Y gostyngiad ym mhris cig eidion: lansio adolygiad o'r diwydiant cyfan

Cyhoeddwyd 19/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

19 Mai 2014 Erthygl gan Alex Royan,  Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1222" align="alignnone" width="300"]Gwartheg Du Cymreig – brîd brodorol a ddefnyddir yn fasnachol ar gyfer cig eidion. Llun o Wikimedia. Trwydded Creative Commons. Gwartheg Du Cymreig – brîd brodorol a ddefnyddir yn fasnachol ar gyfer cig eidion. Llun o Wikimedia. Trwydded Creative Commons.[/caption] Mae'r sector cig coch yn ei gyfanrwydd (gan gynnwys cynhyrchion cig eidion a chig oen) yn cyfrannu tua 40% at allbwn amaethyddol Cymru. Amcangyfrifir fod y sector yn werth cyfanswm o fwy nag £1 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, ac mae'n cynnal tua 172,000 o swyddi, gyda gwerth mwy na £200 miliwn o allforion y flwyddyn. Felly, mae'r diwydiant cig coch yn hanfodol bwysig i gynnal yr economi wledig yng Nghymru. Gall amrywiadau ym mhris cig coch arwain at oblygiadau sylweddol ar hyd y gadwyn gyflenwi, gan effeithio ar ffermwyr, proseswyr a gwerthwyr. Ar 12 Mai 2014, cyhoeddodd Hybu Cig Cymru (HCC) – y corff a arweinir gan y diwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch o Gymru – adolygiad o ddyfodol y diwydiant cig eidion yng Nghymru ar ôl i'r gymuned ffermio yng Nghymru fynegi pryderon ynghylch y gostyngiad diweddar mewn prisiau. Ledled Prydain Fawr, ers dechrau 2014, mae pris cyfartalog pwysau bustach marw wedi gostwng yn raddol o 384.2 ceiniog y cilogram, ar ei uchaf, i 346 ceiniog y cilogram yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 10 Mai. Ar hyn o bryd, mae pwysau bustych marw yn werth 54 ceiniog y cilogram yn llai nag ydoedd yn 2013; sydd gyfwerth â lleihad o rhwng £170 a £200 yn incwm y ffermwr fesul bustach. Mae'r graff canlynol yn dangos y tueddiadau o ran prisiau cyfartalog pwysau bustych marw rhwng 2012 a 2014 yng Nghymru a Lloegr. Hyd yma, mae'r prisiau wedi gostwng yn gyson yn 2014, ond mae'r pris presennol yn dal ychydig yn uwch na hanner cyntaf 2012. [caption id="attachment_1223" align="alignnone" width="601"]Ffynhonnell y data: HCC Ffynhonnell y data: HCC[/caption]   Yn ôl HCC, gostyngodd y prisiau oherwydd cynnydd yng nghyflenwad y DU o wartheg wedi'u pesgi a chynnydd mewn mewnforion, ynghŷd â gostyngiad mewn galw gan gwsmeriaid. Er gwaethaf cynnydd o 1%, o gymharu â'r llynedd, yn nifer y gwartheg wedi'u pesgi a broseswyd drwy ladd-dai yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn, cafwyd gostyngiad o 70% mewn pwrcasau, gan awgrymu cynnydd yng nghyfanswm y cyflenwad. Dywedodd Gwyn Howells, Prif Weithredwr HCC: "Bydd adolygiad HCC yn ystyried yr holl opsiynau er mwyn sicrhau dyfodol hyfyw, cynaliadwy a hirdymor i fuches eidion Cymru.   Dyna a fyddai orau i bawb – ffermwyr, proseswyr a gwerthwyr – sef cael diwydiant cig eidion llewyrchus yn y wlad hon i ateb y galw cynyddol am gig eidion cartref o safon. Dylai pob rhan o'r gadwyn gyflenwi gydweithio i gyflawni'r nod hwn." Bydd yr adolygiad yn archwilio a oes cysylltiad rhwng y gostyngiad ym mhrisiau cig eidion o Gymru a'r cynnydd mewn mewnforion cig eidion o Iwerddon. Mae cynhyrchwyr Iwerddon yn cael 310 ceiniog am bob cilogram o gig eidion, ac maent yn ffynhonnell ratach o safbwynt proseswyr. Cafwyd cynnydd mewn mewnforion cig eidion yn ystod deufis cyntaf 2014, o Weriniaeth Iwerddon a'r Iseldiroedd yn enwedig. Gweriniaeth Iwerddon yw'r ffynhonnell fwyaf o ran cig eidion a gaiff ei fewnforio i'r DU o gryn dipyn – yn 2012, cafodd 159,800 o dunelli o gig eidion o Iwerddon ei fewnforio i'r DU, ac mae hynny'n gyfwerth â dros ddwy ran o dair o'r holl fewnforion cig eidion. Nid yw terfynau amser penodol yr adolygiad wedi'u cyhoeddi eto. Mae'r siart cylch isod yn dangos cyfraniad mewnforion cig eidion o Weriniaeth Iwerddon i farchnad y DU o gymharu â'r ffynonellau mwyaf eraill o ran mewnforion cig eidion. Beef_pieWelsh Croesawyd adolygiad HCC gan Undeb Amaethwyr Cymru. Dywedodd Brian Thomas, Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod y gostyngiad ym mhrisiau bustych yn effeithio'n wael ar ffydd ffermwyr yn y diwydiant ac efallai bod angen buddsoddi er mwyn sicrhau hyfywedd hirdymor y diwydiant. Wrth ymateb i'r gostyngiad cyffredinol mewn prisiau, dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru ym mis Chwefror fod cynaliadwyedd y farchnad ar gyfer cig eidion o Gymru o dan fygythiad ac y dylai gweithredwyr ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi wneud rhagor i helpu ffermwyr. Dywedodd Ivor Beech, cadeirydd sir Undeb Amaethwyr Cymru yng Nghlwyd, "Dyma'r amser gwaethaf am ostyngiad o'r fath, gyda phrisiau cynhyrchu'n dal i godi yn sgîl cynnydd yng nghostau porthiant a gwellt, ar ôl y tywydd gwael dros y gaeaf.