar gynyddu cyfraddau cwblhau.

Mae cyfraddau cwblhau fframweithiau prentisiaeth uwch wedi bod yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr dros y blynyddoedd diwethaf.  Fodd bynnag, cynyddodd nifer y prentisiaid sy'n gadael rhaglenni o fewn 8 wythnos i ddechrau prentisiaeth yn 2012/13. Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu efallai bod y cynnydd yn nifer y prentisiaid sy'n gadael y rhaglen o fewn yr wyth wythnos gyntaf yn gysylltiedig â'r ffaith bod mwy o bobl yn dechrau prentisiaethau. Ffigur 1: Cyfraddau cwblhau prentisiaethau yng Nghymru a Lloegr Welsh Apprenticeships graph Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, ystadegau ar fesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer addysg bellach (AB), dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned; ystadegau yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau ar gyfranogiad y dysgwr, canlyniadau a lefelau cymhwyster uchaf Nodyn: Nid yw'r ffigurau ar gyfer Cymru yn cynnwys prentisiaethau uwch oherwydd nid yw'r rhain wedi'u cynnwys yn ystadegau Llywodraeth Cymru ar y cyfraddau llwyddiant fframwaith, oherwydd y niferoedd bach, anghynrychioliadol sy'n gadael. Fodd bynnag, mae nifer y bobl a ddechreuodd brentisiaethau yn Lloegr wedi cynyddu mwy na'r nifer yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddyblu rhwng 2008/09 a 2012/13. Cafwyd cynnydd o dros 240,000 rhwng 2009/10 a 2010/11. Roedd hyn yng nghyd-destun nod Llywodraeth glymblaid y DU o sicrhau bod 50,000 o bobl ychwanegol dros 19 oed neu hŷn. Yn 2012/13, dechreuodd 510,200 o bobl brentisiaethau yn Lloegr, tra dechreuodd 28,030 yng Nghymru. Mae rhagor o fanylion am yr ystadegau ar gyfer Lloegr ar gael ar yma.