Cynigion yr UE ar gyfer rheoleiddio’r diwydiant ffermio organig

Cyhoeddwyd 03/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

3 Mehefin 2014 Erthygl gan Alexander Royan, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru   [caption id="attachment_1273" align="alignnone" width="682"]Llun gan Wikimedia. Trwydded Creative Commons. Llun gan Wikimedia. Trwydded Creative Commons.[/caption] Mae ffermio organig wedi’i seilio ar gyfres gaeth o egwyddorion sy’n anelu at gynhyrchu bwyd iach o safon uchel, gan sicrhau ar yr un pryd y ceir yr effaith leiaf bosibl ar yr amgylchedd naturiol. Yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), llywodraethir y diwydiant organig gan reoliadau sy’n gyffredin ledled yr UE . Cyhoeddwyd cynigion gan y Comisiwn Ewropeaidd ar 24 Mawrth 2014, i newid y gyfundrefn reoleiddio bresennol o ran cynhyrchu a labelu cynhyrchion organig, a allai effeithio ar ddatblygiad ffermio organig yng Nghymru. Daw’r cynigion yn dilyn adolygiad, a oedd yn codi pryderon nad yw’r ddeddfwriaeth bresennol wedi aros yn wastad â’r twf yn y sector organig, a’i bod mewn gwirionedd bellach yn atal ffermwyr rhag mentro i’r farchnad organig. Y Rheoliad arfaethedig Y prif amcanion a nodir yn y Rheoliad arfaethedig yw:
  1. cael gwared ar y rhwystrau i ddatblygiad cynhyrchu organig cynaliadwy yn yr UE;
  2. sicrhau cystadleuaeth deg ar gyfer ffermwyr a gweithredwyr;
  3. cynnal neu wella hyder defnyddwyr mewn cynnyrch organig.
Mae’r Rheoliad yn cynnig y bydd yr amcanion hyn yn cael eu cyflawni drwy symleiddio rheolau cynhyrchu, newid systemau rheoli i ddull gweithredu sy’n seiliedig ar risg, a thrwy gysoni rheolau cynhyrchu ar draws aelod-wladwriaethau’r UE. Yn ogystal, byddai’r Rheoliad newydd yn dileu’r angen am archwiliadau blynyddol o’r modd y mae ffermwyr yn cydymffurfio â rheolau cynhyrchu, ac yn cyflwyno ardystiad grŵp ar gyfer ffermwyr bach, i annog rhagor o ffermwyr i ymuno â chynllun organig yr UE. Effaith bosibl ar Gymru Ym mis Mehefin 2010, roedd dros 1,000 o ffermydd organig yng Nghymru, ac roedd oddeutu 8% o’r cyfanswm arwynebedd tir amaethyddol yn cael ei reoli’n organig neu’n cael ei droi’n dir dan reolaeth organig. Mae’r gyfran hon yn uwch na’r gyfran yn Lloegr (4%), yr Alban (3%) a Gogledd Iwerddon (1%). Y meysydd allweddol sydd o ddiddordeb i Gymru yn y Rheoliad fydd:
  • Y cynigion i ddaliadau fod yn organig yn unig: ar hyn o bryd, caiff ffermwyr organig dyfu cynnyrch confensiynol ochr yn ochr â chynnyrch organig os gellir dangos bod hynny’n angenrheidiol i gadw’u busnes yn hyfyw. Fodd bynnag, o dan y Rheoliad arfaethedig, bydd yn rhaid i ffermwyr organig reoli eu daliadau yn eu cyfanrwydd yn organig. Caniateir cyfnod pontio penodol, nad yw wedi’i nodi eto, er mwyn i ffermwyr addasu eu harferion.
  • Tynnu’r eithriadau porthiant anorganig: Mae’r Rheoliad newydd yn nodi bod yn rhaid rhoi porthiant organig yn unig i dda byw organig. Mae hyn yn dileu’r caniatâd i ddefnyddio porthiant confensiynol dros dro, fel porthiant a gaiff ei ddarparu mewn cyfnod o dywydd garw.
Ymateb y Llywodraeth Ar 25 Mawrth amlinellodd Llywodraeth y DU rai pwyntiau cadarnhaol posibl a allai ddeillio o’r cynigion ar gyfer sector organig y DU, gan gynnwys camau gweithredu a ddiffiniwyd am beidio â chydymffurfio â’r cynigion, a fyddai’n arwain at sefyllfa gyfartal ar draws Aelod-wladwriaethau’r UE. Fodd bynnag, mynegodd Llywodraeth y DU bryder arbennig ynghylch cynigion i ddileu lwfansau ar gyfer ffermydd confensiynol-organig cyfochrog gan ei fod yn ystyried bod y mathau hyn o fusnesau yn fwy cyffredin yn y sector organig yn y DU nag yn unman arall yn yr UE. Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae wedi ymgynghori â DEFRA ar y rheoliadau drafft, i sicrhau bod pryderon y gwledydd datganoledig yn cael eu mynegi yn y trafodaethau rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Ymatebion rhanddeiliaid allweddol Cyhoeddodd Organic Farmers & Growers (OF&G) Ltd eu bod o blaid y cynigion, gan dynnu sylw at y manteision i’r sector yn sgîl symleiddio rheoliadau a chael gwared ar rwystrau deddfwriaethol. Ar y llaw arall, roedd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn fwy beirniadol, ac roedd yn ystyried bod y Rheoliad presennol eisoes yn llym iawn. Mae’r NFU o’r farn y gallai’r Rheoliad arfaethedig fygwth twf yn y sector. Mae’r Copa-Cogena - sef grŵp cydweithredol o dros 90 o ffermwyr a sefydliadau amaethyddol yn yr UE yn cytuno â’r farn hon. Mae’r Gwasanaeth Ymchwil wedi llunio Diweddariad Polisi sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am gynnwys y cynigion, a’r cyd-destun yng Nghymru, ac mae hwn i’w weld ar wefan y Cynulliad yma.