Y Rhaglen Lywodraethu - sut y caiff cynnydd ei fesur?

Cyhoeddwyd 02/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

2 Mehefin 2013 Erthygl gan Graham Winter, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_1305" align="aligncenter" width="200"]Llun o Flickr gan Llywodraeth Cymru. Dan drwydded Creative Commons Llun o Flickr gan Llywodraeth Cymru. Dan drwydded Creative Commons[/caption] Bydd y Prif Weinidog yn gwneud ei drydydd datganiad blynyddol am y cynnydd o ran darparu'r Rhaglen Lywodraethu yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mehefin. Roedd ei ddatganiadau blynyddol blaenorol ym mis Mai 2012 ac ym mis Mehefin 2013.

Mewn dadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn ar ddangosyddion y Rhaglen Lywodraethu, dywedodd y Prif Weinidog:

[…] yr hyn rydym wastad wedi bod eisiau dangos yw ei bod yn bosibl i Aelodau gymharu perfformiad y Llywodraeth o flwyddyn i flwyddyn. Dyna mae’r rhaglen ei hunan yn ei wneud.

Cyhoeddwyd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ym mis Medi 2011. Mae'n cynnwys 'map' ar gyfer y Pedwerydd Cynulliad sy'n pwysleisio'r canlyniadau y mae'r Llywodraeth yn gweithio tuag atynt. Mae'n pennu nodau lefel uchel a chamau gweithredu penodol ar gyfer deuddeg maes polisi eang. Mae hefyd yn dangos sut y bydd y Llywodraeth yn mesur cynnydd a pha Weinidogion sy'n gyfrifol am gyflawni, yn ogystal â phartneriaid allweddol a fydd yn rhan o'r broses honno o gyflawni. Mae rhai o gyfrifoldebau'r Gweinidogion wedi newid o ganlyniad i ad-drefnu'r Cabinet ym mis Mawrth 2013.

O ran lansio'r Rhaglen Lywodraethu, dywedodd y Prif Weinidog:

I was clear in asking for a mandate that this administration would be characterised by a focus on delivery. A mature Government must be able to demonstrate its effectiveness in the delivery of results that people can measure, and in terms of change that can be seen and understood. The programme for government is central to this.

Ar gyfer pob un o'r 12 maes polisi, mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o ddangosyddion canlyniadau hirdymor o ran sut y mae Cymru yn perfformio fel gwlad, yn ogystal â dangosyddion olrhain manylach sy'n dangos sut y mae gwaith Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Er mai bwriad nifer o'r dangosyddion yw dangos 'cyfeiriad teithio' dymunol (e.e. 'cynnydd' yng nghanran yr ynni o ffynonellau adnewyddadwy), nid yw'r rhaglen yn cynnwys targedau penodol i'w cyrraedd.

Tra bod llawer o'r dangosyddion ar ffurf mesurau ystadegol, mae rhai yn asesiadau mwy goddrychol o gynnydd (e.e. Cynnydd yn ôl argymhellion Gwerthusiad y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol). Mae rhai, ond nid pob un, o'r dangosyddion yn cynnwys cymariaethau â rhannau eraill o'r DU.

Mae Adroddiad Blynyddol 2012 yn rhoi gwybodaeth am y cynnydd a wneir tuag at sicrhau'r 122 o ddangosyddion canlyniadau a'r 224 o ddangosyddion olrhain o raglen 2011.

Ychwanegodd Adroddiad Blynyddol 2013 rai dangosyddion canlyniadau ac olrhain newydd, yn ogystal â dileu rhai. Mae tabl sy'n dangos y newidiadau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'n debygol y bydd rhai newidiadau eraill wedi'u gwneud i'r gyfres o ddangosyddion ar gyfer diweddariad 2014. Ynghyd ag Adroddiad Blynyddol 2013, roedd data ar gyfer pob dangosydd ar gael ar-lein ar y wefan am y tro cyntaf, yn hytrach nag fel rhan o'r adroddiad a gyhoeddwyd. Fodd bynnag, nid yw'r wybodaeth hon wedi'i diweddaru ers yr adroddiad blynyddol diwethaf ym mis Mehefin 2013, er bod gwybodaeth fwy diweddar wedi dod ar gael mewn rhai achosion ers hynny.

Sut y caiff cynnydd ei fesur gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill?

Mae Llywodraeth yr Alban yn llunio Rhaglen flynyddol ar gyfer yr Alban sy'n nodi'r ddeddfwriaeth ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, yn ogystal â rhoi crynodeb o gyflawniadau allweddol a phrif nodau Llywodraeth yr Alban ar gyfer y dyfodol - rhai deddfwriaethol ac anneddfwriaethol. Yn ogystal â hyn, mae Scotland Performs yn mesur ac yn adrodd ar gynnydd y llywodraeth yn yr Alban o ran creu gwlad sy'n fwy llwyddiannus, gyda chyfleoedd i bawb ffynnu drwy gynyddu twf economaidd cynaliadwy. Cafodd y Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol, sy'n rhan o'r gwaith hwn, ei fabwysiadu'n wreiddiol yn 2007 a'i ddiweddaru ym mis Rhagfyr 2011.

Caiff cynnydd ei olrhain gan 7 Targed Diben a'i gefnogi gan 16 o Ganlyniadau Cenedlaethol a 50 o Ddangosyddion Cenedlaethol, sy'n cwmpasu mesur cynnydd o ran iechyd, cyfiawnder, yr amgylchedd, yr economi, ac addysg. Cânt eu diweddaru'n rheolaidd wrth i wybodaeth newydd ddod ar gael, yn hytrach nag yn flynyddol. Mae'r 'Targedau Diben' eang yn benodol (e.e. I gyfateb â chyfradd twf CMC gwledydd bach yr UE erbyn 2017). Fodd bynnag, dim ond 'cyfeiriad teithio' dymunol a ddangosir gan y 'Dangosyddion Cenedlaethol, mewn ffordd debyg i'r rheini ar gyfer Cymru.

Cyhoeddodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ei Rhaglen Lywodraethu 2011-2015 ym mis Mawrth 2012. Mae'r rhaglen yn cynnwys pum blaenoriaeth ac 82 o ymrwymiadau. Mae'r blaenoriaethau'n cwmpasu'r economi, iechyd ac anfantais, yr amgylchedd, cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus. Rhoddir cerrig milltir/allbynnau ar gyfer 2011-12, 2012-13 a 2014-15 ar gyfer pob ymrwymiad yn ôl y pum blaenoriaeth. Mae Adroddiad Strategol Ar-lein yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn ôl pob ymrwymiad. Caiff y wybodaeth hon ei diweddaru'n chwarterol.