Llwybr Arfordir Cymru: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach

Cyhoeddwyd 16/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mai 2014 Erthygl gan Gareth Jenkins, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1217" align="alignnone" width="300"]Photo by Gareth Jenkins Photo by Gareth Jenkins[/caption] Mae Llwybr Arfordir Cymru yn sicrhau bod gan gerddwyr fynediad i arfordir Cymru gyfan (dynodir 85 y cant o'r arfordir hwn yn fannau o bwysigrwydd amgylcheddol). Yn ddiweddar, dathlwyd dwy flynedd ers agor y llwybr mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar draeth Southerndown ym Mro Morgannwg. Mae llwybr yr arfordir, sy'n 870 milltir o hyd, yn cysylltu Queensferry yn Sir y Fflint â Chas-gwent yn Sir Fynwy. Mae cynlluniau presennol, fel Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro, Arfordir Treftadaeth Morgannwg a Llwybr Arfordirol Ynys Môn, wedi'u cysylltu gan ddarn newydd sy'n 50 milltir o hyd ac sydd â mynediad cyhoeddus. Yn sgîl agor y llwybr, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr cyhoeddus di-dor o amgylch ei harfordir cyfan. Cafodd y wlad ei chynnwys ar frig rhestr y Lonely Planet o'r Deg Rhanbarth Orau yn 2012, ochr yn ochr â lleoliadau twristiaeth a gydnabyddir yn fyd-eang fel Kenya a Sisili. Mae'r ystadegau a ddarparwyd gan wefan y llwybr yn dangos y cynhaliwyd 152,000 o ymweliadau i'r wefan swyddogol, gan gynnwys mwy na 1,000 o ymweliadau, fesul gwlad, o Unol Daliaethau America, yr Almaen, Canada, yr Iseldiroedd ac Awstralia. Ym mis Tachwedd 2013, comisiynodd Llwybr Arfordir Cymru adroddiad i ddadansoddi effaith economaidd y llwybr. Mae'r adroddiad yn cynnwys data a oedd ar gael hyd at fis Medi 2013. Mae'n datgan bod 2.8 miliwn o ymwelwyr wedi defnyddio'r llwybr mewn rhyw ffordd yn ystod y cyfnod hwnnw. Er bod dros hanner y rheiny yn ymwelwyr dydd a oedd wedi teithio o gartref, roedd dros draean o ymwelwyr wedi defnyddio'r llwybr fel rhan o wyliau hirach. Amcangyfrifir mai'r darn sydd wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr a ddenodd y nifer fwyaf o ymwelwyr (666,625 o ymweliadau), ac mai'r darn sydd wedi'i leoli yng Nghonwy a ddenodd y nifer lleiaf (3,456 o ymweliadau). Casgliad yr adroddiad yw bod Llwybr Arfordir Cymru wedi cynhyrchu buddion economaidd gwerth £32.3 miliwn i Gymru, gan ragori ar y targed o £10.54 miliwn. Yn ogystal, mae'r llwybr wedi creu 815 o swyddi llawn/rhan-amser drwy wariant cyfalaf cychwynnol, sydd wedi arwain at 41 o swyddi (sy'n cyfateb i 28.2 o weithwyr llawn-amser) a gefnogir gan Lwybr Arfordir Cymru. Mae'r adroddiad yn amcangyfrif bod hyn wedi creu lefel o gyflogaeth sy'n cyfateb i 715 o flynyddoedd person. Fodd bynnag, mae'r llwybr wedi wynebu heriau yn ddiweddar o ganlyniad i'r patrymau tywydd eithafol a darodd Prydain y gaeaf hwn. Gwelwyd rhai o'r stormydd gwaethaf mewn 20 mlynedd. Cafodd y tywydd hwnnw, a oedd yn anarferol o ddifrifol, effaith benodol ar arfordir Cymru, gan achosi difrod sylweddol ym Mae Ceredigion. O ganlyniad, bu nifer o ymyriadau a gwyriadau mewn perthynas â llwybr yr arfordir. Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru adroddiadau ym mis Chwefror ac ym mis Ebrill 2014 a amlinellodd y difrod a ddioddefwyd mewn dros 70 o leoliadau ar y llwybr (gweler y ffigur isod). Amcangyfrifir fod costau atgyweirio o £340,000 hyd yma. Mae rhannau o'r llwybr wedi cael eu dargyfeirio a/neu eu cau yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr. WCP pic Mewn ymateb i ddifrod y stormydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu cyllid gwerth £545,000 i awdurdodau lleol arfordirol yn benodol er mwyn iddynt allu atgyweirio difrod i Lwybr Arfordir Cymru a achoswyd gan y stormydd. Daw hyn ar ben y £1.15 miliwn a fuddsoddwyd yn 2013/14 at ddibenion cynnal a chadw cyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi hyd at £2 filiwn y flwyddyn yn y llwybr rhwng 2007 a 2013. Ategwyd yr arian hwn rhwng 2009 a 2013 gan £3.9 miliwn o Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop.