Faint mae rheilffyrdd Cymru’n ei gostio?

Cyhoeddwyd 01/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

1 Mai 2014 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1164" align="alignnone" width="300"]Llun o Wikimedia. Dan drwydd Creative Commons. Llun o Wikimedia a Geograph.org.uk. Dan drwydd Creative Commons.[/caption]   Ar 16 Ebrill 2014 cyhoeddodd Swyddfa Rheoleiddio’r Rheilffyrdd (ORR) ei adroddiad GB rail industry financial information 2012-13, un o gyfres o gyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan yr ORR fel rhan o’i raglen tryloywder. Y rhifyn hwn yw’r trydydd cyhoeddiad blynyddol am wybodaeth ariannol am y rheilffyrdd ar gyfer Prydain. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar incwm a gwariant Network Rail a gweithredwyr masnachfreintiau i deithwyr. Fodd bynnag, mae’n cydnabod pwysigrwydd cludo nwyddau a gweithrediadau mynediad agored i deithwyr ac mae’r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad lefel uchel o’u cyfraniad ariannol. Mae’r dadansoddiad yn cyflwyno gwybodaeth ariannol ar lefel genedlaethol, ranbarthol (yn cynnwys, Cymru, Lloegr a’r Alban) ac ar lefel gweithredwyr trenau, sy’n caniatau i gymhariaethau gael eu gwneud.  Mae hyn yn rhoi syniad o gost gymharol rheilffyrdd yng Nghymru, yn enwedig o ran y graddau y mae rheilffyrdd Cymru’n dibynnu ar arian gan y Llywodraeth. Mae hyn yn berthnasol i’r paratoadau ar gyfer Masnachfraint nesaf Cymru a’r Gororau a’r trafodaethau sy’n digwydd ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli rhagor o bwerau’n ymwneud â’r rheilffyrdd. Mae rhai ffigurau a chymariaethau allweddol ar gyfer Cymru yn cynnwys: ¡    Roedd cyfraniadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i’r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn gyfwerth â 56% o gyfanswm incwm y diwydiant yng Nghymru, yn cynnwys 17% (£96 miliwn) a dalwyd i weithredwyr trenau a 39% (£221 miliwn) a dalwyd i Network Rail; ¡    Mewn cymhariaeth, i Brydain yn ei chyfanrwydd mae’r Llywodraeth yn cyfrannu 31% o gyfanswm incwm y diwydiant , gyda thaliad net o lai na 1% (£38 miliwn) i weithredwyr trenau, a’r gweddill (£4 biliwn) yn cael ei dalu i Network Rail. ¡    Mae arian gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cynrychioli £9.33 i bob taith teithiwr yng Nghymru (o’i gymharu â £2.67 i bob taith ym Mhrydain yn ei chyfanrwydd, £7.60 yn yr Alban, a £2.19 yn Lloegr), a £0.19 i bob cilomedr teithiwr yng Nghymru (o’i gymharu â £0.07 i Brydain yn ei chyfanrwydd, £0.17 i’r Alban, a £0.06 yn Lloegr). ¡    Cyfanswm incwm Trenau Arriva Cymru oedd £293 miliwn, ac roedd £116 miliwn (40%) o hwnnw’n incwm teithwyr, £131miliwn (45%) yn dderbyniadau masnachfraint gan y Llywodraeth a £46 miliwn (16%) wedi’i nodi fel incwm "arall". ¡    Roedd cyfanswm incwm gweithredwyr trenau masnachfraint ar gyfer Prydain yn ei chyfanrwydd yn £9.7 biliwn, ac roedd £7.683 biliwn (79%) o hwnnw’n incwm teithwyr, £1.279 biliwn (13%) yn dderbyniadau masnachfraint gan y Llywodraeth a £0.739 biliwn (8%) o ffynonellau “eraill”. Dylid nodi i’r Llywodraeth hefyd gael £1.241 biliwn mewn taliadau premiwm gan weithredwyr masnachfreintiau fel bod Llywodraeth Prydain yn ei chyfanrwydd wedi gwneud cyfraniad net o bron i £0.038 biliwn i weithredwyr masnachfreintiau. ¡    Ar gyfer Trenau Arriva Cymru, daw 34.4% o incwm teithwyr o docynnau teithio rheoleiddiedig, a 65.5% o docynnau teithio anreoleiddiedig. Mae hyn, yn fras, yn unol â’r ffigur ar gyfer Prydain yn ei chyfanrwydd lle mae 34.5% o incwm teithwyr yn dod o docynnau teithio rheoleiddiedig. Sylwer: Mae tocynnau teithio rheoleiddiedig yn rhoi cap ar gyfanswm gwerth tocynnau teithio mewn “basged tocynnau teithio” benodol. Bob hydref, mae llywodraeth Cymru, llywodraeth y DU a llywodraeth yr Alban yn nodi faint y gall cyfanswm y fasged tocynnau teithio gynyddu ar sail Mynegai Prisiau Manwerthu mis Gorffennaf y flwyddyn flaenorol.  Caiff pris tocynnau teithio anreoleiddiedig eu pennu’n fasnachol gan bob cwmni gweithredu trenau.