Tlodi tanwydd a diffyg mynediad at rwydwaith nwy

Cyhoeddwyd 30/04/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

30 Ebrill 2014 Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Diffinnir tlodi tanwydd fel yr angen i wario dros 10% o incwm y cartref ar ynni er mwyn gwresogi'r cartref i lefel dderbyniol. Yn 2008, amcangyfrifwyd bod 332,000 o gartrefi yng Nghymru yn dioddef o dlodi tanwydd. Yng Nghymru wledig roedd cyfran y cartrefi a oedd yn dioddef o dlodi tanwydd yn 42% yn 2008, bron i ddwbl y ffigur o ran tlodi tanwydd mewn ardaloedd trefol, a oedd yn 22%. Mae cartrefi gwledig yn aml yn defnyddio tanwyddau gwahanol i nwy i wresogi eu cartrefi gan ei bod yn fwy tebygol nad ydynt ar y prif rwydwaith nwy. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif bod cyfanswm nifer y bobl sy'n dioddef o dlodi tanwydd yng Nghymru wedi cynyddu 54,000 yn ychwanegol i 386,000 o gartrefi yn 2012. Yn ddiweddar mae'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) wedi llunio amcangyfrifon o nifer y cartrefi nad oes ganddynt fynediad at y prif rwydwaith nwy ledled Prydain Fawr. Mae'n amcangyfrif nad oedd gan 15% o'r holl gartrefi fynediad at y prif rwydwaith nwy yng Nghymru yn 2012 (tua 195,000 o gartrefi). Yn ôl yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, mae hyn yn cymharu â chyfartaledd o tua 10% ar gyfer Lloegr, 18% ar gyfer yr Alban ac 11% ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol. Mae amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei hun o nifer y cartrefi sydd heb fynediad at y prif rwydwaith nwy yng Nghymru rywfaint yn uwch, sef tua 264,500 o gartrefi. Mae'r map isod yn dangos y nifer amcangyfrifedig o gartrefi yn ôl Ardal Gynnyrch Ehangach Is Cyfrifiad 2011 nad oeddent wedi cysylltu â'r rhwydwaith nwy yn 2012. Er gwybodaeth, ar gyfer rhai Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is, nid oes data ar gael. Map 1 Nogas 2012 Number CYM Mae'r map yn dangos yn glir fod gan y rhan fwyaf o gartrefi fynediad at y prif rwydwaith nwy yn yr ardaloedd trefol yn y gogledd a'r de, tra bod gan lawer o ardaloedd gwledig Cymru nifer uwch o gartrefi sydd heb fynediad at y prif rwydwaith nwy. Ar wahân i'r rhan fwyaf o ganolbarth a gorllewin Cymru, a llawer o ogledd Cymru sydd i ffwrdd o'r arfordir a Sir y Fflint/Wrecsam, ymhlith yr ardaloedd eraill sy'n sefyll allan mae ardaloedd gwledig o Fro Morgannwg, Sir Fynwy a'r Gŵyr. Nid yw'r tair ardal olaf hyn yn ardaloedd sy'n gysylltiedig yn draddodiadol â lefelau uchel o dlodi. Mae hefyd yn bosibl mapio codau post unigol nad oes ganddynt fynediad at y prif rwydwaith nwy, naill ai'n ddomestig neu'n annomestig. Mae'r map hwn yn dangos patrwm tebyg gyda'r crynodiad o'r mynediad at y prif gyflenwad nwy yn yr ardaloedd mwy adeiledig o Gymru. Map 2 Nogas Postcode 2013 CYM Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn 2013 y bydd yn cynnal astudiaeth i wella ei dealltwriaeth o'r materion sy'n ymwneud â thai a thlodi tanwydd mewn ardaloedd gwledig a beth y gellid ei wneud i leihau tlodi tanwydd yn yr ardaloedd hyn. Yn flaenorol mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mapiau tlodi tanwydd lleol ar gyfer pob awdurdod lleol yng Nghymru. Gan fod y rhain wedi'u llunio gan ddefnyddio'r data o Arolwg Byw yng Nghymru 2004 a Chyfrifiad 2001, maent yn annhebygol o adlewyrchu'r lefelau cywir o dlodi tanwydd heddiw. Er hynny, maent yn ddefnyddiol o hyd gan ei bod yn annhebygol fod y crynodiad cymharol o dlodi tanwydd rhwng ardaloedd gwahanol wedi newid yn sylweddol. Mae'r data a gafwyd o'r gwaith hwn ac sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn dangos mai'r ardaloedd sydd â'r lefelau uchaf o dlodi tanwydd pan gynhaliwyd yr astudiaeth oedd mewn ardaloedd trefol fel Caerdydd, Abertawe, Casnewydd a'r Barri, y Cymoedd a hefyd mewn rhai o'r ardaloedd gwledig mwy anghysbell - yn arbennig yng ngogledd-orllewin Cymru. Map 3 Fuel Poverty 2004 CYM Wrth edrych ar y mapiau hyn gyda'i gilydd, maent yn dangos er y gall diffyg cysylltiad â'r prif gyflenwad nwy fod yn ffactor sy'n cyfrannu at dlodi tanwydd, nid oes cydberthynas uniongyrchol ledled Cymru rhwng ardaloedd nad oes ganddynt fynediad at y prif gyflenwad nwy ac ardaloedd sydd â lefelau uchel o dlodi tanwydd.